Economi
Pam mae'r Economi yn bwysig ym Mhowys
Mae economi Powys yn cael ei llunio gan ei chymeriad gwledig. Wrth i'r hinsawdd newid, mae tywydd eithafol, aflonyddwch yn y gadwyn gyflenwi a chostau ynni cynyddol yn cynyddu'r peryglon i fywoliaeth leol. Mae amaethyddiaeth, twristiaeth a busnesau bach a chanolig yn ganolog i gyflogaeth ac yn dibynnu ar gysylltiadau trafnidiaeth dibynadwy, systemau naturiol iach a gwasanaethau a all weithredu'n gyson drwy gydol y flwyddyn.
Ar yr un pryd, gall y newid i economi carbon isel sy'n effeithlon o ran adnoddau gryfhau gwydnwch, lleihau allyriadau a chadw mwy o werth ym Mhowys.

Yr economi fel datrysiad i newid hinsawdd a lles
Mae allyriadau sy'n gysylltiedig â nwyddau, gwasanaethau a defnyddio adnoddau yn cyfrif am tua 27% o gyfanswm ôl troed carbon Powys ac maent yn cynrychioli'r gyfran fwyaf o ôl troed preswylwyr ar gyfartaledd (33%). Mae'r allyriadau hyn yn adlewyrchu effaith carbon nwyddau a gwasanaethau bob dydd — o bryniannau cartref i wasanaethau cyhoeddus, adeiladu a gwastraff.
Mae'r effeithiau hyn ym Mhowys yn cael eu dylanwadu gan ffactorau strwythurol, sy'n seiliedig ar le, gan gynnwys mynediad at drafnidiaeth, y galw am systemau gwresogi, darpariaeth gwasanaethau gwledig ac argaeledd nwyddau a gwasanaethau lleol. Felly mae cysylltiad agos rhwng lleihau allyriadau yn yr ardal hon â gwella fforddiadwyedd, mynediad a chydnerthedd lleol.
Llunio dyfodol Powys
Mae economi sy'n effeithlon o ran adnoddau yn lleihau gwastraff, yn sicrhau bod deunyddiau’n parhau i gael eu defnyddio am gyfnod hirach ac yn cefnogi bywoliaeth leol. Ym Mhowys, bydd cynnydd yn canolbwyntio ar:
- Ehangu modelau ailddefnyddio, atgyweirio a rhannu ar draws trefi a phentrefi
- Cynorthwyo busnesau i wella effeithlonrwydd adnoddau a lleihau gwastraff
- Meithrin sgiliau gwyrdd a chyfleoedd cyflogaeth lleol
- Cryfhau cadwyni cyflenwi lleol i gadw gwerth ym Mhowys
- Gwneud opsiynau carbon is yn fforddiadwy ac yn hygyrch
Mae cyrff cyhoeddus ym Mhowys yn cefnogi’r trawsnewid economaidd drwy ddefnyddio eu rolau mewn caffael, ystadau, gwasanaethau gwastraff a datblygu economaidd lleol i gryfhau cadwyni cyflenwi lleol, lleihau’r defnydd o adnoddau a chefnogi sgiliau a swyddi gwyrdd.
Gweithredu lleol sydd eisoes ar y gweill ledled Powys
Astudiaeth AchosMae Waste Not yn gweithredu siediau adfer nwyddau mewn canolfannau gwastraff cartref ac ailgylchu yn y Drenewydd a'r Trallwng, yn rhedeg siop ailddefnyddio yn y Drenewydd, ac yn datblygu pentref menter gymdeithasol ym Mhen Dinas. Mae ei waith yn cefnogi ailddefnyddio, atgyweirio ac ailwerthu, gan helpu i leihau gwastraff wrth greu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant lleol. Dysgwch fwy yma: Waste Not: Towards a Circular Economy (Dolen Allanol) | ![]() |
Astudiaeth Achos Mae Bryson Recycling yn fenter gymdeithasol sy'n ailgylchu ac sydd wedi'i lleoli yng Ngogledd Iwerddon ac sydd wedi cael contract gan Gyngor Sir Powys i weithredu'r rhan fwyaf o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref y Sir. Mae Brysons yn rhedeg pedair o'r pum canolfan ailgylchu ym Mhowys. Ar hyn o bryd mae Bryson yn rhedeg canolfannau ailgylchu yn Aberhonddu, Llandrindod, rhan isaf Cwm-twrch a'r Drenewydd. Dysgwch fwy yma: Powys County Council | Bryson Recycling (Dolen Allanol) | ![]() |
Astudiaeth Achos Mae'r Cwch Gwenyn yn cynorthwyoi teuluoedd drwy gyfnewid gwisg ysgol, banc babanod a "llyfrgell o bethau". Drwy ailddefnyddio ac ailddosbarthu, mae'n lleihau gwastraff ac yn cynorthwyo lles cymunedol. Mae'r Cwch Gwenyn yn dangos sut y gall egwyddorion economi gylchol leihau allyriadau wrth gryfhau lles cymunedol. Dysgwch fwy yma: The Hive Llandrindod (Dolen Allanol) | ![]() |
Datgloi camau gweithredu economaidd ledled Powys
Mae'r sefydliadau hyn yn cefnogi'r trawsnewid i economi gynaliadwy ym Mhowys.
Circular Economy Mid Wales
Cefnogi ailddefnyddio, atgyweirio a datblygu mentrau cymdeithasol.
Cymerwch ran: Waste Not: Towards a Circular Economy (External Link)
Gweithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth
Mae tystiolaeth yn helpu gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a chymunedau i roi ymdrech lle y bydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf.
Ôl-troed carbon Powys
Gallwch edrych ar fanylion llawn ôl troed carbon Powys, gan gynnwys mewn perthynas â’r economi, ar Sir Powys: Sylfaen Carbon a Thrawsnewid Hinsawdd


