Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau bod ein gwefan yn gweithio'n iawn ac i storio gwybodaeth gyfyngedig am eich defnydd. Gallwch roi caniatâd neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Mynediad at Wasanaethau Iechyd gan Blant a Phobl Ifanc yn ystod pandemig Covid-19
Rhannu Mynediad at Wasanaethau Iechyd gan Blant a Phobl Ifanc yn ystod pandemig Covid-19 ar FacebookRhannu Mynediad at Wasanaethau Iechyd gan Blant a Phobl Ifanc yn ystod pandemig Covid-19 Ar TwitterRhannu Mynediad at Wasanaethau Iechyd gan Blant a Phobl Ifanc yn ystod pandemig Covid-19 Ar LinkedInE-bost Mynediad at Wasanaethau Iechyd gan Blant a Phobl Ifanc yn ystod pandemig Covid-19 dolen
Arolwg allanol gan Lywodraeth Cymru yw hwn.
Mae'r COVID-19 wedi achosi newidiadau mawr I’n bywydau bob dydd. Mae wedi ein hatal rhag mynd i'r ysgol neu'r gwaith, mae wedi ein hatal rhag treulio amser gyda ffrindiau a theulu, ac mae wedi achosi poen a galar wrth i anwyliaid fynd yn ddifrifol wael neu farw o'r feirws. Mae hefyd wedi cael effaith ar sut y mae gwasanaethau iechyd yn cael ei ddarparu i gleifion. Mae gwasanaethau iechyd yn golygu gwasanaethau fel:
ysbytai;
meddygon, deintyddion, fferyllwyr ac optegwyr;
nyrsys sy'n rhoi gofal a chymorth i bobl yn eu cartrefi eu hunain
nyrsys ysgol;
gwasanaethau iechyd meddwl; a
canolfannau iechyd a chlinigau.
Bu llawer o gleifion oedd â’r Coronafeirws mewn ysbytai ac, o ganlyniad, nid yw rhai gwasanaethau iechyd wedi medru cael eu darparu, neu maent wedi'u darparu mewn gwahanol ffyrdd. Er enghraifft, gweld meddyg ar Zoom gan ddefnyddio eich ipad. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi'i gwneud yn glir, os oes angen triniaeth frys ar bobl ar gyfer cyflwr gofal iechyd neu am nad ydynt yn teimlo'n dda, y dylent allu cael y driniaeth honno. O fewn Llywodraeth Cymru, mae grŵp o bobl yn cynghori'r GIG ar sut y gellir cynnig rhai gwasanaethau o'r enw "Gwasanaethau Hanfodol" hyd yn oed yn ystod y pandemig.
Mae ganddynt ddiddordeb ym mha brofiad y mae plant a phobl ifanc wedi'i gael wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd ers dechrau’r pandemig ym mis Mawrth 2020.
Maent yn gofyn nifer o gwestiynau sy'n ceisio darganfod a oedd y profiad hwnnw'n dda neu'n ddrwg neu rywle yn y canol. Ni fyddant yn gofyn am eich enw ac mae ganddynt ddiddordeb gwirioneddol yn eich atebion.
Bydd eich atebion yn eu helpu i ddarganfod a yw plant a phobl ifanc wedi gallu cael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt yn ystod y cyfnod hwn.