Newyddion Diweddaraf
Yn dilyn yr ymgynghoriad diweddar a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Powys ar gynnig i gau Ysgol G.G. Yr Ystog o 31 Awst 2022, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi Adroddiad Ymgynghori bellach. Mae'r adroddiad yn crynhoi'r materion a gafodd eu codi yn ystod yr ymgynghoriad, ac yn darparu ymateb y Cyngor i'r materion hynny.
Adroddiad Ymgynhori:
Fe wnaeth Cabinet y Cyngor ystyried yr Adroddiad Ymgynghori ar 23 Tachwedd, a chytunwyd i ddod â'r broses i gau Ysgol G.G. Yr Ystog i ben.
Fodd bynnag, mae angen mynd i'r afael â phryderon am yr ysgol, ac fe wnaeth y Cabinet roi sêl bendith i'r cyngor ystyried opsiynau pellach i ymdrin â'r pryderon hyn. Bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet maes o law.
