Datblygu Hybiau Cymunedol yn Llyfrgelloedd Powys

Rhannu Datblygu Hybiau Cymunedol yn Llyfrgelloedd Powys ar Facebook Rhannu Datblygu Hybiau Cymunedol yn Llyfrgelloedd Powys Ar Twitter Rhannu Datblygu Hybiau Cymunedol yn Llyfrgelloedd Powys Ar LinkedIn E-bost Datblygu Hybiau Cymunedol yn Llyfrgelloedd Powys dolen

Consultation has concluded

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Powys yn cynnal ymchwil ar sut y byddai’n bosibl helpu trigolion i ddefnyddio technoleg a gwasanaethau digidol, trwy ddatblygu hybiau cymunedol a fyddai’n cynnig cymorth a lle i weithio o bell.

Mae’r prosiect ymgysylltu’n cynnwys dau arolwg:

  1. Arolwg Allgáu Digidol a Mynediad at Wasanaethau - Bydd un yn asesu pa mor hawdd neu anodd ydyw i drigolion gyrraedd gwasanaethau a gwybodaeth allweddol ym Mhowys a sut fyddai’n bosibl gwella hynny trwy greu hybiau digidol mewn llyfrgelloedd lle byddai help wrth law.
  2. Arolwg Hybiau Mannau Gwaith Digidol - Bydd y llall yn mesur y diddordeb sydd mewn datblygu mannau gwaith o fewn llyfrgelloedd i’r rhai hynny sydd efallai’n gweithio o adref neu’n ystyried sefydlu busnes bach.

Dywedodd Nina Davies, Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol: “Diolch i nawdd o Gronfa Adfywio Cymunedol y DU, gallwn gynnal ymchwil i wybod mwy am sut y mae trigolion Powys yn defnyddio gwasanaethau ar hyn o bryd, megis cyngor a chymorth neu wasanaethau ariannol, a fyddai sianeli digidol yn help a beth sy’n rhwystro pobl rhag defnyddio gwasanaethau ar-lein.

“Rydym hefyd yn ystyried y posibilrwydd o greu lle ar gyfer rhannu mannau gwaith gan ddefnyddio cyfleusterau lleol lle’n bosibl, a bydd y prosiect hwn yn helpu i fesur y galw am fannau gwaith o’r fath ar draws Powys.”

I gymryd rhan yn y prosiect hwn, ewch i ddolen 'dweud eich dweud' isod.

Gallwch ofyn am gopiau papur o’r arolwg trwy’r gwasanaeth llyfrgelloedd. I gael copi papur, ffoniwch 01874 612394 neu galwch yn eich llyfrgell leol.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn atebion yw dydd Iau 30 Mehefin 2022.

  • CLOSED: This survey has concluded.

    Rydym eisiau asesu pa mor hawdd neu anodd yw hi i bobl gael mynediad at wasanaethau a gwybodaeth allweddol ac a allwn wneud pethau’n haws trwy ddatblygu “hybiau cynhwysiant digidol” a leolir mewn llyfrgelloedd lleol.

    Consultation has concluded
    Rhannu 1. Arolwg Allgáu Digidol a Mynediad at Wasanaethau ar Facebook Rhannu 1. Arolwg Allgáu Digidol a Mynediad at Wasanaethau Ar Twitter Rhannu 1. Arolwg Allgáu Digidol a Mynediad at Wasanaethau Ar LinkedIn E-bost 1. Arolwg Allgáu Digidol a Mynediad at Wasanaethau dolen
  • CLOSED: This survey has concluded.

    Mae Cyngor Sir Powys yn edrych ar y posibilrwydd o ddatblygu mannau gwaith o fewn llyfrgelloedd cyhoeddus sydd wedi’u hanelu tuag at bobl a all fod yn gweithio o gartref neu’n ystyried dechrau busnes bach ar hyn o bryd. Rydym eisiau gwybod a fyddech o bosibl yn defnyddio cyfleusterau o’r fath ai peidio a beth y gallai eich anghenion fod.

    Consultation has concluded
    Rhannu 2. Arolwg Hybiau Mannau Gwaith Digidol ar Facebook Rhannu 2. Arolwg Hybiau Mannau Gwaith Digidol Ar Twitter Rhannu 2. Arolwg Hybiau Mannau Gwaith Digidol Ar LinkedIn E-bost 2. Arolwg Hybiau Mannau Gwaith Digidol dolen