Rhannu Mae'r cyfnod ymgynghori ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol wedi cau. ar Facebook
Rhannu Mae'r cyfnod ymgynghori ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol wedi cau. Ar LinkedIn
E-bost Mae'r cyfnod ymgynghori ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol wedi cau. dolen
Mae'r cyfnod ymgynghori ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol wedi cau. Diolch i bawb am gymryd rhan.
Bydd y Map drafft yn cael ei gadarnhau cyn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru er ystyriaeth.
Rhannu System fapio ar-lein i hwyluso'r gwaith o roi gwybod i ni am welliannau i lwybrau seiclo a cherdded ar Facebook
Rhannu System fapio ar-lein i hwyluso'r gwaith o roi gwybod i ni am welliannau i lwybrau seiclo a cherdded Ar LinkedIn
E-bost System fapio ar-lein i hwyluso'r gwaith o roi gwybod i ni am welliannau i lwybrau seiclo a cherdded dolen
Fel rhan o unrhyw waith ymgysylltu ar nodi meysydd i'w gwella a llwybrau teithio llesol newydd ym Mhowys, mae system fapio ar-lein newydd wedi'i lansio i helpu i adnabod meysydd penodol o ddiddordeb.
Efallai ei fod yn rhywle diogel i adael eich beic wrth bicio i'r siop. Efallai y byddai lôn seiclo'n helpu i chi deimlo'n fwy hyderus wrth seiclo ar y ffordd. Efallai y byddai croesfan sebra'n caniatau i ddisgyblion gerdded i'r ysgol ac adref yn ddiogel. Neu efallai bod angen gwella'r palmant i'w wneud yn haws i rywun â phlant neu rywun â chadair wthio i gerdded i'r dref. Mae'n bosibl ystyried nifer o wahanol opsiynau i wella'r llwybrau teithio llesol yn y dref.
Gyda'r map newydd hwn, gallwch adael pin yn gyflym ac yn hawdd ar y map i ddangos lle mae yna broblemau o ran cerdded neu seiclo a lle fyddech yn dymuno gweld gwelliant. Byddwch yn gallu edrych ar y map hwn a'i rannu gyda theulu a ffrindiau tan 31 Mawrth: https://powys.commonplace.is
"Nod Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yw gwneud Cymru'n genedl sy'n cerdded a seiclo," dywedodd y Cynghorydd Heulwen Hulme, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar yr Amgylchedd.
"Gyda'ch help chi, ein bwriad yw hyrwyddo'r map a ddatblygwyd gan gymunedau yn 2016/17, gan nodi rhwydweithiau posibl ar gyfer llwybrau teithio llesol yn yr 11 o ardaloedd lleol (y trefi mwyaf ym Mhowys). Rydym am ddeall beth yw ein harferion presennol o ran cerdded a seiclo a sut allwn wella'r rhain yn y dyfodol. Rydym am gael barn pobl sydd un ai'n byw, gweithio neu'n ymweld â'n trefi ni. Mae hyn yn cynnwys grwpiau cymunedol, ysgolion, teuluoedd ac unigolion.
"Ynghyd â'r arolygon, mae'r map newydd yn ei wneud yn haws i chi roi gwybod i ni lle mae yna broblemau neu lle hoffech awgrymu rhai gwelliannau i'r llwybrau cerdded a seiclo yn eich ardal chi. Ewch i gael golwg a rhowch wybod i ni.
"Pan fyddwn wedi nodi a dadansoddi'r llwybrau a'r awgrymiadau, bydd Map Rhwydwaith Teithio Llesol drafft yn cael ei gyhoeddi a fydd yn destun ymgynghori â'r cyhoedd dros yr haf."
I wybod mwy am gynlluniau teithio llesol y cyngor ac i gyflwyno eich syniadau ar wella llwybrau teithio llesol yn eich ardal, ewch i: Map Rhwydwaith Teithio Llesol - Powys