Asesiad o Anghenion Fferyllol 2021

Rhannu ar Facebook Rhannu ar Twitter Rhannu ar LinkedIn E-bostiwch y ddolen hon

Daeth Rheoliadau’r GIG (Gwasanaethau Fferyllol) 2020 i rym ar 1 Hydref 2020 ac roeddent yn cynnwys gofyniad i fyrddau iechyd gynhyrchu Asesiad o Anghenion Fferyllol (AAFf) erbyn 1 Hydref 2021. Hwn fydd yr AAFf cyntaf a gyhoeddwyd gan Fyrddau Iechyd Cymru. Mae'r Rheoliadau'n mynnu bod yn rhaid ymgymryd ag AAFf o leiaf bob 5 mlynedd (neu'n gynt os yw Bwrdd Iechyd yn nodi newidiadau sylweddol i'r angen am wasanaethau fferyllol).

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi drafftio ei AAFf cyntaf i asesu a yw gwasanaethau fferyllol a ddarperir yn ei ardal yn diwallu anghenion fferyllol y boblogaeth ym Mhowys.

Bydd yr AAFf yn helpu'r Bwrdd Iechyd i reoli a gwneud penderfyniadau ar geisiadau am fferyllfeydd newydd, adleoli fferyllfeydd presennol a'r ystod o wasanaethau sydd eu hangen.

Sylwch fod yr AAFf yn canolbwyntio ar wasanaethau fferyllol cymunedol, neu'r hyn y gallwch chi gyfeirio atynt fel “Fferyllfeydd”.

Hoffai'r Bwrdd Iechyd gael eich sylwadau ar yr AAFf drafft ac mae'n cynnal ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 1 Mehefin 2021 a 30 Gorffennaf 2021.

I ddweud eich dweud, darllenwch yr AAFf drafft llawn ar y dudalen hon, cyn cwblhau'r cwestiynau: https://www.smartsurvey.co.uk/s/20MBIM/

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am yr ymgynghoriad neu os oes gennych gwestiynau am yr asesiad o anghenion fferyllol, e-bostiwch: Powys.PNA@wales.nhs.uk. Cysylltwch â ni hefyd os oes angen copi printiedig arnoch o'r Asesiad Anghenion Fferyllol drafft.

Diolch. Mae eich barn yn bwysig i ni.

https://www.smartsurvey.co.uk/s/20MBIM/

Rhowch wybod i ni am anghenion fferyllol yn eich cymuned

Bron 3 Blynyddoedd

Mae'r map hwn yn eich galluogi i roi gwybod i ni am wasanaethau fferyllol ym Mhowys nad ydym wedi'u crybwyll yn yr Asesiad Anghenion Fferyllol drafft, ac i roi gwybod i ni am anghenion fferyllol yn ein cymunedau nad ydynt wedi'u nodi yn yr Asesiad Anghenion Fferyllol drafft.

Diweddaru: 25 Mai 2021, 12:58 PM