Ymgynghoriad cyhoeddus gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar eu Cynllun Gwasanaethau Clinigol
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) yn gyfrifol am wasanaethau iechyd a gofal yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau y gall trigolion Powys eu defnyddio yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais (Aberystwyth) ac Ysbyty Cyffredinol Glangwili (Caerfyrddin) ochr yn ochr ag amrywiaeth o wasanaethau ysbyty a chymunedol eraill yng ngorllewin Cymru.
Maen nhw'n cynnig newid y ffordd y mae rhai o'u gwasanaethau'n cael eu darparu. Mae hyn yn cynnwys newidiadau i Ofal Critigol, Dermatoleg, Llawfeddygaeth Gyffredinol Frys, Endosgopi, Offthalmoleg, Orthopedig, Radioleg, Strôc ac Wroleg.
Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar y gweill tan ddydd Sul 31 Awst 2025. Maen nhw’n awyddus i glywed barn pawb sy'n defnyddio eu gwasanaethau, gan gynnwys trigolion Powys.
Gallwch ddysgu mwy a dweud eich dweud drwy ymweld â'u gwefan ymgynghori.
Gallwch hefyd gwrdd â'r tîm pan fyddant yn ymweld â Machynlleth ddydd Llun 7 Gorffennaf. Mae gwybodaeth am y digwyddiad hwn, yn ogystal â digwyddiadau eraill wyneb yn wyneb ac ar-lein, ar gael o'u gwefan.
Gallwch hefyd gymryd rhan drwy:
- Ddarllen eu dogfen ymgynghori
- Llenwi eu holiadur ar-lein
- Gofyn am gopi caled a'i bostio at Opinion Research Services, FREEPOST SS1018, PO Box 530, Abertawe SA1 1ZL
- E-bostio nhw yn hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk
- Siarad â'u tîm drwy ffonio 0300 303 8322 (opsiwn 5), cyfraddau galwadau lleol
Gallwch hefyd gysylltu â nhw am wybodaeth mewn fformatau amgen fel sain, hawdd ei ddarllen ac Iaith Arwyddion Prydain.
Rydym yn annog pawb ym Mhowys sy'n defnyddio gwasanaethau ysbytai yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin i geisio mwy o wybodaeth a rhannu eich barn.