Cryfhau Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn dilyn ymgynghoriad

Cafodd cynllun a allai lunio darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion ar draws Powys ei gryfhau yn dilyn cyfnod o ymgynghori, yn ôl y cyngor sir.

Mae Cyngor Sir Powys wedi bod yn datblygu ei Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) ar gyfer 2022-2032, dogfen rwymol i sicrhau darpariaeth wedi'i chynllunio'n dda i gynyddu'r cyfleoedd i nifer cynyddol o blant a phobl ifanc ym Mhowys ddatblygu'n gwbl ddwyieithog.

Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru baratoi Cynllun Strategol 10-mlynedd o dan Reoliadau Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019.

Y llynedd, ymgynghorodd y cyngor ar ei fersiwn drafft o'r CSGA ac mae bellach wedi gwneud newidiadau i'r ddogfen ar ôl ystyried yr ymatebion a gafwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Yr wythnos nesaf (dydd Mawrth, 25 Ionawr) bydd y Cabinet yn ystyried y CSGA wedi'i ddiweddaru a gofynnir iddo ei gymeradwyo.

Os caiff ei gymeradwyo, bydd y Cynllun yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w ystyried a'i gymeradwyo.

Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Eiddo: "Mae ein Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a'n Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys yn darparu'r seiliau ar gyfer Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 10-mlynedd newydd y cyngor.

"Roedd yn bwysig i ni ymgynghori ar fersiwn drafft ein Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg gan ein bod am gynyddu'r cyfleoedd i blant a phobl ifanc ym Mhowys ddod yn gwbl ddwyieithog.

"Hoffwn ddiolch i bawb a rannodd farn ar fersiwn drafft ein Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Rydym wedi ystyried y safbwyntiau hyn yn ofalus ac, o ganlyniad, wedi ei gryfhau.

"Bydd y Cabinet nawr yn ystyried y CSGA wedi'i ddiweddaru a byddaf yn argymell ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w ystyried.

"Rydym am wella mynediad i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws holl gyfnodau allweddol addysg a chynyddu'r cyfleoedd i blant a phobl ifanc ym Mhowys ddod yn gwbl ddwyieithog. Credaf fod ein CSGA yn ein gosod ar y ffordd hon."

Bydd y Cynllun a ddiweddarwyd yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau'r cyngor ddydd Llun, 24 Ionawr.

I gael gwybod mwy am addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys, ewch i https://cy.powys.gov.uk/ysgolion a chliciwch ar Taith at Ddwy Iaith.

I gael rhagor o wybodaeth am Drawsnewid Addysg ym Mhowys, ewch i Trawsnewid Addysg.

Rhannu ar Facebook Rhannu ar Twitter Rhannu ar LinkedIn E-bostiwch y ddolen hon

Consultation has concluded

<span class="translation_missing" title="translation missing: cy.projects.blog_posts.show.load_comment_text">Load Comment Text</span>