Strategaeth Cerbydau Trydan

Rhannu Strategaeth Cerbydau Trydan ar Facebook Rhannu Strategaeth Cerbydau Trydan Ar Twitter Rhannu Strategaeth Cerbydau Trydan Ar LinkedIn E-bost Strategaeth Cerbydau Trydan dolen

Mae trafnidiaeth ddomestig yn brif ffynhonnell o allyriadau CO2 yn y DU. Mae polisïau cenedlaethol a rhai Cymru yn cefnogi cyflwyno seilwaith cerbydau trydan (EVI), gyda'r nod o sicrhau na fydd unrhyw gerbydau petrol a disel newydd yn cael eu gwerthu erbyn 2035.

Mae Cyngor Sir Powys wedi drafftio'r Strategaeth Cerbydau Trydan, sy'n amlinellu'r cyd-destun lleol, ffactorau sy'n effeithio ar y defnydd o gerbydau trydan, technolegau gwefru, defnyddio pwyntiau gwefru, a rôl y Cyngor, ynghyd â chamau gweithredu tymor byr, canolig a hirdymor. O ystyried daearyddiaeth a natur wledig Powys, mae'r strategaeth yn cynnig dull 'sy'n cael ei arwain gan alw' i helpu i lywio sut mae EVI yn cael ei ddefnyddio, lle mae dangosyddion allweddol (fel dwysedd poblogaeth) yn cael eu nodi ac yn llywio defnyddio EVI. Hoffem gael eich adborth ar y strategaeth er mwyn deall sut y gallai ddiwallu anghenion pobl sy'n gyrru ym Mhowys orau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ychwanegol, cysylltwch â Jess Farmer (jess.farmer@powys.gov.uk)

Dweud eich dweud

Gallwch adael eich adborth ar-lein drwy ein harolwg isod drwy glicio botwm 'CWBLHAU'R FFURFLEN'.

Mae copïau papur o'r arolwg ar gael i'w lawrlwytho neu gellir eu casglu o'ch llyfrgell leol. Dychwelwch ffurflenni wedi'u llenwi at staff y llyfrgell, neu sganiwch a'u hanfon drwy e-bost at haveyoursay@powys.gov.uk.

Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw dydd Sul 12 Gorffennaf 2026.

Diweddaru: 01 Meh 2026, 12:10 PM