Cynlluniau cynnar ar gyfer Campws Lles Amlasiantaeth yn y Drenewydd

Rhannu Cynlluniau cynnar ar gyfer Campws Lles Amlasiantaeth yn y Drenewydd ar Facebook Rhannu Cynlluniau cynnar ar gyfer Campws Lles Amlasiantaeth yn y Drenewydd Ar Twitter Rhannu Cynlluniau cynnar ar gyfer Campws Lles Amlasiantaeth yn y Drenewydd Ar LinkedIn E-bost Cynlluniau cynnar ar gyfer Campws Lles Amlasiantaeth yn y Drenewydd dolen

Efallai y byddwch yn cofio, cyn pandemig COVID-19, ein bod wedi cynnal llawer o gysylltiad â phobl gogledd Powys i ddarganfod beth rydych chi'n meddwl sy’n bwysig er mwyn cynnal iechyd a lles da.

Wel, roeddem yn gwrando ar hynny ac arweiniodd hyn at ddatblygu ein Model Gofal Integredig. Mae'r ddogfen hon, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn nodi sut mae'r model integredig yn edrych: 2027 a thu hwnt. Gallwch ddarllen y ddogfen yma.

Nawr hoffem cyflwyno i chi ein meddyliau ar sut y gallwn ddatblygu'r Campws Lles Amlasiantaeth yng nghanol y Drenewydd a hefyd ofyn am eich barn ar y syniadau hyn.

Bydd y campws arfaethedig wedi’i leoli ar y safle sy'n cael ei feddiannu ar hyn o bryd gan Ysgol Calon y Dderwen (hen Ysgol Gynradd Hafren a Babanod Gwyrdd Ladywell) Clinig Stryd y Parc, Canolfan Deuluoedd Integredig y Drenewydd a llyfrgell y dref.

Mae'r cynlluniau ar gyfer y campws yn cynnwys:

  • adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Calon y Dderwen;
  • cyfleusterau iechyd a gofal, gan gynnwys y potensial i gynnal rhai gwasanaethau diagnostig i gleifion allanol a llawfeddygaeth ddydd yn ogystal â gwelyau cleifion mewnol a gwasanaethau sy'n cael eu darparu ar hyn o bryd yng Nghlinig Park Street;
  • academi iechyd a gofal;
  • darpariaeth llyfrgell;
  • rhannu gofod cymunedol;
  • gardd gymunedol;
  • llety tymor byr byw â chymorth.

Rydym yn rhagweld, os bydd y ceisiadau am gyllid i Lywodraeth Cymru yn llwyddiannus, y byddem yn gweld y campws ar waith yn ail hanner y degawd hwn er ein bod yn rhagweld y byddai'r adeilad ysgol newydd yn cael ei ddatblygu yn gynharach na hynny.

Yn y cwestiynau sy'n dilyn hoffem glywed gennych am ein syniadau cychwynnol.

  • Ar gau: Mae’r arolwg wedi gorffen
    Ein harolwg
    Rhannu Ein harolwg ar Facebook Rhannu Ein harolwg Ar Twitter Rhannu Ein harolwg Ar LinkedIn E-bost Ein harolwg dolen
Diweddaru: 28 Jan 2022, 09:34 AC