Cyfleoedd Dydd ym Mhowys

Rhannu Cyfleoedd Dydd ym Mhowys ar Facebook Rhannu Cyfleoedd Dydd ym Mhowys Ar Twitter Rhannu Cyfleoedd Dydd ym Mhowys Ar LinkedIn E-bost Cyfleoedd Dydd ym Mhowys dolen

Mae’r arolwg hwn wedi cau.

Mae’r arolwg hwn yn ffurfio rhan o ymarfer ymgysylltu ar raddfa ehangach am y cyfleoedd dydd sydd ar gael oddi fewn i Bowys i oedolion ag anableddau dysgu, anableddau corfforol, a/neu anawsterau iechyd meddwl a phobl hŷn sy’n galw am ofal a chymorth.

Mae cyfleoedd dydd yn rhoi cyfle i unigolion wella eu llesiant drwy gymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau, datblygu cydberthnasau a chael sgiliau newydd. Maen nhw’n galluogi pobl i ddyfod yn fwy annibynnol a byw bywydau cyflawn. Mae cyfleoedd dydd hefyd yn darparu cymorth o ofalwyr, drwy ddarparu seibiant fel eu bod yn gallu dilyn eu diddordebau y tu hwnt i’w rôl fel gofalwr.

Bydd y wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn ein helpu ni i ddeall beth sy’n bwysig mewn perthynas â chyfleoedd dydd, beth sy’n gweithio’n dda gyda’r cyfleoedd dydd sydd ar gael ar hyn o bryd, a beth allwn ni ei wneud yn well. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i rannu eich safbwyntiau am ba fath o wedd fydd gan gyfleoedd dydd yn y dyfodol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau fod yna gyfleoedd dydd cyfartal, cynhwysol ac o ansawdd uchel ledled Powys.

Os fyddai’n well gennych ddarparu eich safbwyntiau am gyfleoedd dydd yn bersonol, byddwn ni’n cynnal nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu ledled y sir yn ystod mis Tachwedd 2023.

Gallwch hefyd anfon e-bost atom: thedayopportunitiesreview@powys.gov.uk

  • Newyddion Diweddaraf

    Rhannu Newyddion Diweddaraf ar Facebook Rhannu Newyddion Diweddaraf Ar Twitter Rhannu Newyddion Diweddaraf Ar LinkedIn E-bost Newyddion Diweddaraf dolen

    Faint o bobl a ymatebodd i'r ymgysylltiad?

    472

    Faint o bobl ymwelodd â'r dudalen hon?

    1,486

    Beth yw'r newyddion diweddaraf?

    Gofynnodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Iechyd a Gofal - Dydd Iau, 23rd Mai, 2024 - am drosolwg o, gan gynnwys amserlenni, ar gyfer y gwaith parhaus, y camau nesaf gyda'r cyfle i ddychwelyd yn y cyfarfod nesaf i gyflwyno dadansoddiad a thystiolaeth o'r gweithgaredd ymgysylltu.

    Roedd yr Aelod Portffolio yn teimlo ei bod yn bwysig oedi cyn cynhyrchu dadansoddiad pellach a thystiolaeth a fyddai'n eistedd ochr yn ochr â gwaith ehangach yr RPB (Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol).

    Rhannwyd cyflwyniad ar Ymgysylltu â Chyfleoedd Dydd gyda'r Pwyllgor.