Gofyn am eich barn ar Asesiad Anghenion Fferyllol BIAP drafft 2026

Rhannu Gofyn am eich barn ar Asesiad Anghenion Fferyllol BIAP drafft 2026 ar Facebook Rhannu Gofyn am eich barn ar Asesiad Anghenion Fferyllol BIAP drafft 2026 Ar Twitter Rhannu Gofyn am eich barn ar Asesiad Anghenion Fferyllol BIAP drafft 2026 Ar LinkedIn E-bost Gofyn am eich barn ar Asesiad Anghenion Fferyllol BIAP drafft 2026 dolen

Ceisio eich barn ar ddrafft Asesiad o Anghenion Fferyllol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys erbyn 30 Gorffennaf 2026

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys dan rwymedigaeth statudol i ddrafftio Asesiad Anghenion Fferyllol, ymgynghori arno a'i gyhoeddi erbyn 1 Hydref 2026 yn unol â Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020.

Beth yw Asesiad Anghenion o Fferyllol?

Mae'r Asesiad o Anghenion Fferyllol wedi'i gynllunio i asesu'r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau fferyllol (h.y. y gwasanaethau y mae'r bwrdd iechyd yn eu comisiynu gan fferyllfeydd, contractwyr presgripsiynau dyfeisiau a meddygon fferyllol), ystyried unrhyw amgylchiad penodol yn y dyfodol lle gallai'r sefyllfa bresennol newid yn sylweddol a nodi unrhyw fylchau presennol a rhai yn y dyfodol mewn gwasanaethau fferyllol.

Mae'r Asesiad o Anghenion Fferyllol yn cynorthwyo'r bwrdd iechyd i benderfynu ar geisiadau gan fferyllfeydd, contractwyr presgripsiynau dyfeisiau a meddygon fferyllol ar gyfer safleoedd newydd, ychwanegol neu wedi'u hadleoli, newidiadau i oriau agor neu ddarparu mwy o wasanaethau fferyllol.

Fel rhan o'r broses hon, mae'r bwrdd iechyd yn cynnal proses ymgynghori ar Ddrafft Asesiad o Anghenion Fferyllol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac yn ceisio eich barn.

Sut y galla i gymryd rhan?

Mae cyfnod ymgynghori ar ddrafft Asesiad o Anghenion Fferyllol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn digwydd o 1 Mehefin 2026 i 30 Gorffennaf 2026.

Estynnwn wahoddiad i chi i:

  • Ddarllen drafft Asesiad o Anghenion Fferyllol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a'r Crynodeb Gweithredol
  • Rhannu eich adborth erbyn 30 Gorffennaf 2026

Mae drafft yr asesiad o anghenion fferyllol ar gael o'n gwefan ymgynghori yn www.dweudeichdweudpowys.cymru/aaf-2026, neu mae copi caled ar gael ar gais:

Gallwch rannu eich adborth gan ddefnyddio ein harolwg ar-lein yn www.dweudeichdweudpowys.cymru/aaf-2026, neu mae copi caled ar gael ar gais:

Bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cadw eich manylion a'ch ymatebion ond dim ond at ddiben yr ymgynghoriad hwn a datblygu'r asesiad o anghenion fferyllol y cânt eu defnyddio. Bydd unrhyw ddata personol a ddarparwch yn cael ei gadw yn unol â'n polisi preifatrwydd.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd eich adborth yn llywio fersiwn derfynol Asesiad o Anghenion Fferyllol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a fydd yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan erbyn 1 Hydref 2026.

Os hoffech gael eich diweddaru ar y camau nesaf ar Asesiad o Anghenion Fferyllol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, cofrestrwch i dderbyn ein bwletinau e-bost rheolaidd:

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad neu os oes gennych gwestiynau am yr Asesiad o Anghenion Fferyllol, ysgrifennwch at y Tîm Rheoli Meddyginiaethau, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Ysbyty Bronllys, Bronllys, Powys LD3 0LY

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English

Diolch am eich diddordeb yn nrafft Asesiad o Anghenion Fferyllol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Yn gywir,

Jonathan Boyd, Prif Fferyllydd, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Diweddaru: 29 Mai 2026, 01:27 PM