Ynni

Rhannu Ynni ar Facebook Rhannu Ynni Ar Twitter Rhannu Ynni Ar LinkedIn E-bost Ynni dolen

Pam mae ynni'n bwysig ym Mhowys

Mae defnyddio trydan a systemau gwresogi ar draws cartrefi, busnesau ac adeiladau cyhoeddus yn cyfrif am tua 10% o ôl troed carbon Powys — ac maent yn un o'r meysydd lle gall gweithredu sicrhau gostyngiadau cyflym.

Mae ynni yn cyfrif am 13% o ôl troed preswylydd, gydag allyriadau tanwydd cartrefi 41% yn uwch na chyfartaledd y DU, yn bennaf oherwydd systemau gwresogi sy’n defnyddio olew a thanwydd solet.

Mae daearyddiaeth wledig Powys yn llunio'r her hon. Mae llawer o gartrefi oddi ar y grid nwy ac yn dibynnu ar olew neu danwydd solet. Mae llawer o'r stoc tai yn hŷn ac yn anoddach i'w hinswleiddio.

Rydym yn gweld:

  • Defnydd uwch o danwydd mewn cartrefi na chyfartaledd y DU
  • Mwy o amlygiad i brisiau tanwydd ffosil anwadal
  • Risg uwch o dlodi tanwydd mewn cymunedau gwledig
  • Pwysau ar rwydweithiau trydan wrth i'r galw newid
  • Heriau i ôl-osod adeiladau traddodiadol a rhestredig

Mae'r ffactorau hyn yn effeithio ar fforddiadwyedd, iechyd a gwydnwch hirdymor.

Ar yr un pryd, mae trawsnewid i ynni adnewyddadwy yn cynnig manteision mawr.

Ynni fel datrysiad i newid hinsawdd a lles

Ynghyd â newid yn y system drafnidiaeth a bwyd, mae trawsnewid i ynni adnewyddadwy yn cynrychioli cyfle pwerus i:

  • Wella fforddiadwyedd aelwydydd
  • Lleihau anghydraddoldeb rhwng ardaloedd trefol a gwledig
  • Creu swyddi lleol medrus
  • Cadw mwy o fuddsoddiad mewn ynni o fewn Powys
  • Meithrin gallu hirdymor i wrthsefyll heriau sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd a’r farchnad
  • Gwella canlyniadau iechyd i drigolion

Mae trawsnewid i ynni adnewyddadwy teg yn golygu cartrefi cynhesach, gan helpu i amddiffyn aelwydydd rhag costau ynni cynyddol, a mwy o ddiogelwch o ran ynni – ac mae’n arbennig o bwysig mewn Sir wledig sy'n agored i anweddolrwydd prisiau tanwydd ffosil.

Llunio dyfodol Powys

Mae trawsnewid i ynni adnewyddadwy’n gweithio pan mae'n gwella cysur, fforddiadwyedd a thegwch. Mae lleihau allyriadau ym Mhowys yn dibynnu ar fuddsoddiad cydlynol, uwchraddio isadeiledd a chymorth ymarferol - fel nad yw aelwydydd yn cael eu gadael i reoli'r newid ar eu pen eu hunain.

Y nod yw gwneud opsiynau carbon isel a gwydn yn ddewis hawdd a fforddiadwy — wedi'u cefnogi gan fuddsoddiad a gwasanaethau.

Bydd cynyddu'r trawsnewid i ynni carbon isel ym Mhowys yn cynnwys:

  • Gwella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi ac adeiladau cyhoeddus
  • Ehangu system wresogi carbon isel, yn enwedig mewn eiddo gwledig sydd heb nwy
  • Cynyddu faint o ynni adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol a pherchnogaeth gymunedol
  • Cryfhau rhwydweithiau trydan a hyblygrwydd i gefnogi trydaneiddio
  • Cymorth wedi'i dargedu i leihau tlodi tanwydd a sicrhau trosglwyddiad teg

Mae cyrff cyhoeddus ym Mhowys yn cefnogi’r trawsnewid i ynni adnewyddadwy drwy fuddsoddi mewn adeiladau cyhoeddus, cyflawni rhaglenni effeithlonrwydd ynni, cydlynu cynllunio ynni lleol a mentrau sy'n ehangu faint o ynni adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu ac yn lleihau tlodi tanwydd.

Astudiaeth Achos

Ffurfiodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog bartneriaeth â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i ddarparu system ynni leol glyfar yng Nghraig y Nos, Abertawe. Roedd y prosiect yn cynnwys storfa batris, pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan, a thrydaneiddio'r fflyd lawn, gan arddangos arweinyddiaeth y sector cyhoeddus mewn datgarboneiddio a gwytnwch ynni.

Dysgwch fwy yma: Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Abertawe: system ynni leol glyfar a thrydaneiddio fflyd | LLYW.CYMRU (Dolen Allanol)

Astudiaeth Achos

Wedi'i sefydlu yn 2001, mae Bro Dyfi Community Renewables yn un o gydweithfeydd ynni cymunedol cyntaf y DU. Wedi'i leoli ger Machynlleth, datblygodd system gynhyrchu ynni gwynt a oedd yn eiddo i'r gymuned a ariannwyd trwy gynigion i gael cyfranddaliadau lleol. Heddiw mae’n cynnwys oddeutu 200 o gyfranddalwyr, ac mae mwy na hanner ohonynt yn lleol.

Dysgwch fwy: Bro Dyfi Community Renewables (Dolen Allanol))

Astudiaeth Achos

Unodd sefydliadau lleol yn Llanidloes yn 2024 i gryfhau camau gweithredu cymunedol yn ymwneud â newid hinsawdd.Mae prosiectau’n cynnwys gosodiadau solar ffotofoltaidd, datblygu ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned a ymgysylltu lleol a mentrau lleihau carbon. Mae'r gwaith hwn yn dangos sut y gall gweithredu lleol cydlynol gyflymu datgarboneiddio wrth feithrin gwydnwch cymunedol.

Dysgwch fwy: Home - Zero Carbon Llanidloes (Dolen Allanol)

Datgloi camau gweithredu ar ynni ledled Powys

Mae'r sefydliadau hyn yn helpu i wneud gweithredu ar ynni yn haws ac yn fwy hygyrch, ac yn gweithio i sicrhau nad oes unrhyw gymuned yn cael ei gadael ar ôl.

Hafren Gwy
Mae Hafren Gwy yn cefnogi datblygiad ynni adnewyddadwy cymunedol a phrosiectau datgarboneiddio lleol. Cysylltwch â ni: Severn Wye Energy Agency – sustainability now, and for the future (Dolen Allanol)

Tyfu Canolbarth Cymru
Cydlyniant rhanbarthol sy’n cefnogi'r newid i systemau ynni carbon isel. Cysylltwch â ni: Growing Mid Wales - English - Growing Mid Wales (Dolen Allanol)

Gweithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth

Mae tystiolaeth yn helpu gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a chymunedau i roi ymdrech lle y bydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf.

Ôl-troed carbon Powys

Gallwch edrych ar fanylion llawn ôl troed carbon Powys, gan gynnwys mewn perthynas ag ynni, ar Sir Powys: Sylfaen Carbon a Thrawsnewid Hinsawdd

Small World Consulting Report

Cynllun Ynni Ardal Leol Powys

Cynlluniau gofodol yw Cynlluniau Ynni Ardal Leol sy'n seiliedig ar fewnbwn o waith ymgysylltu â rhanddeiliaid a modelu sy'n nodi beth yw'r datrysiadau, ble y dylid eu defnyddio, eu cost, pryd y dylid eu dilyn a chan bwy.

What are Local Area Energy Plans? - English - Growing Mid Wales (Dolen Allanol)

Dod o Hyd i Ddatrysiadau ar gyfer Cartrefi Powys: Adroddiad ar Ddatgarboneiddio ac Addasu i'r Hinsawdd

Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar lwybrau ymarferol ar gyfer ôl-osod cartrefi gwledig anodd eu trin ym Mhowys.

Finding Solutions for Powys Homes (Dolen Allanol)

Cyhoeddi: 27 Mar 2026, 04:56 PM