Datblygu Hybiau Cymunedol yn Llyfrgelloedd Powys

Rhannu ar Facebook Rhannu ar Twitter Rhannu ar LinkedIn E-bostiwch y ddolen hon

Consultation has concluded

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Powys yn cynnal ymchwil ar sut y byddai’n bosibl helpu trigolion i ddefnyddio technoleg a gwasanaethau digidol, trwy ddatblygu hybiau cymunedol a fyddai’n cynnig cymorth a lle i weithio o bell.

Mae’r prosiect ymgysylltu’n cynnwys dau arolwg:

  1. Arolwg Allgáu Digidol a Mynediad at Wasanaethau - Bydd un yn asesu pa mor hawdd neu anodd ydyw i drigolion gyrraedd gwasanaethau a gwybodaeth allweddol ym Mhowys a sut fyddai’n bosibl gwella hynny trwy greu hybiau digidol mewn llyfrgelloedd lle byddai help wrth law.
  2. Arolwg Hybiau Mannau Gwaith Digidol - Bydd y llall yn mesur y diddordeb sydd mewn datblygu mannau gwaith o fewn llyfrgelloedd i’r rhai hynny sydd efallai’n gweithio o adref neu’n ystyried sefydlu busnes bach.

Dywedodd Nina Davies, Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol: “Diolch i nawdd o Gronfa Adfywio Cymunedol y DU, gallwn gynnal ymchwil i wybod mwy am sut y mae trigolion Powys yn defnyddio gwasanaethau ar hyn o bryd, megis cyngor a chymorth neu wasanaethau ariannol, a fyddai sianeli digidol yn help a beth sy’n rhwystro pobl rhag defnyddio gwasanaethau ar-lein.

“Rydym hefyd yn ystyried y posibilrwydd o greu lle ar gyfer rhannu mannau gwaith gan ddefnyddio cyfleusterau lleol lle’n bosibl, a bydd y prosiect hwn yn helpu i fesur y galw am fannau gwaith o’r fath ar draws Powys.”

I gymryd rhan yn y prosiect hwn, ewch i ddolen 'dweud eich dweud' isod.

Gallwch ofyn am gopiau papur o’r arolwg trwy’r gwasanaeth llyfrgelloedd. I gael copi papur, ffoniwch 01874 612394 neu galwch yn eich llyfrgell leol.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn atebion yw dydd Iau 30 Mehefin 2022.

  • CLOSED: This survey has concluded.

    Rydym eisiau asesu pa mor hawdd neu anodd yw hi i bobl gael mynediad at wasanaethau a gwybodaeth allweddol ac a allwn wneud pethau’n haws trwy ddatblygu “hybiau cynhwysiant digidol” a leolir mewn llyfrgelloedd lleol.

    Consultation has concluded
    Rhannu ar Facebook Rhannu ar Twitter Rhannu ar LinkedIn E-bostiwch y ddolen hon
  • CLOSED: This survey has concluded.

    Mae Cyngor Sir Powys yn edrych ar y posibilrwydd o ddatblygu mannau gwaith o fewn llyfrgelloedd cyhoeddus sydd wedi’u hanelu tuag at bobl a all fod yn gweithio o gartref neu’n ystyried dechrau busnes bach ar hyn o bryd. Rydym eisiau gwybod a fyddech o bosibl yn defnyddio cyfleusterau o’r fath ai peidio a beth y gallai eich anghenion fod.