Newyddion Diweddaraf - Y Cabinet yn cymeradwyo'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg
Cyhoeddodd y cyngor sir y bydd cynllun allai lywio darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ysgolion Powys yn cael ei gyflwyno i'w ystyried gan Lywodraeth Cymru.
Mae Cyngor Sir Powys wedi bod yn datblygu ei Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) ar gyfer 2022-2032, dogfen rwymol i sicrhau darpariaeth wedi'i chynllunio'n dda i gynyddu'r cyfleoedd i nifer cynyddol o blant a phobl ifanc ym Mhowys ddatblygu'n gwbl ddwyieithog.
Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru baratoi Cynllun Strategol 10-mlynedd o dan Reoliadau Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019.
Y llynedd, ymgynghorodd y cyngor ar ei fersiwn drafft o'r CSGA ac mae bellach wedi gwneud newidiadau i'r ddogfen ar ôl ystyried yr ymatebion a gafwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Heddiw (dydd Mawrth 25 Ionawr) fe wnaeth y Cabinet gymeradwyo'r Cynllun diweddaraf a fydd nawr yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru iddynt ei ystyried a'i gymeradwyo.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Eiddo: "Mae ein Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a'n Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys yn darparu'r seiliau ar gyfer Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 10-mlynedd newydd y cyngor.
"Roedd yn bwysig i ni ymgynghori ar fersiwn drafft ein Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg gan ein bod am gynyddu'r cyfleoedd i blant a phobl ifanc ym Mhowys ddod yn gwbl ddwyieithog.
"Hoffwn ddiolch i bawb a rannodd farn ar fersiwn drafft ein Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Rydym wedi ystyried y safbwyntiau hyn yn ofalus ac, o ganlyniad, wedi ei gryfhau.
"Mae'r Cabinet wedi cymeradwyo'r Cynllun diweddaraf a fydd nawr yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru iddynt ei ystyried a'i gymeradwyo."
"Rydym am wella mynediad i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws holl gyfnodau allweddol addysg a chynyddu'r cyfleoedd i blant a phobl ifanc ym Mhowys ddod yn gwbl ddwyieithog. Credaf fod ein CSGA yn ein gosod ar y ffordd hon."
I gael gwybod mwy am addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys, ewch i Taith at Ddwy Iaith.
I gael rhagor o wybodaeth am Drawsnewid Addysg ym Mhowys, ewch i Trawsnewid Addysg.
Consultation has concluded
