Arolwg Cyllideb Powys 2025

Rhannu Arolwg Cyllideb Powys 2025 ar Facebook Rhannu Arolwg Cyllideb Powys 2025 Ar Twitter Rhannu Arolwg Cyllideb Powys 2025 Ar LinkedIn E-bost Arolwg Cyllideb Powys 2025 dolen

Pam ydyn ni’n gofyn am eich barn?

Mae angen i ni gynllunio sut rydym yn gwario arian ar wasanaethau ar gyfer y flwyddyn 2026–27 a thu hwnt. Bydd eich barn yn ein helpu i benderfynu beth sydd bwysicaf i bobl ym Mhowys.

Bob blwyddyn, rhaid inni osod cyllideb sy'n dangos faint o arian y byddwn yn ei wario ar bethau fel ysgolion, gofal i bobl hŷn, a ffyrdd. Mae costau'n codi, ac mae gennym lai o arian nag sydd ei angen, felly mae'n rhaid inni wneud rhai dewisiadau anodd.

Daw'r rhan fwyaf o'n harian o:

  • Treth y Cyngor
  • Ardrethi Busnes
  • Grantiau'r Llywodraeth
  • Codi tâl am wasanaethau a ddarparwn

Infographic showing how £100 of council tax is spent

Ein meysydd gwariant mwyaf yw:

  • Gwasanaethau Cymdeithasol – helpu oedolion a phlant bregus
  • Ysgolion – sicrhau bod disgyblion yn cael addysg dda
  • Ffyrdd, trafnidiaeth ac ailgylchu

Oherwydd bod Powys yn ardal wledig fawr, mae'n costio mwy i ddarparu gwasanaethau yma nag mewn trefi a dinasoedd mawr.

Beth yw'r her?

Mae angen £29 miliwn ychwanegol flwyddyn nesaf i dalu am gostau cynyddol, yn cynnwys:

  • Codiadau cyflog i athrawon, gweithwyr gofal a staff eraill.
  • Mae prisiau nwyddau a gwasanaethau wedi codi oherwydd chwyddiant costau.
  • Mwy o bobl yn dibynnu ar help gennym ni.
  • Helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
  • Rydym eisoes wedi arbed £52 miliwn dros y 5 mlynedd diwethaf, ond mae angen arbed £19 miliwn arall y flwyddyn nesaf. Yn ychwanegol at gynnydd yn Nhreth y Cyngor.

Mewn beth ydym yn buddsoddi?

Mae gennym gynlluniau mawr i wella Powys, gan gynnwys:

  • Adeiladu ysgolion newydd a gwella rhai sy'n bodoli eisoes
  • Creu mwy o dai cyngor
  • Trwsio ffyrdd a phontydd
  • Diweddaru cartrefi gofal
  • Gwneud adeiladau'r cyngor yn fwy ynni-effeithlon

Dweud eich dweud

Gallwch adael eich adborth ar-lein drwy ein harolwg isod drwy glicio botwm 'CWBLHAU'R FFURFLEN'.

Mae copïau papur ac Hawdd ei Ddarllen o'r arolwg ar gael i'w lawrlwytho neu gellir eu casglu o'ch llyfrgell leol. Dychwelwch ffurflenni wedi'u llenwi at staff y llyfrgell, neu sganiwch a'u hanfon drwy e-bost at haveyoursay@powys.gov.uk.

Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw dydd Sul 4 Ionawr 2026.

Bydd adborth yn helpu i lunio penderfyniadau ar flaenoriaethau fel ysgolion, gofal i bobl hŷn, a chynnal a chadw ffyrdd, gan ein helpu i adeiladu Powys Gryfach, Tecach a Gwyrddach lle mae pob llais yn llunio dyfodol ein cymunedau a'r gwasanaethau sy'n bwysicaf

Stronger Fairer Greener branding

Cyhoeddi: 04 Rhag 2025, 09:00 AC