Arolwg Cyllideb

Rhannu Arolwg Cyllideb ar Facebook Rhannu Arolwg Cyllideb Ar Twitter Rhannu Arolwg Cyllideb Ar LinkedIn E-bost Arolwg Cyllideb dolen

Consultation has concluded

Mae’r Cyngor wedi wynebu heriau digynsail dros y 20 mis diwethaf oherwydd effaith y pandemig Covid-19, sydd wedi dominyddu ein gweithgareddau a gweithgareddau cymunedau’r sir. Rydym eisiau clywed safbwyntiau trigolion, busnesau, a rhanddeiliaid eraill, fel rhan o broses pennu’r gyllideb fel y gallwn gefnogi ein cymunedau, lle bo angen, yn ystod y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

Fel y byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar adferiad ôl Covid-19, gan gydbwyso’r arian cyfyngedig yn erbyn y twf mewn galw am ein gwasanaethau, defnyddio adnoddau yn effeithiol i gyflwyno’r deilliannau gorau ar gyfer pobl leol, a chyflawni prif flaenoriaethau’r Cyngor, dyma eich cyfle i gyflwyno eich barn a safbwyntiau ar flaenoriaethau ariannu, lefelau Treth y Cyngor a’r cynllun adferiad. Ein nod yw alinio gweledigaethau a disgwyliadau ein cymunedau gyda’r rheini gan y Cyngor a’r Cynghorwyr, gan wneud Powys yn lle gwych i fyw, dysgu, gweithio a chwarae ynddo.

Mae ein harolwg cyllideb yn digwydd pob blwyddyn ac yn caniatáu i ni ddeall yr hyn mae ein trigolion, busnesau a’n cymunedau yn teimlo sy’n bwysig ac y dylid eu blaenoriaethu yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.

Trwy’r ymarferiad ymgynghori hwn, gallwch ganfod mwy am y gwasanaethau a ddarparwn, a sut y maent yn cael eu hariannu trwy ein hanimeiddiad byr: https://www.youtube.com/watch?v=FUfqrVKsdJo&feature=emb_imp_woyt

Mae’r arolwg yn cau ganol nos ddydd Sul 19 Rhagfyr 2021. Gallwch ymateb yn y ffyrdd canlynol:

  • arolwg ar-lein - cliciwch y ddolen ‘dweud eich dweud’ isod
  • arolwg papur - anfonwch e-bost customerservices@powys.gov.uk neu ffoniwch 01597 827460 i ofyn am fersiwn wedi’i hargraffu