Dyfodol canol ein trefi

Rhannu Dyfodol canol ein trefi ar Facebook Rhannu Dyfodol canol ein trefi Ar Twitter Rhannu Dyfodol canol ein trefi Ar LinkedIn E-bost Dyfodol canol ein trefi dolen

Consultation has concluded

Ynghŷd ag Amey Consulting ac LDA Design, mae Cyngor Sir Powys yn edrych ar sut y gallwn wella’r mannau cyhoeddus yng nghanol trefi Aberhonddu a Chrughywel ac yn awyddus i glywed barn, profiadau a phryderon pobl leol, busnesau ac ymwelwyr ar sut maen nhw’n defnyddio canol trefi a sut y gellid eu gwella.

Yn Aberhonddu mae’r ffocws ar wella blaenoriaeth a phrofiadau cerddwyr, gwella cysylltiadau a bioamrywiaeth a chreu mannau cyhoeddus diogel a hwylus sy’n gwella rhinweddau unigryw’r dref ar hyd y Stryd Fawr gan gynnwys y Struet, Stryd Fawr Uchaf, Stryd Fawr Isaf a’r Gwrthglawdd.

Yng Nghrughywel, mae’r ffocws ar wella blaenoriaeth a phrofiadau cerddwyr, ystyried problemau draenio a gwella hunaniaeth ar hyd y Stryd Fawr.

Mae’r prosiectau hyn wedi deillio o osod cyfyngiadau Covid dros dro yn 2020 ar gyfer cadw pellter cymdeithasol gan greu lle ychwanegol i gerddwyr a gostwng nifer y llefydd parcio.

Mae’r mesurau dros dro hyn wedi tynnu sylw at sut y gall canol ein trefi ni ddatblygu a gwneud defnydd gwahanol o le. Mae’r pandemig wedi arwain at brofi elfen o ddiwylliant caffi yn ein trefi a gwneud yn fawr o’n hardaloedd awyr agored, sy’n rhywbeth y mae nifer am ei gadw i’r dyfodol.

Yn dilyn gwaith ymgynghori anffurfiol gyda chymunedau lleol nôl ym mis Mehefin 2021, rydym wedi ystyried sylwadau pobl a chymryd y cyfle i edrych ar sut ac os y dylai’r mesurau dros dro hyn fod yn rhai parhaol a pha gyfleoedd a manteision eraill sydd i’w gweld.

Mae’n bwysig pwyso a mesur barn pawb sy’n defnyddio canol ein trefi; ymwelwyr, trigolion a busnesau. Bydd y gwaith ymgynghori hwn yn arwain at gael adborth gwerthfawr iawn a fydd yn llywio sut y bydd canol trefi’n edrych, yn gweithio ac yn teimlo yn y dyfodol.

Byddem yn gwerthfawrogi eich amser yn fawr iawn - rhyw 5 munud sydd eu hangen i anfon eich syniadau a’ch adborth ar y cyflwyniad fideo. Gallwch wneud hyn trwy lenwi’r holiadur adborth ar-lein, neu drwy gysylltu â transformingtowns@powys.gov.uk.

DWEUD EICH DWEUD

ABERHONDDU: https://forms.office.com/r/zf5s7qbEis

CRUGHYWEL: https://forms.office.com/r/00ENxtfiHK

Mae’r ymgynhoriad yn cau ganol nos ddydd Sul 16 Hydref 2022.