Arolwg Gwirfoddolwyr Gwasanaethau Cefn Gwlad 2024
Mae’r arolwg hwn wedi cau.
Rydym yn gwneud gwelliannau i’n rhaglen wirfoddoli ac, fel gwirfoddolwr gwerthfawr, hoffem wybod beth yw eich barn.
Ein nod yw creu rhaglen wirfoddoli sy’n rhoi cyfleoedd a gwybodaeth gyson i bawb, sy’n glir ynghylch yr hyn yr ydym i gyd yn ei wneud ac sy’n rhoi mwy o ymdeimlad o ‘dîm’.
Mae gwreiddio cyfleoedd ar gyfer mwy o gysylltiad a chyfathrebu ar draws y sir yn rhywbeth rydym yn gweithio arno, gyda meysydd llai fel y cylchlythyr chwarterol yn dechrau dros y misoedd diwethaf.
Y tu hwnt i hyn, er mwyn galluogi amgylchedd cadarnhaol gyda chefnogaeth dda ar gyfer yr holl wirfoddolwyr, rydym yn edrych ar y ffordd orau o gyflawni rhywbeth sy’n gweithio yn y tymor hir ac sy’n casglu syniadau/barn gan ein holl wirfoddolwyr.
Rydym yn gofyn i’n gwirfoddolwyr presennol fod yn agored ac yn onest gyda lle’r ydym ar hyn o bryd, fel y gallwn gynllunio gwelliannau ar gyfer dyfodol gwell.
Dydi o ddim o bwys os ydych chi wedi bod gyda ni ers blynyddoedd neu newydd ddechrau eich taith. Gyda bod nifer cynyddol a gwirfoddolwyr newydd yn ymuno drwy’r amser, hoffem wybod sut rydych chi'n teimlo am wirfoddoli gyda ni a chasglu eich barn am sut y gallai pethau fod yn well i bawb.
Byddwn ni’n adolygu eich adborth dros yr ychydig fisoedd nesaf, siarad ag eraill a gweithredu newidiadau i’r rhaglen o fis Ebrill 2025.
Mae cyfraniad gwirfoddolwyr yn aruthrol, ac yn hynod bwysig i gynnal y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus ar draws Powys gan ddarparu gwahanol lefelau o weithgaredd i’w wneud yn hygyrch i bawb. Rydym yn gweld hyn yn bendant fel ymdrech tîm a diolch i chi i gyd, am bopeth a wnewch.
Sut i rannu eich barn
Anfonwch eich barn atom drwy ein harolwg ar-lein. Ni ddylai gymryd mwy na 10 munud a gellir gwneud eich sylwadau yn ddienw, os dymunwch.
Eich dewis chi yw darparu eich manylion cyswllt ai peidio a bydd yr holl ymatebion yn cael eu cadw’n gyfrinachol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech fwy o wybodaeth am yr arolwg cysylltwch ag Wendy Abel, Swyddog Prosiect Grantiau Cefn Gwlad drwy e-bost: wendy.abel@powys.gov.uk neu ffoniwch 01597 826722.