Polisi preifatrwydd

Beth sy’n cael ei gynnwys yn y polisi hwn

Rydyn ni, Cyngor Sir Powys, yn cymryd ein rhwymedigaethau preifatrwydd o ddifrif ac rydyn ni wedi creu’r polisi preifatrwydd hwn i egluro sut rydyn ni’n trin eich gwybodaeth bersonol sy’n cael ei chasglu ar y wefan hon. Gwybodaeth bersonol yw’r wybodaeth sydd gennym y gellir ei gweld fel gwybodaeth amdanoch chi.

Mae ein gwaith o gasglu, defnyddio a datgelu eich gwybodaeth bersonol yn cael ei reoleiddio gan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol yr Undeb Ewropeaidd (‘GDPR’) a Deddf Diogelu Data 2018.

Darperir y llwyfan meddalwedd y mae’r wefan hon yn rhedeg arno a’r gweithrediadau technoleg cysylltiedig gan Bang the Table Pty Ltd. Cliciwch y ddolen hon i weld y Polisi Preifatrwydd sy’n rheoli eu gwasanaeth.

Pa wybodaeth bersonol y gallwn ni ei chasglu?

Gwybodaeth Proffil

Rydyn ni’n casglu gwybodaeth gennych pan fyddwch yn cofrestru i ddefnyddio’r safle hwn. Mae hyn yn cynnwys eich cyfeiriad e-bost a gwybodaeth ddemograffig ychwanegol fel y nodir gennych chi ar y ffurflen gofrestru.

Cofiwch y gallwch bori unrhyw adrannau o’r wefan hon sy’n agored i’r cyhoedd yn gwbl ddienw heb gofrestru.


Gwybodaeth am Ymgysylltu

Y cynnwys rydych chi'n ei greu fel rhan o'ch rhyngweithio â'r wefan hon. Gall y rhain gynnwys ymatebion i arolygon, sylwadau ar fforymau trafod, neu unrhyw rai o’r cyfleoedd ymgysylltu eraill sydd ar gael yma.


Gwybodaeth am Ddefnydd

Rydyn ni’n casglu gwybodaeth am eich defnydd o’r safle, fel tudalennau yr ymwelwyd â nhw, dogfennau a gafodd eu llwytho i lawr, ac ati.


Sut rydyn ni’n defnyddio'r wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu

Rydyn ni’n casglu’r wybodaeth hon er mwyn:

  • ei dadansoddi a’i dehongli er mwyn helpu i gyflawni ein hamcanion a’n rhwymedigaethau;
  • rhoi gwybodaeth i chi am gyfleoedd ymgysylltu, digwyddiadau a chynlluniau eraill; ac
  • ymateb i ymholiadau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid fel arall.


Dolenni allanol

Gall ein gwefan gynnwys dolenni at wefannau eraill. Darperir y dolenni hynny er hwylustod ac efallai na fyddan nhw’n aros yn gyfredol nac yn cael eu cynnal. Nid ydyn ni’n gyfrifol am arferion preifatrwydd gwefannau cysylltiedig ac rydyn ni’n awgrymu eich bod yn adolygu polisïau preifatrwydd y gwefannau hynny cyn eu defnyddio.


Diogelwch

Er nad oes gwasanaeth ar-lein sy’n gwbl ddiogel, rydyn ni’n gweithio’n galed iawn i ddiogelu gwybodaeth amdanoch chi rhag mynediad heb awdurdod, ei ddefnyddio, ei addasu neu ei dinistrio, a chymryd pob cam rhesymol i wneud hynny.


Gofyn am fynediad at eich gwybodaeth bersonol neu ei chywiro

Yn amodol ar ddeddfau a rheoliadau lleol perthnasol, efallai fod gennych rai neu’r cyfan o’r hawliau canlynol o ran eich data personol:

  • i gael mynediad at eich data personol ac i gywiro unrhyw wallau yn y data personol hwnnw;
  • gwneud cais i ddileu eich data personol sy’n aros gyda ni;
  • gofyn am eich data personol mewn fformat cludadwy y gellir ei ddarllen â pheiriant; a
  • tynnu eich caniatâd yn ôl i ni brosesu eu data personol.

Os hoffech gysylltu â ni gyda chais sy’n ymwneud â’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a nodir isod, gan gynnwys eich enw a’ch manylion cyswllt. Efallai y bydd angen i ni gadarnhau pwy ydych chi cyn rhoi eich gwybodaeth bersonol i chi.

Mewn rhai achosion, efallai na fyddwn yn gallu rhoi mynediad i chi at eich holl wybodaeth bersonol, ac os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn esbonio pam. Byddwn yn delio â phob cais am fynediad at wybodaeth bersonol cyn pen cyfnod rhesymol.


Cysylltu â Ni

I gael rhagor o wybodaeth am ein polisi preifatrwydd a’n harferion gwybodaeth cysylltiedig, neu i gael gafael ar eich gwybodaeth bersonol neu i’w chywiro, neu i wneud cwyn, cysylltwch â ni ar notifications@engagementhq.com