Polisi Cludiant rhwng y Cartref a'r Ysgol - Diweddariad

Rhannu Polisi Cludiant rhwng y Cartref a'r Ysgol - Diweddariad ar Facebook Rhannu Polisi Cludiant rhwng y Cartref a'r Ysgol - Diweddariad Ar Twitter Rhannu Polisi Cludiant rhwng y Cartref a'r Ysgol - Diweddariad Ar LinkedIn E-bost Polisi Cludiant rhwng y Cartref a'r Ysgol - Diweddariad dolen

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi cau.

Diolch i chi am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein hwn am ein Polisi Cludiant rhwng y Cartref a'r Ysgol a fydd yn cael ei rhoi ar waith o fis Medi 2025. Mae eich mewnbwn yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu cludiant diogel a dibynadwy i'n myfyrwyr.

Nod y diweddariadau i'r polisi yw rhoi mwy o eglurder i'r rhai sy'n dymuno defnyddio Cludiant rhwng y Cartref a'r Ysgol. Nid yw'r newidiadau yn newid sut y mae’r polisi’n cael ei weithredu ond yn syml mae’n anelu at leihau unrhyw amwysedd yn y geiriad. Rydym hefyd wedi diweddaru ychydig o’r derminoleg yn y polisi e.e. mae’r term Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) wedi’i newid i Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Mae diweddariadau i'r polisi wedi'u cynllunio i gyd-fynd â'r polisi derbyniadau ysgolion a'r mapiau dalgylch 2025-26 ar-lein newydd sydd ar gael i'w gweld yma

Rydym wedi cynnwys cwestiwn atodol yn ymwneud â newidiadau yn narpariaeth ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion sy'n pontio i flwyddyn 7. Er na fydd hyn yn dod i rym tan 2026 yn Ysgol Bro Caereinion, a Medi 2029 yn Ysgol Bro Hyddgen, hoffem gasglu eich safbwyntiau ymlaen llaw i sicrhau bod unrhyw newidiadau sydd eu hangen yn y polisi ar gyfer 2026 yn cael eu hystyried nawr.

Mae'r ymgynghoriad byr hwn yn cynnwys cyfres o gwestiynau i gasglu eich adborth ar y diweddariadau. Bydd eich ymatebion yn ein helpu i adnabod meysydd i'w gwella ac i ddatblygu polisi sydd â mwy o eglurder. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau ar 12 Medi 2024.

Rydym yn gwerthfawrogi eich amser ac edrychwn ymlaen at dderbyn eich adborth gwerthfawr.

  • AR GAU

    Sylwer: Cyfrifoldeb Cyngor Sir Powys yw sicrhau a diogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn ymateb i arolwg drwy’r porth hwn. Mae'r arolwg hwn yn ddienw. Bydd unrhyw ddata personol y byddwch yn ei roi i ni (eich enw llawn, cyfeiriad neu rif ffôn), yn cael ei storio’n ddiogel am gyfnod cyfyngedig yn unig, ac fe’i defnyddir at y dibenion a ddisgrifiwyd yn yr arolwg yn unig ac yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR) a DPA 2018. Cliciwch ar y tab preifatrwydd ar waelod y dudalen i gael rhagor o wybodaeth.

    Rhannu Ymgynhori Ar-lein ar Facebook Rhannu Ymgynhori Ar-lein Ar Twitter Rhannu Ymgynhori Ar-lein Ar LinkedIn E-bost Ymgynhori Ar-lein dolen