Asesiad o’r Farchnad Dai Leol

Rhannu Asesiad o’r Farchnad Dai Leol ar Facebook Rhannu Asesiad o’r Farchnad Dai Leol Ar Twitter Rhannu Asesiad o’r Farchnad Dai Leol Ar LinkedIn E-bost Asesiad o’r Farchnad Dai Leol dolen

AR GAU

Mae’r cyngor yn paratoi Asesiad o’r Farchnad Dai Leol o’r newydd (yr Asesiad). Mae’r asesiad yn cynnwys tystiolaeth am anghenion tai cyfredol ym Mhowys ac amcangyfrif o’r anghenion tai fydd yn ymddangos dros y pymtheng mlynedd nesaf.

Mae’r dystiolaeth a gesglir drwy’r asesiad yn darparu sylfaen dystiolaeth. Mae’r dystiolaeth hon yn llywio penderfyniadau polisi tai lleol a Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol i adeiladu tai fforddiadwy.

Mae’r Asesiad hefyd yn ffurfio rhan o’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer awdurdodau cynllunio lleol Powys a Bannau Brycheiniog ill dau. Mae’r asesiad yn ystyriaeth allweddol wrth bennu lleoliad twf tai yn eu cynlluniau datblygu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ac offer sydd angen eu defnyddio i gwblhau’r asesiad. Gellir dod o hyd i’r ddau ar wefan Llywodraeth Cymru: https://www.llyw.cymru/asesiad-or-farchnad-dai-leol-lhma-canllawiau-ar-gyfer-awdurdodau-lleol

Rydyn ni wedi dechrau gyda’r asesiad ac rydyn ni nawr am gael eich adborth chi. Mae’r ddogfen ynghlwm yn darparu gwybodaeth a chyd-destun er mwyn deall yr Asesiad yn well.

Os oes unrhyw ymholiadau gennych neu os hoffech siarad â rhywun, cysylltwch henk.jan.kuipers@powys.gov.uk / 01938 551025.

Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 10 Gorffennaf 2023.

  • AR GAU

    Sylwer: Cyfrifoldeb Cyngor Sir Powys yw sicrhau a diogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn ymateb i arolwg drwy’r porth hwn. Bydd unrhyw ddata personol y byddwch yn ei roi i ni (eich enw llawn, cyfeiriad neu rif ffôn), yn cael ei storio’n ddiogel am gyfnod cyfyngedig yn unig, ac fe’i defnyddir at y dibenion a ddisgrifiwyd yn yr arolwg yn unig ac yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR) a DPA 2018. Cliciwch ar y tab preifatrwydd ar waelod y dudalen i gael rhagor o wybodaeth.

    AR GAU

    Rhannu Arolwg ar Facebook Rhannu Arolwg Ar Twitter Rhannu Arolwg Ar LinkedIn E-bost Arolwg dolen