Cynllun Datblygu Lleol Newydd Powys - Materion Allweddol, Gweledigaeth ac Amcanion
Mae’r arolwg hwn wedi cau.
Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Powys wrthi’n dechrau llunio Cynllun Datblygu Lleol Newydd (LDP), a fydd yn cynllunio ar gyfer anghenion ardal CDLl Powys am y cyfnod 2022-2037.
Er mwyn hysbysu’r CDLl Newydd, mae’r Cyngor wedi paratoi dogfen sy’n nodi cyfres o Faterion Allweddol a Ffactorau sy’n Sbarduno Newid yn ardal CDLl Powys. Mae’r ddogfen hefyd yn cynnwys Gweledigaeth ddrafft a chyfres o Amcanion ar gyfer y CDLl Newydd, sy’n ymateb i’r Materion Allweddol.
CDLl Newydd - Materion Allweddol, Gweledigaeth ac Amcanion (Drafft Ymgynghori)
Mae’r Cyngor yn ceisio adborth o ran a ydym ni wedi cofnodi’r holl Faterion Allweddol sy’n berthnasol i gynllunio datblygu ym Mhowys, ac mae’n croesawu eich sylwadau o ran y Weledigaeth a’r Amcanion arfaethedig. Mae’r ddogfen yn cynrychioli cam pwysig o safbwynt proses llunio CDLl Newydd, sy’n caniatáu ichi ddylanwadu, yn gynnar yn y broses, ar baratoi’r CDLl Newydd.
Dylid nodi nad yw ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Powys yn ymestyn i dir sy’n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Gofynnir ichi lenwi’r arolwg byr isod
Os hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf o ran cynnydd gyda’r CDLl Newydd, gan gynnwys manylion digwyddiadau ymgynghori ac ymgysylltu, gallwch gofrestru yma: https://ldp.powys.gov.uk/login porth ymgynghori’r CDLl Newydd.