Ardoll Ymwelwyr (Treth Twristiaeth) - Dweud eich dweud

Rhannu Ardoll Ymwelwyr (Treth Twristiaeth) - Dweud eich dweud ar Facebook Rhannu Ardoll Ymwelwyr (Treth Twristiaeth) - Dweud eich dweud Ar Twitter Rhannu Ardoll Ymwelwyr (Treth Twristiaeth) - Dweud eich dweud Ar LinkedIn E-bost Ardoll Ymwelwyr (Treth Twristiaeth) - Dweud eich dweud dolen

Pam rydyn ni'n gofyn am eich barn?

Rydym yn casglu barn gan drigolion, busnesau ac ymwelwyr i'n helpu i archwilio a ddylai Powys gyflwyno ardoll fechan ar ymwelwyr dros nos fel y nodir gan ddeddfwriaeth "Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll)" Llywodraeth Cymru.

Rydym wedi cytuno ar ddull pwyllog: i beidio cyflwyno ardoll ar hyn o bryd. Yn hytrach, rydym yn cynnal yr ymgysylltiad hwn i gasglu barn y cyhoedd a fydd yn cael ei adrodd yn ôl i'r Cabinet a'r cyngor llawn i helpu i siapio beth sy'n digwydd nesaf.

Pe baem yn cyflwyno ardoll ymwelwyr, byddai angen proses ymgynghori ffurfiol bellach, a'r cynharaf y gellid cyflwyno'r ardoll fyddai 2028.

Bydd yr holiadur ond yn cymryd tua 10 munud o’ch amser i’w gwblhau.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw: 30ainMedi 2026.

Ynglŷn â'r Ardoll Ymwelwyr

Er mwyn sicrhau bod yr Ardoll Ymwelwyr yn deg ac yn dryloyw, mae'n bwysig i ni ddiffinio'n glir pa fusnesau y byddai'n berthnasol iddynt. Mae hyn yn golygu amlinellu busnesau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â thwristiaeth, neu'n elwa ohono, megis darparwyr llety, atyniadau, lleoliadau lletygarwch a gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, a'r rhai sydd ddim. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod unrhyw ardoll yn cael ei gyflwyno'n deg ac i'r busnesau cywir.

Pennir cyfraddau'r ardoll gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cymru gyfan, a'r cyfraddau presennol yw:

  • £0.75 y pen y noson ar gyfer gwersylloedd (lleiniau) a hosteli (plant dan 18 oed wedi'u heithrio)
  • £1.30 y pen y noson ar gyfer pob math arall o lety i ymwelwyr

Ni fyddai'r ardoll yn berthnasol i rai arosiadau. Mae hyn yn cynnwys arhosiad hirach o fwy na 31 diwrnod, arhosiad yn unig / prif breswylfa rhywun, a rhai sefyllfaoedd llety brys neu dros dro. Mewn rhai achosion, efallai y bydd ad-daliadau ar gael drwy Awdurdod Refeniw Cymru (ARC).

Cyd-destun ariannol y Cyngor

Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Powys yn gweithredu mewn amgylchedd ariannol heriol iawn, gyda phwysau cyllidebol sylweddol a pharhaus. Fel llawer o gynghorau ledled Cymru, mae'r galw am ein gwasanaethau yn cynyddu ar gyfradd gyflymach na'r cyllid sydd ar gael.

Ar hyn o bryd, mae amrediad o'n gwasanaethau sy'n cefnogi ac yn galluogi twristiaeth ym Mhowys yn cael eu hariannu drwy gyllideb graidd y Cyngor, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â digwyddiadau ar raddfa fawr fel y Sioe Frenhinol, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Gŵyl Jazz Aberhonddu, Gŵyl Gomedi Machynlleth, Gŵyl Lenyddol y Gelli a llawer mwy (gweler Trosolwg o Ddigwyddiadau Twristiaeth - Cyngor Sir Powys). Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys:

  • Cynnal a chadw a glanhau toiledau cyhoeddus a ddefnyddir gan ymwelwyr
  • Casglu gwastraff, ailgylchu a glanhau strydoedd mewn ardaloedd ymwelwyr
  • Cynnal a chadw meysydd parcio a phriffyrdd mewn lleoliadau prysur
  • Cynnal a chadw llwybrau hawliau tramwy cyhoeddus, llwybrau cerdded a mynediad i gefn gwlad
  • Cynnal a chadw amgylcheddol, gan gynnwys casglu sbwriel a diogelu safleoedd naturiol
  • Arwyddion ac isadeiledd ymwelwyr
  • Cefnogaeth i ddigwyddiadau a gweithgareddau sy'n denu ymwelwyr
  • Gwybodaeth i ymwelwyr a hyrwyddo cyrchfannau

Cefnogir rhywfaint o'r gwaith hwn gan gyllid grant allanol, ond mae hyn fel arfer yn fyrdymor ac yn cwmpasu prosiectau penodol yn unig. Er enghraifft, yn y gorffennol mae Powys wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru megis grantiau isadeiledd twristiaeth, i dalu am welliannau wedi'u targedu. Fodd bynnag, nid yw'r cyllid hwn yn cwmpasu'r gost lawn, barhaus o gynnal gwasanaethau twristiaeth ac isadeiledd ledled y sir.

O ganlyniad, telir am y rhan fwyaf o'r costau hyn trwy gyllideb graidd y Cyngor ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu eu bod yn cael eu hariannu'n rhannol gan Drethdalwyr y Cyngor, ochr yn ochr â gwasanaethau hanfodol eraill fel gofal cymdeithasol, addysg a phriffyrdd.

Defnydd posibl o incwm ardoll

Pe baem yn cyflwyno Ardoll Ymwelwyr yn y dyfodol, byddai angen i'r Cyngor benderfynu sut y dylid defnyddio unrhyw incwm a gynhyrchir.

Un opsiwn fyddai defnyddio rhywfaint neu'r cyfan o'r incwm i dalu'r costau presennol o gefnogi twristiaeth. Gallai hyn leihau faint rydym yn dibynnu ar Dreth y Cyngor i ariannu gwasanaethau a ddefnyddir yn helaeth gan ymwelwyr, gan helpu i leddfu'r pwysau ariannol ar drigolion lleol.

Gallai defnyddiau eraill posibl o incwm ardoll gynnwys:

  • Gwella isadeiledd twristiaeth (e.e. toiledau, llwybrau troed, arwyddion, cyfleusterau ymwelwyr)
  • Gwella profiad ymwelwyr a chefnogi'r economi ymwelwyr yn lleol
  • Buddsoddi mewn amddiffyn yr amgylchedd a chynaliadwyedd mewn ardaloedd lle ceir nifer uchel o ymwelwyr
  • Cefnogi digwyddiadau, hyrwyddo a rheolaeth o gyrchfannau

Pwrpas yr ymgysylltiad hwn yw deall eich barn ar yr opsiynau hyn, yn cynnwys os fyddai Ardoll Ymwelwyr yn briodol ym Mhowys, a sut y dylid defnyddio unrhyw gyllid pe bai'n cael ei gyflwyno.

Dolenni gyda rhagor o wybodaeth

Dweud eich dweud

Gallwch adael eich adborth ar-lein drwy ein harolwg isod drwy glicio botwm 'CWBLHAU'R FFURFLEN'.

Mae copïau papur o'r arolwg ar gael i'w lawrlwytho neu gellir eu casglu o'ch llyfrgell leol. Dychwelwch ffurflenni wedi'u llenwi at staff y llyfrgell, neu sganiwch a'u hanfon drwy e-bost at haveyoursay@powys.gov.uk(Dolen allanol).

Rhanna dy syniadau erbyn dydd Mercher 30 Medi.

Cyhoeddi: 24 Awst 2026, 09:00 AC