Peryglon Yn Ymwneud  Newid Hinsawdd I Bowys

Rhannu Peryglon Yn Ymwneud  Newid Hinsawdd I Bowys ar Facebook Rhannu Peryglon Yn Ymwneud  Newid Hinsawdd I Bowys Ar Twitter Rhannu Peryglon Yn Ymwneud  Newid Hinsawdd I Bowys Ar LinkedIn E-bost Peryglon Yn Ymwneud  Newid Hinsawdd I Bowys dolen

Pam mae’r peryglon yn ymwneud â newid hinsawdd yn bwysig i Bowys nawr

Mae newid hinsawdd eisoes yn effeithio ar fywyd bob dydd ym Mhowys. Mae patrymau tywydd yn dod yn llai rhagweladwy, gyda llifogydd, stormydd, tonnau gwres a chyfnodau o sychder yn amlach.

Mae'r effeithiau hyn yn tarfu ar deithio, yn effeithio ar ffermydd a busnesau, yn rhoi pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal, ac yn niweidio'r tirweddau a'r ecosystemau sy'n cefnogi lles.

Er mwyn deall beth mae hyn yn ei olygu'n lleol, mae partneriaid Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Powys wedi cwblhau Asesiad Risg ar Newid Hinsawdd (CCRA) cyntaf Powys. Mae'n dwyn ynghyd gwyddoniaeth yr hinsawdd, data lleol a chipolwg gan gymunedau, sefydliadau ac arbenigwyr ledled Powys.

Y darlun cyffredinol – yr hyn y mae'r dystiolaeth yn ei ddangos

Mae tystiolaeth yn dangos bod hinsawdd Powys yn newid. Mae Powys yn gweld:

  • Hafau poethach a sychach gyda mwy o berygl o don wres a thanau gwyllt
  • Gaeafau cynhesach a gwlypach gyda glaw trwm a llifogydd
  • Stormydd mwy, gan darfu ar wasanaethau a niweidio isadeiledd
  • Cyfnodau sych hirach, gan gynyddu'r pwysau ar gyflenwadau dŵr
  • Tymhorau sy'n newid, yn effeithio ar ffermio, natur a gwaith yn yr awyr agored

Rhagwelir y bydd y tueddiadau hyn yn dwysáu dros y degawdau nesaf.

Yr hyn rydym eisoes yn ei weld

Nid yw newid hinsawdd yn broblem sydd yn rhy bell i ffwrdd. Mae cymunedau, gwasanaethau a thirweddau ledled Powys eisoes yn profi ei effeithiau.

Stormydd a llifogydd
Mae stormydd diweddar wedi rhwystro llwybrau allweddol dro ar ôl tro fel yr A470 a'r A458, gan ynysu cymunedau ac amharu ar fynediad i ysgolion, gofal iechyd a gweithleoedd. Mae trefi gan gynnwys Crucywel, Llanfair-ym-Muallt, Machynlleth, Llanidloes a'r Trallwng wedi dioddef llifogydd dro ar ôl tro. Achosodd stormydd fel Arwen ac Eunice doriadau eang yn y trydan, gan adael cartrefi gwledig heb wres, goleuadau na modd o gyfathrebu.

Tanau Gwyllt
Rhwng mis Ebrill a mis Hydref 2025, mynychodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru 164 o ddigwyddiadau o danau gwyllt ledled Canolbarth Cymru. Effeithiodd y tanau ar laswelltiroedd, rhostiroedd a choedwigoedd, gan gynnwys digwyddiadau mawr ger Machynlleth a Llangors, gan roi pwysau ar y gwasanaethau brys a difrodi cynefinoedd naturiol.

Gwres a chyfnodau o sychder
Yn ystod ton wres 2022, cofnododd Powys dymheredd o oddeutu 37°C o dan rybudd gwres eithafol coch cyntaf y Swyddfa Dywydd. Cyhoeddwyd statws o sychder ar ran uchaf yr Afon Hafren, gostyngodd lefelau afonydd yn sylweddol, a chaewyd rhannau o afonydd Gwy ac Wysg i bysgota. Gostyngodd lefelau cronfeydd dŵr yn sydyn, gan arwain at gyfyngiadau ar bibellau dŵr a mwy o bwysau ar gyflenwadau dŵr.

Mae’r rhagolygon ar gyfer newid hinsawdd yn dangos y bydd amlygiad i wres, cyfnodau o sychder, stormydd a llifogydd yn dod yn fwy aml ac yn fwy.

Llunio dyfodol Powys

Mae gwrthsefyll newid hinsawdd yn cael ei feithrin trwy gamau ymarferol, cydlynol - ac mae'n gweithio orau pan mae'n teimlo'n deg ac yn gwneud bywyd bob dydd yn fwy diogel a sicr. Ym Mhowys, mae hynny'n golygu bod sefydliadau a chymunedau’n gweithio gyda'i gilydd fel nad yw pobl yn cael eu gadael i wynebu peryglon yn ymwneud â newid hinsawdd ar eu pen eu hunain.

Bydd meithrin y gallu i wrthsefyll hinsawdd ym Mhowys yn cynnwys:

  • Cynllunio ar gyfer peryglon yn ymwneud â newid hinsawdd ar draws sefydliadau, fel bod gwasanaethau ffyrdd, ynni, dŵr, iechyd a gwasanaethau brys yn barod gyda'i gilydd
  • Diogelu cymunedau rhag llifogydd, gwres a thanau gwyllt drwy atal, cynnal a chadw a gweithredu’n gynnar
  • Atgyfnerthu parodrwydd lleol (rhwydweithiau cymunedol, cyfathrebu, a chymorth i drigolion bregus)
  • Gwella'r sylfaen dystiolaeth drwy rannu data, monitro a dysgu, fel bod camau gweithredu yn parhau i fod wedi'u targedu ac yn effeithiol
  • Buddsoddi mewn datrysiadau sy'n seiliedig ar natur ac isadeiledd gwydn sy'n lleihau aflonyddwch a chostau hirdymor

Mae cyrff cyhoeddus yn cefnogi’r gallu i wrthsefyll newid hinsawdd drwy ymgorffori’r peryglon yn ymwneud â newid hinsawdd mewn gwaith cynllunio, rheoli asedau, parodrwydd argyfwng a darpariaeth gwasanaethau, gan gydlynu camau gweithredu ar draws isadeiledd, iechyd, trafnidiaeth a diogelwch cymunedol.

Mae camau gweithredu eisoes ar y gweill ar draws gwasanaethau cyhoeddus, cymunedau a phartneriaid lleol — mae'r enghreifftiau hyn yn dangos sut mae gwydnwch yn cael ei feithrin yn ymarferol.

Astudiaeth Achos

Sefydlodd y Cyngor Cymuned weithgor i fynd i'r afael â'r heriau y mae trigolion Llangatwg yn eu hwynebu yn ystod llifogydd, nodi eiddo bregus, a darparu gwybodaeth i berchnogion tai er mwyn eu hamddiffyn. Mae unigolion bregus wedi cael 'pecynnau llifogydd' Cyngor Sir Powys gyda chanllawiau i baratoi ar gyfer lifogydd a chysylltiadau brys. Mae tri aelod o Gyngor Cymuned Llangatwg (CCLl) wedi ymuno â Chynllun Wardeiniaid Llifogydd Crughywel a'r Pentrefi, a grëwyd ar ôl Storm Dennis. Fe'u cefnogir gan wirfoddolwyr a fydd yn rhybuddio trigolion, yn darparu gwybodaeth, ac yn helpu i symud dodrefn os oes angen. Mae Wardeiniaid Llifogydd hefyd yn monitro peryglon posibl ac yn cysylltu ag awdurdodau os yw draeniau neu geuffosydd wedi'u blocio gan falurion. Er y bydd ymatebion brys yn dod yn bennaf gan staff hyfforddedig fel y Gwasanaeth Tân ac Achub a'r Heddlu, mae'r gymuned yn anelu at gefnogi'r ymdrechion hyn a gwella diogelwch lleol.

Dysgwch fwy yma: Gweithgor llifogydd ar gyfer Llangatwg – Cyngor Cymuned Llangatwg (Dolen Allanol)

Datgloi camau gweithredu i wrthsefyll newid hinsawdd ledled Powys

Camau gweithredu'r Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus

Mae'r Asesiad Risg yn ymwneud â Newid Hinsawdd yn nodi pum piler ar gyfer gallu hirdymor cydlynol i wrthsefyll newid hinsawdd ledled Powys. Maent yn darparu fframwaith ymarferol ar gyfer sut mae sefydliadau'n rheoli risgiau a rennir wrth integreiddio camau gweithredu i gynlluniau a llywodraethu presennol.

  1. Dull a rennir i reoli peryglon yn ymwneud â newid hinsawdd
    Dull cyson ledled y Sir o nodi a blaenoriaethu peryglon, gan gynnwys ymgorffori’r peryglon yn ymwneud â newid hinsawdd mewn gwaith cynllunio sefydliadol a chynnal goruchwyliaeth y BGC o risgiau systemig a rennir.
  2. Perchnogaeth a llywodraethu
    Atebolrwydd clir am reoli risgiau systemig, gyda threfniadau llywodraethu sy'n cefnogi’r broses gydlynu ar draws sectorau.
  3. Tystiolaeth, data a dysgu
    Defnyddio data, gwaith monitro a phrofiad byw gwell i wella penderfyniadau dros amser — gan ganolbwyntio ar ddysgu ymarferol yn hytrach na biwrocratiaeth ychwanegol.
  4. Cydweithio a gwytnwch system
    Cynllunio ar y cyd i reoli risgiau rhaeadru ar draws gwasanaethau trafnidiaeth, iechyd, isadeiledd a'r economi, gan gynnwys cysylltiadau cryfach â phartneriaid fel y Fforwm Gwytnwch Lleol.
  5. Cyfathrebu ac ymgysylltu
    Cyfathrebu clir i feithrin dealltwriaeth a rennir a chynnal momentwm, gan ymgorffori gwydnwch mewn arfer bob dydd yn hytrach na'i drin fel rhaglen annibynnol.

Gallwch edrych ar y manylion llawn — gan gynnwys camau gweithredu ategol o dan bob colofn — yn Rhan D yr Asesiad Risg yn ymwneud â Newid Hinsawdd.

Fforwm Gwytnwch Lleol Dyfed Powys

Mae Fforymau Gwytnwch Lleol (LRFs) yn dwyn ynghyd yr holl sefydliadau ymatebwyr sydd â dyletswydd i gydweithredu o dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil.

Argyfyngau Sifil Posibl | Heddlu Dyfed-Powys (Dolen Allanol)

Gweithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth

Mae tystiolaeth yn helpu gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a chymunedau i roi ymdrech lle y bydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf.

Asesiad risg yn ymwneud â newid hinsawdd ar gyfer Powys

Mae Asesiad Risg yn ymwneud â Newid Hinsawdd ar gyfer Powys yn edrych ar y peryglon ar draws pedwar sector cydgysylltiedig:

  • Tir, natur ac amaethyddiaeth
  • Iechyd, lles a chymunedau
  • Yr economi a chadwyni cyflenwi
  • Isadeiledd a gwasanaethau hanfodol

Mae'n dangos bod peryglon yn ymwneud â newid hinsawdd ym Mhowys yn gysylltiedig â'i gilydd. Gall un digwyddiad — fel storm fawr neu don wres — ledaenu ar draws y sector trafnidiaeth, gwasanaethau iechyd, busnesau ac ecosystemau.

Mae'r asesiad yn nodi chwe risg systemig na all unrhyw sefydliad unigol eu rheoli ar ei ben ei hun:

  1. Methiannau o ran isadeiledd a gwasanaethau rhyngddibynnol
    Tarfu ar ffyrdd, ynni, rhwydweithiau digidol a gwasanaethau hanfodol.
  2. Effaith llifogydd ar aneddiadau a chanolfannau economaidd
    Llifogydd dro ar ôl tro yn effeithio ar gartrefi, busnesau a bywyd cymunedol.
  3. Heriau’n ymwneud â gwres, tanau gwyllt ac ansawdd aer
    Risgiau cynyddol yn ymwneud ag iechyd a phwysau ar wasanaethau yn ystod cyfnodau poethach a sychach.
  4. Diogelu’r cyflenwad dŵr a chyfnod o sychder
    Mwy o straen ar gyflenwad dŵr cyhoeddus, ffermio ac ecosystemau.
  5. Pa mor fregus yw’r gadwyn gyflenwi a bwyd
    Bregusrwydd llwybrau cyflenwi gwledig a nwyddau hanfodol.
  6. Natur a diraddio tir
    Colli pridd, gostyngiad mewn cynefinoedd a llai o amddiffyniad naturiol rhag llifogydd.

Cyhoeddi: 27 Mar 2026, 05:11 PM