Llwybrau Teithio Llesol Powys
Mae’r arolwg hwn wedi cau.
Yn ddiweddar, cynhaliwyd ymarfer ymgysylltu lle gofynnwyd sut y gellid gwella'r cyfleusterau a'r llwybrau teithio llesol (cerdded a beicio) mewn ardaloedd ledled Powys er mwyn galluogi mwy o bobl i gerdded neu feicio ar deithiau byr.
Efallai mai rhywle diogel i adael eich beic wrth i chi alw heibio i'r siopau oedd eich cais. Lôn feicio ddynodedig efallai er mwyn i chi deimlo'n fwy hyderus i reidio ar y ffordd. Gall ychwanegu croesfan sebra ganiatáu i ddisgyblion gerdded yn ddiogel i'r ysgol ac yn ôl. Neu efallai fod angen gwella'r palmant i wneud cerdded i'r dref gyda'r plant yn haws gyda chadair wthio. Nodwyd llawer o wahanol opsiynau i wella'r llwybrau teithio llesol mewn trefi.
Yn dilyn adborth gan drigolion, cynghorau tref a chymuned, ysgolion a rhanddeiliaid eraill, rydym wedi datblygu'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol (ATNM) drafft ar gyfer pob un o 11 ardal teithio llesol ddynodedig y sir (fel y'u diffinnir gan Lywodraeth Cymru).
Mae'r ATNM hyn yn dangos yr holl lwybrau teithio llesol a nodwyd yn flaenorol yn 2016/17, ynghyd â'r awgrymiadau a'r ychwanegiadau uchelgeisiol a'r gwelliannau i'r rhwydwaith yn dilyn yr adborth a gafwyd yn ystod yr ymarfer ymgysylltu diweddar eleni.
Er nad ydym wedi gallu cynnwys pob awgrym, oherwydd ymarferoldeb, rydym wedi ceisio cynnwys cynifer o lwybrau ac argymhellion â phosibl. Fodd bynnag, mae'n werth cofio bod y llwybrau hyn yn ddyheadau yn unig, ac yn dangos gweledigaeth y cymunedau o rwydwaith teithio llesol yn y trefi yn y dyfodol.
Mae'r 11 ATNM hyn bellach ar gael i chi eu hadolygu (isod) am 12 wythnos, tan 7 Tachwedd 2021. Dyma'ch cyfle i sicrhau ein bod wedi dehongli adborth yr ymarfer ymgysylltu yn gywir.
Cliciwch yma i weld yr ATNMs: https://cy.powys.gov.uk/article/8065/Teithio-Llesol
Fel arall, gellir gwneud sylwadau hefyd drwy dudalen we Mapio Lleoedd Cyffredin Cyngor Sir Powys https://atnmpowys.commonplace.is/cy-GB
Os sylwch ar unrhyw broblemau posibl gyda'r llwybrau arfaethedig, anfonwch eich adborth drwy e-bost at active@powys.gov.uk
This page is available in English here: www.haveyoursaypowys.wales/powys-active-travel-routes