Ateb Eich Cwestiynau

Diweddarwyd 14 Awst 2024

Mae'r dudalen ‘Ateb Eich Cwestiynauyn cael ei diweddaru'n rheolaidd i ymateb i gwestiynau rydych chi'n eu codi gyda ni.


C. Beth yw 13 Ardal Leol Powys?

Mae Powys yn sir fawr gyda thua 133,000 o drigolion ar draws ardal o tua 2000 milltir sgwâr. Felly mae sefydliadau'r sector cyhoeddus ym Mhowys yn cynllunio ein gwasanaethau yn seiliedig ar 13 ardal leol. Mae pob ardal leol yn canolbwyntio ar y trefi mwyaf ym Mhowys a'r ardaloedd cyfagos.

Mae'r dull hwn yn ein helpu ni sicrhau ein bod yn deall ac yn ymateb i anghenion lleol ym mhob ardal, gan gynllunio ar yr un pryd ar sail sir gyfan.

Y tair ardal ar ddeg yw:

  • Ardal Aberhonddu
  • Ardal Llanfair-ym-Muallt a Llanwrtyd
  • Ardal Crucywel
  • Ardal Y Gelli a Thalgarth
  • Ardal Tref-y-clawdd a Llanandras
  • Ardal Llandrindod a Rhaeadr Gwy
  • Ardal Llanfair Caereinion
  • Ardal Llanfyllin
  • Ardal Llanidloes
  • Ardal Machynlleth
  • Ardal Y Drenewydd
  • Ardal Y Trallwng a Threfaldwyn
  • Ardal Ystradgynlais

C. Sut alla i ddarganfod mwy am iechyd a lles ym Mhowys?

Mae'r dogfennau canlynol yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am iechyd a lles ym Mhowys:




Newidiadau Dros Dro Arfaethedig i Unedau Mân Anafiadau

C. Pa gamau y mae'r bwrdd iechyd yn eu cymryd i leihau'r tebygolrwydd y bydd pobl yn mynychu pan fydd yr unedau ar gau?

Rhwng Ionawr a Mai roedd dros 50 achlysur pan oedd angen i Uned Mân Anafiadau ym Mhowys gau gyda'r nos neu dros nos oherwydd staffio, weithiau ar fyr rybudd. Mae hyn yn golygu bod eisoes angen i ni gyfathrebu'n rheolaidd am newidiadau i oriau agor gan gynnwys trwy ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Byddwn yn adeiladu ar y trefniadau sydd eisoes ar waith, yn ogystal â’r canlynol:

  • Mae'r cyfnod ymgysylltu hwn yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o’r cynigion i newid oriau agor Unedau Mân Anafiadau.
  • Bydd yr oriau dros dro arfaethedig yn fwy dibynadwy ac yn llai agored i newid.
  • Byddai’r tair Uned Mân Anafiadau yn Aberhonddu, Llandrindod a'r Trallwng yn gweithredu'r un oriau a fydd yn darparu gwasanaeth mwy cyson.
  • Byddem yn parhau i hyrwyddo'r gwasanaethau sydd ar gael gan GIG 111 Cymru.
  • Byddem yn sicrhau bod arwyddion clir yn yr Unedau Mân Anafiadau i gynghori pobl am wasanaethau amgen.
  • Byddem yn annog mwy o bobl i "ffonio'n gyntaf" ar gyfer Unedau Mân Anafiadau lle bynnag y bo modd. Yn ystod oriau agor, mae ein hymarferwyr nyrsio brys yn gallu ac yn darparu cyngor ar unwaith dros y ffôn, trefnu apwyntiad i gleifion, neu gynghori am wasanaeth arall i arbed ymweliad diangen. Pan fydd Uned Mân Anafiadau ar gau bydd neges ffôn ateb i esbonio'r oriau agor a chyfeirio pobl at 111.
  • Byddem yn parhau i gyhoeddi bob wythnos ar y cyfryngau cymdeithasol gydag amseroedd agor Uned Mân Anafiadau ar gyfer yr wythnos i ddod.
  • Byddem yn parhau i hyrwyddo'r ymgyrch Helpwch Ni i'ch Helpu Chi sy'n cynnwys negeseuon am stocio eich cabinet meddyginiaeth, cyngor gan eich fferyllfa, a'r ystod ehangach o wasanaethau sydd ar gael mewn cymunedau lleol ac ar-lein.

C. Pa wasanaethau y mae Unedau Mân Anafiadau BIAP yn eu darparu?

Mae Unedau Mân Anafiadau yn trin llosgiadau a thoriadau, yn gosod gorchuddion clwyfau ac yn eu newid, a gallant drefnu i belydrau-x gael eu cymryd (dim ond pan fydd cyfleuster pelydr-X ar agor y mae hyn ar gael).

Gall Unedau Mân Anafiadau ym Mhowys drin pobl 2 oed ac yn hŷn.

Dyma rai o'r rhesymau pam mae pobl yn mynychu Unedau Mân Anafiadau ym Mhowys:

  • Anaf i’r cefn
  • Brathiad neu bigiad (gan gynnwys brathiadau pryfed, anifeiliaid a phobl)
  • Mân losgiadau neu sgaldiadau
  • Dulliau brys o atal cenhedlu
  • Mân anafiadau'r llygad, y glust neu'r trwyn, gan gynnwys corffynnau estron
  • Torasgwrn syml
  • Ysigiadau a streifiadau
  • Toriadau, clwyfau a rhwygiad.

C. Pryd ddylwn i fynd i Adran Damweiniau Achosion Brys ("A&E") mewn ysbyty mawr neu ddeialu 999?

Ffoniwch 999 neu ewch i adran damweiniau ac achosion brys am salwch ac anafiadau sy'n peryglu bywyd ac aelodau’r corff gan gynnwys:

  • Tagu
  • Poen yn y frest
  • Llewygu
  • Gwaedu
  • Anaf difrifol
  • Strôc bosibl

C. Ydy Meddygfeydd yn cynnig Gwasanaethau Mân Anafiadau?

Nid yw mân anafiadau'n rhan o'r contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol craidd gyda Meddygfeydd. Ond ym Mhowys, mewn llawer o'r ardaloedd lle nad oes gan BIAP Uned Mân Anafiadau, mae gennym gontract ar waith gyda'r feddygfa i ddarparu gwasanaeth mân anafiadau lleol.

Nid yw'r newidiadau arfaethedig a amlinellir yn y ddogfen hon yn effeithio ar y gwasanaethau hyn.

Gwiriwch gyda'ch practis i ddarganfod pa wasanaethau y maent yn eu darparu.

C. C. Pa opsiynau eraill sydd wedi cael eu hystyried cyn gwneud y cynnig hwn?

Rydym wedi ystyried modelau staffio amgen, ond ni nodwyd unrhyw opsiynau hyfyw. Mae angen i Unedau Mân Anafiadau gael eu rhedeg gan staff sydd â sgiliau arbenigol, ac ym Mhowys mae hyn yn cael eu darparu gan Ymarferwyr Nyrsio Brys medrus.

Hefyd, o ystyried y nifer isel iawn o bresenoldebau yn Unedau Mân Anafiadau dros nos mae'n anodd nodi opsiynau ymarferol sy'n cynnig gwerth da i'r pwrs cyhoeddus.

C. Pam mae gan Unedau Mân Anafiadau amseroedd agor gwahanol?

Yn y gorffennol roedd yr Unedau Mân Anafiadau yn Aberhonddu, Llandrindod a'r Trallwng ar agor 24 awr y dydd.

Fe wnaeth Llandrindod leihau ei horiau dros dro oherwydd heriau staffio. Gostyngodd y Trallwng ei horiau dros dro oherwydd y risg o groes-heintio COVID: roedd y nyrs sy'n gweithio yn yr Uned Mân Anafiadau dros nos hefyd yn gweithio ar y ward, felly roedd hyn yn creu risg haint i gleifion mewnol bregus pe bai'r nyrs hefyd yn trin cleifion yn Uned Mân Anafiadau.

Fel rhan o'n sgwrs barhaus am wasanaethau iechyd, byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu ar yr oriau agor parhaol ar gyfer Unedau Mân Anafiadau yn y dyfodol.

C. Pryd fydd y cyfleusterau pelydr-x newydd yn cael eu gosod?

Nid yw'r dyddiadau ar gyfer gosod cyfleusterau pelydr-x newydd yn Aberhonddu, Llandrindod, Y Drenewydd, Y Trallwng ac Ystradgynlais wedi'u cadarnhau eto. Cadwch lygad allan am fwy o fanylion yn hwyrach yn y flwyddyn.

Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra yn ystod y gwaith gwella hanfodol hwn.

C. Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd y safbwyntiau a rannwch yn cyfrannu at adroddiad ymgysylltu a fydd yn cael ei drafod mewn cyfarfod cyhoeddus o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys cyn gwneud penderfyniadau.

Hoffem hefyd ymgysylltu â chi fel rhan o sgwrs hirdymor o’r Hydref 2024 i sicrhau bod gwasanaethau'r GIG yn ddiogel ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

C. Bydd y cynnig hwn yn effeithio ar sut mae Shropdoc Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau yn gweithredu?

Na fydd. Ni fydd Shropdoc Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau yn cael ei effeithio.

C. Faint o bobl sy'n mynychu UMA yn ystod yr oriau rydych chi'n bwriadu eu cau?

Rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024:

  • Gwelodd UMA Aberhonddu 25.0 o gleifion y dydd ar gyfartaledd yn ystod y dydd (rhwng 8yb ac 8yh) ac 1.4 o gleifion dros nos (un claf bob 8.5 awr rhwng 8yh ac 8yb)

  • Gwelodd UMA Llandrindod 17.3 o gleifion y dydd ar gyfartaledd yn ystod y dydd (1.4 yr awr rhwng 8yb ac 8yh) a 0.9 claf y tu allan i oriau (un claf bob 5.5 awr ar ôl 8yh / cyn 8yb)

  • Gwelodd UMA Y Trallwng gyfartaledd 13.4 o gleifion y dydd (1.1 yr awr) ac nid yw ar agor dros nos

  • Gwelodd UMA Ystradgynlais 7.4 o gleifion y dydd ar gyfartaledd (1 yr awr) ac nid yw ar agor dros nos

C. Beth fyddai’r effaith ar adrannau damweiniau ac achosion brys (A&Es) cyfagos?

Mae sgyrsiau gyda'n hysbytai cyfagos wedi digwydd ac yn seiliedig ar y nifer isel o gleifion sy'n mynychu ein UMA dros nos maent wedi ein sicrhau ni fydd y cynnig hwn yn achosi unrhyw bwysau ychwanegol gormodol.

Ar gyfartaledd mae llai nag un presenoldeb y noson dros nos yn UMA Llandrindod ac 1-2 yn mynychu UMA Aberhonddu dros nos. Gellid gweld y rhan fwyaf o'r rhain pan fydd yr UMA nesaf ar agor. Mae hyn oherwydd bod UMA yn gweld pobl ag anafiadau isel i gymedrol.

Pan nad yw UMA ar agor, mae GIG 111 yma i gael cyngor gofal brys. Mae gwirwyr symptomau defnyddiol ar gael ar-lein yn 111.wales.nhs.uk ac mae 111 ar gael i ffonio 24 awr y dydd am ddim. Mae hon yn ffynhonnell ardderchog o gyngor ar hunanofal a chymorth cyntaf, yn ogystal ag asesu a oes gan glaf anghenion sydd angen sylw ar unwaith. Fel nawr, bydd pobl sydd ag anafiadau mwy sylweddol na ellir eu trin yn UMA yn parhau i gael eu cyfeirio at adrannau damweiniau ac achosion brys.

Ar hyn o bryd mae tua un claf yr wythnos sy'n mynychu UMA ym Mhowys yn cael ei gyfeirio at adrannau damweiniau ac achosion brys.

C. Beth ddylwn i ei wneud os nad yw MIU ar agor?
Fel nawr, pan nad yw UMA ar agor, mae GIG 111 yma i gael cyngor gofal brys. Mae gwirwyr symptomau defnyddiol ar gael ar-lein yn 111.wales.nhs.uk ac mae 111 ar gael i ffonio 24 awr y dydd am ddim. Mae hon yn ffynhonnell ardderchog o gyngor ar hunanofal a chymorth cyntaf, yn ogystal ag asesu a oes gan glaf anghenion sydd angen sylw ar unwaith.

Am anafiadau sy'n peryglu bywyd ac aelodau, ffoniwch 999 neu ewch i adrannau damweiniau ac achosion brys.



Gwasanaethau Cleifion Mewnol Ysbytai Cymunedol

C. A fyddai cleifion yn symud i ysbyty gwahanol?

Byddai’r cynigion hyn dim ond yn effeithio ar gleifion newydd sy'n cael eu derbyn i ysbyty cymunedol ym Mhowys.

Byddai’r cleifion sydd eisoes mewn ysbyty ym Mhowys fel arfer yn aros yn yr un ward nes eu bod yn cael eu rhyddhau. Ond efallai y bydd manteision i ansawdd y gofal a'r canlyniadau i rai cleifion o symud i ysbyty gwahanol. Yn yr amgylchiadau hyn byddem - fel nawr - yn trafod yr opsiynau hyn gyda chleifion a theuluoedd.

C. A fyddai’r oriau ymweld yn newid?

Bydd yr oriau ymweld yn hyblyg a byddant yn parhau i fod yn hyblyg, gydag aelodau o'r teulu yn gallu ymweld ar adegau sy'n addas iddyn nhw. Fel arfer mae aelodau’r teulu yn ffonio ymlaen llaw cyn yr ymweliad a bydd ein staff ward yn ceisio bodloni cymaint o geisiadau â phosibl i gefnogi lles cleifion.

C. Beth am aelodau o'r teulu sydd eisiau ymweld ond bydd angen iddyn nhw deithio ymhellach?

Mae'n bosibl mai dyma'r effaith fwyaf ar rai aelodau o'r teulu sy'n dymuno ymweld â'u hanwyliaid. Mae'n debygol y bydd y cynnig yn golygu bydd amser teithio byrrach i rai pobl ac i eraill amser teithio hirach i gyrraedd y ward.

Rydym yn cydnabod hyn a byddem yn darparu opsiynau digidol i alluogi aelodau'r teulu i weld a chyfathrebu â'n cleifion ar gyffyrddiad botwm. Rydym yn buddsoddi mewn rhywfaint o offer i alluogi hyn fel opsiwn pan fydd teithio yn broblem.

Gall Traveline Cymru ddarparu llwybrau bysiau ac amserlenni i helpu gyda hyn.

Efallai y bydd cymorth ar gael hefyd gan wasanaethau trafnidiaeth gymunedol. Mae mwy o wybodaeth am drafnidiaeth gymunedol ym Mhowys ar gael ar wefan Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys. Os ydych chi'n cael trafferth dysgu am opsiynau teithio, yna mae'r gwasanaeth Cysylltwyr Cymunedol a ddarperir gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys yma i'ch helpu cysylltu chi â sefydliadau cymunedol yn eich ardal.

C. A fyddai swyddi'n cael eu colli?

Ni fyddai unrhyw un yn colli ei swydd. Rydym wedi cael trafferth recriwtio staff i'r swyddi hyn ac wedi bod yn siarad â'n timau nyrsio i glywed eu barn a'u meddyliau am y cynigion. Maent yn cydnabod ac yn gwbl ymwybodol o'r heriau yr ydym wedi bod yn eu hwynebu. Rydym yn gwerthfawrogi ein holl staff a byddwn yn parhau i recriwtio lle mae angen i ni wneud hynny.

C. Ydy’r cynnig hwn yn golygu y bydd cleifion ymhellach oddi cartref?

Efallai y bydd rhai cleifion yn derbyn eu gofal cleifion mewnol ysbyty cymunedol ymhellach o'u cartref nag sy'n digwydd ar hyn o bryd. Ond, byddant mewn lleoliad sydd â ffocws mwy arbenigol ar eu hanghenion. Gyda gwell adsefydlu, disgwylir y byddai hyd yr arosiadau yn yr ysbyty yn fyrrach. Dylai llai o gleifion brofi oedi mewn ysbytai cyffredinol ardal y tu allan i Bowys ac wrth aros i ddychwelyd i'r sir.

C. Beth all ddigwydd i gleifion os ydynt yn treulio gormod o amser yn yr ysbyty?

Mae tystiolaeth glir bod derbyniadau i'r ysbyty yn arwain at ddatgyflyru ymhlith poblogaethau oedolion hŷn. Mae datgyflyru yn broses gymhleth o newid ffisiolegol a seicolegol yn dilyn cyfnod o anweithgarwch, gorffwys gwely, neu ddiffyg ymarfer corff. Gall arwain at golli swyddogaeth mewn statws meddyliol ac effeithio ar y gallu i gyflawni gweithgareddau bywyd bob dydd. Gall hyn fod yn gyflym, yn ddifrifol, ac yn aml yn amhosibl newid yn ôl.

  • Gall y broses ddatgyflyru ddechrau o fewn dau ddiwrnod o dderbyn i'r ysbyty.
  • Yn ystod y saith diwrnod cyntaf o dderbyn, mae cleifion mewnol fel arfer wedi lleihau cryfder cyhyrau hyd at 10%, a gall cylchrediad leihau hyd at 25%.
  • Gall hyn roi llai o urddas, hyder ac annibyniaeth i gleifion.
  • Gall ei gwneud yn anoddach iddynt ddychwelyd i'w lefel arferol o weithgarwch gartref, ac yn fwy tebygol o gael eu haildderbyn i'r ysbyty.

C. A fyddai Gofal Diwedd Oes yn parhau i gael ei ddarparu yn Llanidloes a Bronllys?

Byddai gofal penodol diwedd oes tymor byr ar gael o hyd yn Llanidloes a Bronllys ar gyfer y cleifion hynny sydd ag anghenion gofal. Byddai hyn ar gyfer y cleifion hynny sydd angen gofal ychwanegol na ellir ei ddarparu gartref, yn ystod dyddiau olaf bywyd.




Am y Broses Ymgysylltu

C. Sut alla i ofyn am gopi caled?

Rydym am sicrhau bod pobl ym Mhowys yn cael cyfle i ddarganfod mwy a dweud eu dweud. Rydym hefyd am ddefnyddio arian cyhoeddus yn ddoeth a lleihau'r effaith ar yr amgylchedd - ac mae hyn yn cynnwys lleihau argraffu a dosbarthu copïau papur na fydd efallai'n cael eu darllen.

Credwn mai dull cost effeithiol a hygyrch yw anfon copi caled o'n dogfen ymgysylltu at bobl sydd angen un yn unig oherwydd na allant gael mynediad ato ar-lein gan gynnwys o lyfrgell leol neu ganolfan gymunedol.

Os ydych yn adnabod rhywun sydd angen copi caled o'n dogfen ymgysylltu, gallant ffonio ein ffôn ateb ar 01874 442078. Gadewch neges gyda'ch enw a'ch cyfeiriad post, gan sillafu unrhyw eiriau anarferol a byddwn yn danfon copi atoch drwy’r post.


Rhannu Ateb Eich Cwestiynau ar Facebook Rhannu Ateb Eich Cwestiynau Ar Twitter Rhannu Ateb Eich Cwestiynau Ar LinkedIn E-bost Ateb Eich Cwestiynau dolen

Engagement has concluded

<span class="translation_missing" title="translation missing: cy.projects.blog_posts.show.load_comment_text">Load Comment Text</span>