Adolygiad o wasanaeth y gaeaf ar ffyrdd Powys

Rhannu Adolygiad o wasanaeth y gaeaf ar ffyrdd Powys ar Facebook Rhannu Adolygiad o wasanaeth y gaeaf ar ffyrdd Powys Ar Twitter Rhannu Adolygiad o wasanaeth y gaeaf ar ffyrdd Powys Ar LinkedIn E-bost Adolygiad o wasanaeth y gaeaf ar ffyrdd Powys dolen

Mae Cyngor Sir Powys yn adolygu’r modd y caiff ffyrdd Powys eu gwasanaethu, neu eu trin yn ystod misoedd y gaeaf. Bydd hyn yn cael ei wneud wrth gymhwyso categori at bob ffordd gan ddefnyddio set o feini prawf.

Hoffem i chi gael dweud eich dweud am sut mae’r broses categoreiddio ffyrdd yn cael ei chymhwyso. Drwy’r ymarferiad ymgysylltiad ar-lein hwn, byddwch yn dod o hyd i restr o feini prawf sy’n helpu i gategoreiddio pob ffordd. Hoffem osod y meini prawf hyn yn eu trefn yn ôl blaenoriaeth yng nghyd-destun gwasanaeth y gaeaf.

Er enghraifft, byddai meini prawf rheng uchel yn arwain at y ffordd honno’n derbyn y lefel uchaf o wasanaeth y gaeaf, a byddai maen prawf rheng isel yn arwain at y ffordd honno’n derbyn lefel is o wasanaeth y gaeaf.

Mae rhwydwaith ffyrdd Powys yn estyn fwy na 5,500 km ac yn cynnwys ffyrdd gwledig (sy’n cael eu cynnal a’u cadw a’u rheoli gan Gyngor Sir Powys) a chefnffyrdd (sy’n cael eu cynnal a’u cadw a’u rheoli gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (yr Asiantaeth) ar ran Llywodraeth Cymru).

Yn hanesyddol, mae’r modd y cafodd y ffyrdd eu gwasanaethu a’u cynnal a chadw yn ystod misoedd y gaeaf wedi esblygu ar lefel leol. Er bod y rhesymwaith sydd y tu ôl i raglen gwasanaeth y gaeaf cyfredol wedi bod o’r iawnfryd, nawr yw’r amser cywir i adolygu hyn yn erbyn codau ymarfer cenedlaethol ac anghenion cyfredol y dydd ar gyfer ein sir.

Wrth weithio â chyfarwyddyd oddi wrth Grŵp Ymchwil Cenedlaethol Gwasanaeth y Gaeaf (y Grŵp) a Seilwaith Priffyrdd a Reolir yn Dda: Cod Ymarfer, caiff ei gynnig bod ffyrdd Powys yn cael eu categoreiddio gan ddefnyddio ymagwedd sy’n seiliedig ar risg a thystiolaeth. Yn nhermau’r lleygwr, mae hyn yn golygu fod nifer o ffactorau i’w hystyried ar gyfer pob ffordd, gan gynnwys faint o draffig sydd, cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, amwynderau a gwasanaethau hanfodol fel ysgolion, canolfannau meddygol a lleoliadau gwasanaethau brys.

Ar ôl i gategori arfaethedig pob ffordd gael ei gadarnhau, gallwn gymhwyso’r rhain mewn telerau ymarferol, gan ddatblygu set o lwybrau ar gyfer gwasanaeth y gaeaf ledled y sir i gyd, a fydd wedi cael ei greu gan ddefnyddio ymagwedd agored, cyson a theg a fydd yn darparu gwasanaeth teg ledled Powys.

Drwy’r ymarferiad hwn, bydd eich adborth yn sicrhau ble bynnag y bo’n bosibl, ein bod ni’n bodloni disgwyliadau cymunedau, gan flaenoriaethu ffyrdd yn gywir a chymhwyso’r categoriadau’n deg ledled y sir.

Bydd yr ymarferiad ymgysylltu hwn yn dod i ben ddydd Sul 14 Mai 2023.

  • CLOSED: This survey has concluded.

    Sylwer: Cyfrifoldeb Cyngor Sir Powys yw sicrhau a diogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn ymateb i arolwg drwy’r porth hwn. Bydd unrhyw ddata personol y byddwch yn ei roi i ni (eich enw llawn, cyfeiriad neu rif ffôn), yn cael ei storio’n ddiogel am gyfnod cyfyngedig yn unig, ac fe’i defnyddir at y dibenion a ddisgrifiwyd yn yr arolwg yn unig ac yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR) a DPA 2018. Cliciwch ar y tab preifatrwydd ar waelod y dudalen i gael rhagor o wybodaeth.

    Rhannu Arolwg ar Facebook Rhannu Arolwg Ar Twitter Rhannu Arolwg Ar LinkedIn E-bost Arolwg dolen