Cynllun Corfforaethol Cyd-bwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru

Rhannu Cynllun Corfforaethol Cyd-bwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru ar Facebook Rhannu Cynllun Corfforaethol Cyd-bwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru Ar Twitter Rhannu Cynllun Corfforaethol Cyd-bwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru Ar LinkedIn E-bost Cynllun Corfforaethol Cyd-bwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru dolen

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi cau.

Mae trigolion Canolbarth Cymru yn cael y cyfle i roi eu sylwadau ar Gynllun Corfforaethol Cyd-bwyllgor Corfforaethol (CJC) y rhanbarth.

Crëwyd CJC Canolbarth Cymru, sy’n cynnwys Cynghorau Sir Powys a Cheredigion a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, fel rhan o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Bydd y CJC yn arfer swyddogaethau sy’n ymwneud â’r economi, cynllunio datblygu strategol a chynllunio trafnidiaeth ranbarthol.

Mae'r CJC wedi llunio cynllun corfforaethol ar gyfer 2023-2027 ac mae'n gwahodd trigolion, busnesau a sefydliadau i roi eu sylwadau fel rhan o ymarfer ymgynghori a fydd yn cael ei gynnal dros chwe wythnos.

"Er ei bod hi’n ddyddiau cynnar ar waith y rhanbarth hyd yma, mae’r cynllun yn olrhain diben a chyfeiriad y gwaith ar y cyd rhwng Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Ceredigion ym meysydd yr economi a thrafnidiaeth," meddai Eifion Evans, Prif Weithredwr, Cyd-bwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru.

"Yn ogystal, bydd y ddau Gyngor yn cydweithio â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog o ran creu Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer y rhanbarth. Mae'r CJC wedi olrhain Gweledigaeth ac Amcanion Llesiant, ochr yn ochr ag Asesiad Effaith Integredig, fel rhan o'r Cynllun Corfforaethol.

“Mae’r tri chorff cyhoeddus sy’n gysylltiedig â’r gwaith wedi cydweithio ers nifer o flynyddoedd ar faterion amrywiol, a bydd sefydlu’r CJC yn ffurfioli’r berthynas hon, ac yn ei rhoi mewn fframwaith cyfreithiol.”

Gallwch weld y Cynllun Corfforaethol Drafft yma.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 12 Rhagfyr a bydd y sylwadau’n cael eu hadrodd i gyfarfod y CJC ym mis Ionawr.

  • Newyddion Diweddaraf

    Rhannu Newyddion Diweddaraf ar Facebook Rhannu Newyddion Diweddaraf Ar Twitter Rhannu Newyddion Diweddaraf Ar LinkedIn E-bost Newyddion Diweddaraf dolen

    Faint o bobl a ymatebodd i'r ymgysylltiad?

    7

    Faint o bobl ymwelodd â'r dudalen hon?

    221

    Beth yw'r newyddion diweddaraf?

    Cydbwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru - Dydd Llun, 29ain Ionawr, 2024

    Cytunwyd a derbyn argymhelliad ar gyfer Cynllun Corfforaethol CJC a'r Cynllun Asesu Effaith Gorfforaethol

    Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Davies fod y Cynllun Corfforaethol CJC drafft a'r Cynllun Asesu Effaith Gorfforaethol yn cael ei gytuno a'i dderbyn a'i eilio gan y Cynghorydd Sir Gareth Ratcliffe.