Adolygiad Hamdden Powys 2023
Mae’r arolwg hwn wedi cau.
Mae Cyngor Sir Powys yn cynnal adolygiad o ganolfannau hamdden ym Mhowys, fel rhan o adolygiad ehangach o wasanaethau’r Cyngor. Byddwn yn ystyried y ddarpariaeth bresennol, defnydd, costau rhedeg, allyriadau carbon a chyflwr yr adeiladau, yn ogystal â gweithgareddau a chyfleoedd hamdden eraill sydd ar gael o fewn ac o gwmpas y sir.
I’n helpu llunio cynnig hamdden cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, byddem yn hoffi clywed gennych, ym mha weithgareddau rydych chi’n cymryd rhan nawr (neu beidio) er budd eich iechyd a llesiant. Hefyd mae gennym ddiddordeb yn lle rydych chi’n mynd i wneud y gweithgareddau hyn, a ble fyddech chi’n dewis eu gwneud yn y dyfodol efallai.
Gallwch adael eich adborth ar-lein trwy ein harolwg isod.
Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw dydd Llun 28 Awst.
Mae fersiynau papur o'r arolwg hwn ar gael i'w lawrlwytho a'u hargraffu yma neu gallwch godi un o lyfrgelloedd ar draws Powys, gofynnwch i aelod o staff am gopi.
Camau Nesaf...
Byddwn ni’n dadansoddi’r data a’r adborth er mwyn dynodi rhai cynigion ar gyfer creu dyfodol cynaliadwy hir dymor sy’n darparu cyfleoedd am ffordd o fyw actif ledled y sir.
Rydym ni’n bwriadu ymgynghori eto â rhanddeiliaid a phreswylwyr yn yr hydref, i ystyried opsiynau a datblygu map ffyrdd tuag at Bowys iach ac actif fel rhan o Bowys Gryfach, Decach, Wyrddach.