Arolwg Cyllideb 2023
Mae’r arolwg hwn wedi cau.
Mae Cyngor Sir Powys (y cyngor) yn darparu ystod eang o wasanaethau i'n cymunedau, gan wario dros £545m bob blwyddyn ar wasanaethau statudol yn bennaf y mae'n rhaid i ni eu darparu yn ôl y gyfraith.
Bydd y Cyngor yn wynebu pwysau ariannol difrifol dros y flwyddyn ariannol nesaf ac yn y dyfodol rhagweladwy; pwysau a fydd yn tra-arglwyddiaethu dros y ffordd y caiff gwasanaethau’r cyngor eu darparu am lawer o flynyddoedd i ddod.
“Mae’n anochel y bydd y pwysau hyn yn newid y ffordd yr ydym ni’n gweithredu, nid yw cyngor y gorffennol yn parhau i fod yn gynaliadwy. Rhaid i ni addasu os ydym am oroesi ac fel rhan o’n cynllunio yn y dyfodol rydym am glywed oddi wrth gynifer o bobl ag sy’n bosibl i’n helpu ni i lunio cyfeiriad cyllideb y dyfodol,” dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol.
“Nid yw’r darlun llwm sy’n wynebu Powys yn unigryw i’r sir, mae llywodraethau lleol ledled Cymru’n wynebu’r un pwysau. Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrth ymateb i ddatganiad yr hydref fod awdurdodau lleol y wlad yn wynebu twll du gwerth £411 miliwn dros y flwyddyn ariannol a ddaw.
"Mae'r pwysau’n golygu y bydd angen i ni ar gyfer y flwyddyn nesaf (2024-25) ostwng ein gwriant a chynyddu ein hincwm i gydbwyso’r gyllideb i barhau i ddarparu’r gwasanaethau yr ydym ni oll yn dibynnu arnynt. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu rhywfaint o arian ychwanegol a bydd yn rhaid i ni ystyried codi Treth y Cyngor i godi rhagor o arian, ond ni fydd y rhain yn unig yn pontio'r bwlch yn ein cyllideb."
Er mwyn cydbwyso'r gyllideb y flwyddyn nesaf, bydd yn rhaid i ni gymryd allan dros £20m o gostau a hoffem eich mewnbwn i'r ffordd orau y gallwn wneud hyn. Bydd yn cael effaith ar y gwasanaeth rydyn ni'n ei gynnig ond drwy wneud pethau'n wahanol gallwn leihau ein costau.
Rydym angen i chi ein helpu i siapio sut olwg y gallai fod ar y cyngor, byddai’r cyngor yn llai, ond mae'n hanfodol ein bod yn blaenoriaethu'r gwasanaethau i'r rhai sydd angen ein cymorth fwyaf. Gall gwneud pethau'n wahanol ein helpu i ddefnyddio'r arian sydd gennym yn fwy effeithiol.
Bydd eich safbwyntiau yn ein helpu ni i benderfynu ar sut olwg fydd ar y cyngor.
Llenwch yr arolwg byr isod sy'n awgrymu'r newidiadau y mae'n rhaid i ni eu hystyried.