Llwybrau Teithio Llesol Arfaethedig Powys ar gyfer y Dyfodol

Rhannu Llwybrau Teithio Llesol Arfaethedig Powys ar gyfer y Dyfodol ar Facebook Rhannu Llwybrau Teithio Llesol Arfaethedig Powys ar gyfer y Dyfodol Ar Twitter Rhannu Llwybrau Teithio Llesol Arfaethedig Powys ar gyfer y Dyfodol Ar LinkedIn E-bost Llwybrau Teithio Llesol Arfaethedig Powys ar gyfer y Dyfodol dolen

Yn ystod 2025, cynhaliom ymarfer ymgysylltu cynhwysfawr i ddeall sut y gellid gwella cyfleusterau a llwybrau teithio llesol, fel cerdded a beicio, ar draws 11 ardal teithio llesol dynodedig y sir (fel y'u diffiniwyd gan Weinidogion Llywodraeth Cymru). Y nod oedd cefnogi mwy o bobl i ddewis teithio llesol ar gyfer teithiau byr, dyddiol.

Gan ddefnyddio adborth gan drigolion, cynghorau tref a chymuned, ysgolion, a rhanddeiliaid eraill, rydym wedi datblygu Map Rhwydwaith Teithio Llesol (MRhTLl) drafft wedi'i ddiweddaru ar gyfer pob ardal.

Mae'r mapiau drafft hyn yn dangos llwybrau teithio llesol presennol, yn cynnwys llwybrau a ddyhëir fel y nodwyd trwy adborth cymunedol ac yn amlygu gwelliannau arfaethedig i'r rhwydwaith teithio llesol ehangach.

Er nad yw wedi bod yn bosibl cynnwys pob awgrym - oherwydd ystyriaethau ymarferol a'r isafswm gofynion a nodir yn y Canllaw Dylunio Teithio Llesol - rydym wedi ceisio ymgorffori cymaint o lwybrau ac argymhellion â phosibl.

Mae'n bwysig nodi mai dyheadau yw'r holl lwybrau a nodwyd ar y pwynt hwn. Fodd bynnag, byddant yn ffurfio'r sylfaen ar gyfer ceisiadau am gyllid teithio llesol yn y dyfodol ac yn helpu i lunio gwelliannau hirdymor ledled Powys.

Dweud eich Dweud

Mae'r 11 MRhTLl drafft bellach ar gael i'w gweld ar wefan MapDataCymru https://mapdata.llyw.cymru/maps/powys-active-travel-network-map-draft/.

Byddant ar agor ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus am 12 wythnos, o: Ddydd Llun 8 Mehefin i ddydd Llun 31 Awst

Dyma'ch cyfle i adolygu'r llwybrau arfaethedig a sicrhau ein bod wedi adlewyrchu'n gywir yr adborth a gasglwyd yn ystod yr ymarfer ymgysylltu. Os ydych yn sylwi ar unrhyw broblemau posibl gyda'r llwybrau arfaethedig, anfonwch eich adborth cyn gynted â phosibl at: activetravelengagement@powys.gov.uk

Diweddaru: 12 Meh 2026, 04:18 PM