Cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol

Wedi cau: Mae'r drafodaeth hon wedi dod i ben.

Mae Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol 2023-2027 wedi ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor.

Mae'r cynllun yn rhoi manylion blaenoriaethau llesiant Cyngor Sir Powys a pha weithredu sydd ei angen i'w cyflenwi.

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd y Cyngor a'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd y Cyngor: "Rydym ni'n falch iawn o ddatgan cyhoeddiad y cynllun mwyaf pwysig i'r cyngor sir ar gyfer y pedair blynedd nesaf.

"Dyma'r cynllun corfforaethol cyntaf i gael ei gyhoeddi i gefnogi ein huchelgais newydd i adeiladu 'Powys Gryfach, Tecach, Wyrddach'.

"Pobl yw calon Powys, a hoffem ddiolch i bawb a gyfranogodd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus a helpu i ddatblygu ein cynllun.

"Mae ein hamcanion newydd, sy'n cael eu manylu yn y cynllun, yn canolbwyntio ar feysydd y gallwn eu gwella neu eu datblygu i wneud bywydau pobl yn well, fel unigolion ac fel cymunedau.

"Er bod y cynllun wedi'i ddatblygu yn seiliedig ar yr hyn y mae pobl Powys wedi'i ddweud, nid yw'r sgwrs ar ben, a byddem yn croesawu unrhyw adborth parhaus ynghylch gwaith y Cyngor. Gellir gweld ein hymgynghoriadau a'n prosiectau ymgysylltu yn https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/ "

Mae Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol 2023-2027 ar gael ar wefan y Cyngor https://cy.powys.gov.uk/eingweledigaeth

Mae cyflwyniad i'r cynllun drwy fide oar gael yma:


Rhannu Cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol ar Facebook Rhannu Cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol Ar Twitter Rhannu Cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol Ar LinkedIn E-bost Cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol dolen

<span class="translation_missing" title="translation missing: cy.projects.blog_posts.show.load_comment_text">Load Comment Text</span>