Llyfrgell Machynlleth a Datblygiad Adeilad Newydd Ysgol Bro Hyddgen

Rhannu ar Facebook Rhannu ar Twitter Rhannu ar LinkedIn E-bostiwch y ddolen hon

Consultation has concluded

Mae Cyngor Sir Powys wedi bod yn gweithio ar gynlluniau i adeiladu ysgol newydd i Ysgol Bro Hyddgen ers 2017, ond wynebodd y prosiect oedi annisgwyl oherwydd cwymp y prif gontractwr, Dawnus Construction Ltd.

Cafodd Achos Amlinellol Strategol/Achos Busnes Amlinellol ar gyfer ysgol pob oed newydd 540 lle ar safle uwchradd Ysgol Bro Hyddgen i gymryd lle'r adeiladau cynradd ac uwchradd presennol ei baratoi gan y cyngor a'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru yn Ionawr 2023.

Pan gaiff ei adeiladu, bydd yr adeilad newydd yn cynnwys cyfleusterau blynyddoedd cynnar, ardaloedd ar gyfer addysg gynradd, uwchradd ac ôl-16, ystafell gymunedol, canolfan anghenion dysgu ychwanegol, ardaloedd llesiant yn ogystal ag ardaloedd allanol a chae 3G.

Gallai'r adeilad gynnwys lle i lyfrgell gyhoeddus hefyd os oes angen hynny. Bydd hyn yn ddibynnol ar ganlyniad yr ymgysylltu cyhoeddus hwn.

Rhannwch eich barn erbyn dydd Mawrth 28ain o Chwefror 2023. Diolch.

Dilynwch y ddolen ganlynol i weld cynllun llawr y datblygiad sy'n cael ei gynnig ar gyfer Ysgol Bro Hyddgen, sy’n cynnwys gofod posibl ar gyfer llyfrgell gyhoeddus: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/21904/widgets/62283/documents/37540

Bydd y cyngor nawr yn mynd allan i dendr ar gyfer contractwr i orffen y gwaith dylunio, gyda'r bwriad o agor yr ysgol newydd yn 2026.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymarfer hwn, gallwch gysylltu â'r Tîm Trawsnewid Addysg trwy anfon e-bost at transforming.education@powys.gov.uk neu ffonio 01938 551253.

I gael gwybodaeth ynglŷn â sut mae'r Tîm Trawsnewid Addysg yn diogelu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol a gesglir yn ystod prosesau ymgysylltu, gweler yr hysbysiad preifatrwydd Trawsnewid Addysg, sydd ar gael drwy'r ddolen ganlynol:https://en.powys.gov.uk/article/9803/Transforming-Education-Privacy-Notice

  • CLOSED: This survey has concluded.

    Sylwer: Cyfrifoldeb Cyngor Sir Powys yw sicrhau a diogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn ymateb i arolwg drwy’r porth hwn. Bydd unrhyw ddata personol y byddwch yn ei roi i ni (eich enw llawn, cyfeiriad neu rif ffôn), yn cael ei storio’n ddiogel am gyfnod cyfyngedig yn unig, ac fe’i defnyddir at y dibenion a ddisgrifiwyd yn yr arolwg yn unig ac yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) newydd. Cliciwch ar y tab preifatrwydd ar waelod y dudalen i gael rhagor o wybodaeth.