Newyddion Diweddaraf
Faint o bobl a ymatebodd i'r ymgysylltiad?
988
Faint o bobl ymwelodd â'r dudalen hon?
1,649
Beth yw'r newyddion diweddaraf?
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid a Thrawsnewid Corfforaethol y gyllideb ddrafft ar gyfer 2024-2025, y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig drafft 2024-2029 a'r Rhaglen Gyfalaf ddrafft ar gyfer 2024-2029 yn y Cyngor Llawn ddydd Iau 22 Chwefror 2024.
Trafododd y Cyngor gynigion y gyllideb ac ymatebodd aelodau'r Cabinet i bwyntiau a godwyd gan aelodau. Heriodd aelodau o grwpiau'r gwrthbleidiau y Cabinet ar gynigion i godi tâl am fathodynnau glas ac ar ganlyniadau'r ymarfer ymgynghori cyhoeddus.
O 34 pleidlais i 32 PENDERFYNWYD
1. Cymeradwyo'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2024-2029 fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad.
2. Cymeradwyo Cyllideb Refeniw ar gyfer 2024-25 drwy gynnwys cynnydd o 7.5% yn y Dreth Gyngor yn 2024-25 a ddangosir yn y Model Adnoddau Ariannol yn Atodiad B a Thabl 4 a Thabl 5 yr adroddiad.
3. y bydd unrhyw gyllid ychwanegol a dderbynnir yn dilyn cyhoeddi Setliad Terfynol Llywodraeth Leol yn cael ei gymhwyso yn y gyllideb fel y nodir yn y diwygiad cyllidebol a nodir yn adran 3.18.
4. Cymeradwyo'r Gofrestr Ffioedd a Thaliadau yn Atodiadau D ac E yr adroddiad.
5. Cymeradwyo'r Strategaeth Gyfalaf a'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2024-29 a ddangosir yn Atodiad H yr adroddiad.
6. Cymeradwyo'r Datganiad Darpariaeth Isafswm Refeniw fel y nodir ar Atodiad H.
7. Cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a'r Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol yn Atodiad H.
8. Mae cymeradwyo'r terfyn benthyca awdurdodedig ar gyfer 2024-25 fel sy'n ofynnol o dan adran 3(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 wedi'i osod ar £514 miliwn ac mae'r Ffin Weithredol wedi'i gosod ar £499 miliwn fel y nodir yn adran 3.83 o'r adroddiad.
9. Cymeradwyo'r Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2024-25 fel y nodir yn adran 3.79 i 3.86 o'r adroddiad ac Atodiad H.
