Arolwg Cynllun Corfforaethol

Rhannu Arolwg Cynllun Corfforaethol ar Facebook Rhannu Arolwg Cynllun Corfforaethol Ar Twitter Rhannu Arolwg Cynllun Corfforaethol Ar LinkedIn E-bost Arolwg Cynllun Corfforaethol dolen

Mae’r arolwg hwn wedi cau.

Beth ydym yn ei wneud?

Yn dilyn yr etholiad ym mis Mai, mae angen i'r Cyngor lunio Cynllun Corfforaethol newydd er mwyn helpu trigolion Powys i gyrraedd eu nodau llesiant. Pwrpas yr ymgysylltu hwn yw ceisio adborth cyffredinol gan bobl Powys ar amcanion corfforaethol newydd y cyngor, sy'n ystyried sut yr ydym yn mynd i wneud hyn.

  • Byddwn ni'n gwella ymwybyddiaeth pobl o Wasanaethau, a sut i gael mynediad atyn nhw, er mwyn gallu gwneud dewisiadau gwybodus.
  • Byddwn ni'n darparu cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddiant cynaliadwy o ansawdd da, a dod yn gyflogwr achrededig sy’n talu cyflog byw go iawn.
  • Byddwn ni'n gweithio i fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb i gefnogi llesiant pobl Powys.

Pam rydyn ni'n ei wneud?

Y nod cyffredinol yw defnyddio'r adborth a dderbyniwyd i benderfynu i ba raddau y mae pobl Powys wedi derbyn yr amcanion newydd, a’r hyn y gallai fod angen ei newid er mwyn i ni sicrhau bod Cynllun Corfforaethol yn bodoli sy’n darparu ar gyfer pobl Powys

RHAN 1 – Cwestiynau demograffig: Gofyn cwestiynau rhagarweiniol i gael ymdeimlad o bwy yw’r atebwr/ble mae’r atebwr (er mwyn sicrhau ein bod yn derbyn ymatebion o gymaint o bobl Powys â phosibl

RHAN 2 – Cwestiynau am yr amcanion: Gofyn i atebwyr osod pwysigrwydd yr amcanion newydd yn ôl eu trefn, os teimlant y bydd hyn yn effeithio’n bositif ar bobl Powys, a phwy credant y dylem fod yn cydweithio â nhw i gyflawni’r amcan yma.

RHAN 3 –  Cwestiynau i gloi: Gofyn am sylwadau pellach.

Gallwch adael eich adborth ar-lein trwy ein harolwg isod neu lawr lwytho a llenwi’r arolwg gan ei hanfon dros e-bost at haveyoursay@powys.gov.uk neu ei gadael yn eich llyfrgell leol.

  Oes un funud gyda chi yn unig? Rhannwch eich syniadau trwy'r bwrdd syndiadau:https://padlet.com/haveyoursaypowys/CIP_Cym

Ymgynghoriad wedi dod i ben
  • Cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol

    Rhannu Cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol ar Facebook Rhannu Cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol Ar Twitter Rhannu Cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol Ar LinkedIn E-bost Cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol dolen
    Wedi cau: Mae'r drafodaeth hon wedi dod i ben.

    Mae Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol 2023-2027 wedi ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor.

    Mae'r cynllun yn rhoi manylion blaenoriaethau llesiant Cyngor Sir Powys a pha weithredu sydd ei angen i'w cyflenwi.

    Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd y Cyngor a'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd y Cyngor: "Rydym ni'n falch iawn o ddatgan cyhoeddiad y cynllun mwyaf pwysig i'r cyngor sir ar gyfer y pedair blynedd nesaf.

    "Dyma'r cynllun corfforaethol cyntaf i gael ei gyhoeddi i gefnogi ein huchelgais newydd i adeiladu 'Powys Gryfach, Tecach, Wyrddach'.

    "Pobl yw calon Powys, a hoffem ddiolch i bawb a gyfranogodd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus a helpu i ddatblygu ein cynllun.

    "Mae ein hamcanion newydd, sy'n cael eu manylu yn y cynllun, yn canolbwyntio ar feysydd y gallwn eu gwella neu eu datblygu i wneud bywydau pobl yn well, fel unigolion ac fel cymunedau.

    "Er bod y cynllun wedi'i ddatblygu yn seiliedig ar yr hyn y mae pobl Powys wedi'i ddweud, nid yw'r sgwrs ar ben, a byddem yn croesawu unrhyw adborth parhaus ynghylch gwaith y Cyngor. Gellir gweld ein hymgynghoriadau a'n prosiectau ymgysylltu yn https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/ "

    Mae Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol 2023-2027 ar gael ar wefan y Cyngor https://cy.powys.gov.uk/eingweledigaeth

    Mae cyflwyniad i'r cynllun drwy fide oar gael yma:

  • Cymeradwyo’r Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol

    Rhannu Cymeradwyo’r Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol ar Facebook Rhannu Cymeradwyo’r Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol Ar Twitter Rhannu Cymeradwyo’r Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol Ar LinkedIn E-bost Cymeradwyo’r Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol dolen
    Wedi cau: Mae'r drafodaeth hon wedi dod i ben.

    Cafodd y Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol newydd ar gyfer 2023-2027 ei gymeradwyo gan y cyngor llawn heddiw (23 Chwefror).

    Mae’r ddogfen yn gosod allan blaenoriaethau llesiant Cyngor Sir Powys ar gyfer y pum mlynedd nesaf a pha weithredu sydd ei angen i’w cyflenwi.

    Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd y Cyngor a’r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd y Cyngor: “Rydym ni’n falch iawn o ddatgan cyhoeddiad y cynllun mwyaf pwysig i’r cyngor sir ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

    “Dyma’r cynllun corfforaethol cyntaf i gael ei gyhoeddi i gefnogi ein huchelgais newydd i adeiladu ‘Powys Gryfach, Decach, Wyrddach’.

    “Pobl yw calon Powys, a hoffem ddiolch i bawb a gyfranogodd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus a helpu i ddatblygu ein cynllun.

    “Mae ein nodau newydd, sy’n cael eu manylu yn y cynllun, yn canolbwyntio ar feysydd y gallwn eu gwella neu eu datblygu i wneud bywydau pobl yn well, fel unigolion ac fel cymunedau."

    Caiff Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol 2023-2027 ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor ddydd Mercher 1 Ebrill.