Fforwm Rhianta Powys – 1 Mai 2025
Croeso a chyflwyniadau
Dechreuodd y cyfarfod gyda chyflwyniadau gan aelodau, a rannodd eu cefndiroedd rhianta, rolau, a’u rhesymau dros fynychu'r fforwm, gan gynnwys profiadau gydag anghenion ychwanegol, addysg gartref ac eiriolaeth.
Disgwyliadau
Bu'r grŵp yn trafod ac yn cytuno ar gyfres o ganllawiau ar gyfer y fforwm, gan bwysleisio cyfrinachedd, amgylchedd heb farnu, parchu barn pobl eraill, gwrando’n weithredol gydag un siaradwr ar y tro, a sicrhau bod cyfarfodydd yn parhau i fod yn bleserus i'r rhai sy'n mynychu.
Strategaeth Rhianta Powys – trosolwg byr
Mae pwrpas y fforwm yn seiliedig ar Strategaeth Rhianta Powys, trafodwyd hyn yn ystod y cyfarfod, a rhannwyd y wybodaeth ganlynol:
- Mae camau gweithredu o’r Strategaeth yn cynnwys adolygu a gwella cymorth i deuluoedd trwy werthuso’r darpariaethau presennol, sicrhau cydraddoldeb, a nodi meysydd datblygu yn seiliedig ar adborth ymgynghori helaeth.
- Roedd y broses ymgynghori ar gyfer y strategaeth yn cynnwys arolygon a digwyddiadau, gan gasglu mewnbwn gan rieni a gweithwyr proffesiynol. Amlygodd dros 534 o ymatebion heriau teuluol allweddol fel pryder ac iechyd meddwl, yr angen am gymorth gweill i blant ag Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig (ASD), pontio ysgol llyfnach, canllawiau ar gyfer rhieni yn eu harddegau, ac adnoddau ar gyfer diogelwch ar y rhyngrwyd.
- Mae grŵp llywio aml-sector yn goruchwylio datblygiad y strategaeth, gyda chynllun gweithredu deinamig wedi'i gynllunio i addasu i anghenion a blaenoriaethau teuluol sy'n esblygu.
Cyflwyniad i'r dudalen we rhianta
Bu'r grŵp yn trafod ardal rianta gwefan Cyngor Sir Powys, sy'n darparu gwybodaeth ac adnoddau i rieni. Soniodd y drafodaeth hefyd am wefan y cyngor yn ei chyfanrwydd. Nododd y cyfranogwyr anawsterau llywio a gwnaethant awgrymu ddull gwefan mwy cyfannol a hawdd ei ddefnyddio, gyda’r pwyslais ar gyfathrebu gwell a gwybodaeth hygyrch i rieni.
Camau nesaf
Daeth y cyfarfod i ben gyda thasgau dilynol, gan gynnwys gofyn i gyfranogwyr adolygu'r dudalen we rhianta, a rhoi adborth ar ei ddefnyddioldeb a’i hygyrchedd yn y cyfarfod nesaf.
Cytunwyd y dylid cynnal y fforwm nesaf cyn gwyliau'r haf ym mis Gorffennaf gyda dyddiad ac amser i'w gytuno maes o law.
