Arolwg Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad

Rhannu Arolwg Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad ar Facebook Rhannu Arolwg Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad Ar Twitter Rhannu Arolwg Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad Ar LinkedIn E-bost Arolwg Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad dolen

Consultation has concluded

Crëwyd yr arolwg canlynol i gasglu eich barn i gefnogi'r gwaith o ddatblygu Adroddiad Sefydlogrwydd Marchnad Powys (MSR) ar ddigonolrwydd a sefydlogrwydd darpariaeth nad yw'n cael ei rheoleiddio ym Mhowys e.e. y gwasanaethau 'camu i lawr' ac atal y mae trydydd sector Powys yn eu darparu’n helaeth.

Dyma'ch cyfle i fwydo eich profiadau, eich mewnwelediadau a'ch gwybodaeth eich hun i MSR Powys a helpu i sicrhau bod MSR Powys yn cyfleu ehangder sefydliadau'r trydydd sector a’r sefydliadau gwerth cymdeithasol sy'n darparu gwasanaethau gofal, ynghyd ag unrhyw heriau sy'n effeithio ar eu sefydlogrwydd a'u cynaliadwyedd.

Prif ffocws y Cynllun fydd asesu digonolrwydd a sefydlogrwydd y gofal a'r cymorth a ddarperir ar gyfer darpariaeth a reoleiddir; ac unrhyw fater arall sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau a reoleiddir. Fodd bynnag, er bod llawer o'r gwaith yn canolbwyntio ar y gwasanaethau gofal a chymorth a reoleiddir, gan gynnwys rhai gwasanaethau trydydd sector dan gontract, mae'r MSR hefyd yn cydnabod y rôl allweddol sy’n cael ei chwarae gan sefydliadau a mentrau gwerth cymdeithasol.

Yn benodol, bydd yr MSR yn archwilio:

  • sut y mae'r mathau hyn o wasanaethau yn diwallu anghenion unigolion am ofal a/neu gymorth;
  • yr effaith ar ddarpariaeth y gwasanaethau a reoleiddir;
  • sut y mae ffurf y farchnad ar gyfer gwasanaethau a reoleiddir yn effeithio ar agweddau eraill ar y ddarpariaeth gofal a chymorth.

Bydd yr arolwg hwn yn cau ddydd Mawrth 31 Mai 2022

  • Newyddion Diweddaraf

    Rhannu Newyddion Diweddaraf ar Facebook Rhannu Newyddion Diweddaraf Ar Twitter Rhannu Newyddion Diweddaraf Ar LinkedIn E-bost Newyddion Diweddaraf dolen

    Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys wedi paratoi'r adroddiad hwn (Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad Powys) fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Fe'i paratowyd yn unol â chanllawiau 2021 a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch cynhyrchu Adroddiadau2 Sefydlogrwydd y Farchnad ac felly dyma'r cyntaf o'i fath. Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar wasanaethau3 gofal cymdeithasol a reoleiddir ym Mhowys; yn arbennig:

    • digonolrwydd ac ansawdd cyffredinol darpariaeth y gwasanaethau hynny,
    • tueddiadau cyfredol neu dueddiadau sy’n datblygu sy'n effeithio ar y gwasanaethau hynny
    • heriau sylweddol sy'n wynebu'r gwasanaethau hynny
    • ac effaith comisiynu ac ariannu ar swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol.

    Darllen rhagor: https://cy.powysrpb.org/_files/ugd/33b29e_a349238f5d1c40c4b063a06fca646d39.pdf