Gwella Gyda'n Gilydd - dull gweithredu cynaliadwy i Bowys

Rhannu Gwella Gyda'n Gilydd - dull gweithredu cynaliadwy i Bowys ar Facebook Rhannu Gwella Gyda'n Gilydd - dull gweithredu cynaliadwy i Bowys Ar Twitter Rhannu Gwella Gyda'n Gilydd - dull gweithredu cynaliadwy i Bowys Ar LinkedIn E-bost Gwella Gyda'n Gilydd - dull gweithredu cynaliadwy i Bowys dolen

Rhagymadrodd

Yn allweddol wrth ddull cynaliadwy ym Mhowys mae gwella siawns pobl o fyw eu "bywyd gorau" gartref yn eu cymuned, sy'n gysylltiedig â'r hyn sydd bwysicaf iddynt.

Yr heriau sydd o'n blaenau - beth ydym ni'n ei wybod?

  • Mae oedran cynyddol y boblogaeth yn gyrru’r anghenion iechyd a gofal, yn ogystal â’r anghenion sy’n gysylltiedig â chanser, cyflyrau anadlol a chylchredol, eiddilwch a dementia.
  • Mae mwy o bobl yn byw yn hirach gyda sawl cyflwr, (dau neu fwy o gyflyrau iechyd cronig) mewn ardal wledig iawn, lle mae traean o bobl yn byw ar eu pennau eu hunain. Gall unigrwydd gynyddu'r risg o ddementia a chyflyrau eraill. Mae'n rheswm allweddol pam mae pobl yn chwilio am help.
  • Mae'r gweithlu iechyd, gofal a'r trydydd sector yn heneiddio - ac mae bylchau sylweddol fel cymorth yn y cartref.
  • Mae amseroedd aros ar ôl y pandemig ar gyfer diagnosis a thriniaeth yn parhau'n rhy hir. Mae llawer o bobl sy’n aros yn hirach yn yr ysbyty mewn perygl o ddatgyflyru (colli cryfder cyhyrau a mynd yn ddryslyd).
  • Mae'r heriau cymhleth hyn yn gofyn am ymateb i bwysau a thrawsnewid ar unwaith i sicrhau cynaliadwyedd.
Mwy o wybodaeth

Gweler ein Cardiau Arddangos Gwell Gyda'n Gilydd a'r posteri adborth (ar y dde).

Mae'r cardiau arddangos yn rhannu gwybodaeth am sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd i hyrwyddo lles ac i atal anawsterau rhag gwaethygu i argyfwng.

Mae'r posteri adborth yn nodi'r themâu allweddol a rhai dyfyniadau o'r sgyrsiau a gawsom yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth 2024 pan wnaethom rannu'r heriau hyn a phrofi ein dull gweithredu gyda dros 170+ o bobl a oedd yn gynrychiolwyr o grwpiau gwirfoddol a chynghorau tref a chymuned.

Roedd y digwyddiadau ymgysylltu yn rhan o broses barhaus o drafod a chydweithio rhwng y bwrdd iechyd a'r cyngor, yn ogystal â phartneriaid a rhanddeiliaid eraill. Rydym wedi ymrwymo i wrando ar eich barn a dysgu ohono, a chreu atebion sy'n diwallu anghenion a dyheadau pobl Powys.

Diweddaru: 11 Meh 2024, 04:26 PM