Cronfa Codi’r Gwastad Powys - Rownd 2

Rhannu Cronfa Codi’r Gwastad Powys - Rownd 2 ar Facebook Rhannu Cronfa Codi’r Gwastad Powys - Rownd 2 Ar Twitter Rhannu Cronfa Codi’r Gwastad Powys - Rownd 2 Ar LinkedIn E-bost Cronfa Codi’r Gwastad Powys - Rownd 2 dolen

Consultation has concluded

Cyflwyniad

Yn 2021, cyflwynodd Cyngor Sir Powys gais i Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU i geisio cael nawdd ar gyfer cynllun i ddarparu seilwaith newydd cerdded a seiclo, ailwampio Hawliau Tramwy a gosod wyneb newydd ar ffyrdd. Ar y cyd, bydd yr elfennau hyn o’r cynllun yn gwella darpariaeth cerdded a seiclo yn y sir ac yn cynyddu hyfywedd y sir a’i gwneud yn fwy atyniadol i ymwelwyr. Gellir dod o hyd i ddisgrifiadau a lleoliadau’r elfennau hyn o’r cynllun isod. Fel rhan o’r broses ymgeisio, mae’r cyngor bellach yn ceisio cael safbwyntiau busnesau a sefydliadau lleol er mwyn deall yn well sut y byddan nhw a’r wlad ehangach yn elwa.

Diben y gronfa yw darparu buddsoddiad un-tro i seilwaith a fydd yn gwneud gwir wahaniaeth i bobl leol a’r economi leol. Mae’r cynigion canlynol yn creu rhestr fer o’r rhestr o opsiynau a ddynodwyd yng Nghynllun Trafnidiaeth Leol Canolbarth Cymru 2015-20 yn seiliedig ar sut y maen nhw’n alinio â gofynion ar gyfer Cronfa Codi’r Gwastad. Ar y cyd, bydd y cynlluniau yn darparu cysylltedd gwell i ymwelwyr a phreswylwyr, fel ei bod yn haws crwydro a chwilota golygfeydd unigryw’r sir a’i threfi marchnad.

Caiff y cynlluniau canlynol eu cynnig: 

Teithio Llesol

  • Llwybr cerdded a seiclo a rennir rhwng Llandrindod a Howey ar hyd ochr ddwyreiniol yr A483
  • Llwybrau cerdded a seiclo rhwng Crughywel a Llangatwg

Hawliau Tramwy

Mae sawl strwythur mawr ym Mhowys nad yw’n ffit i’w dibenion ac sydd bellach yn anodd eu cyrraedd neu mewn perygl o fod felly o ganlyniad i’w cyflwr gwael. Caiff y strwythurau hyn eu hystyried fel cysylltiadau allweddol sy’n sicrhau cysylltedd lleol; heb ymyrraeth, bydd gan y rhwydwaith Hawliau Tramwy presennol fylchau sylweddol. Mae’r ailwampio Hawliau Tramwy sydd wedi ei gynnwys fel a ganlyn ac i’w weld ar y map isod:

  • Pont Afon Gam, Llangadfan
  • Pompren Du, Berriew
  • Pompren Fron, Garthmyl
  • Pompren gwyl, Caersws
  • Devil’s Gulch (Cwm Elan)
  • Pompren Pont y Milgu, Cwm Twrch

Gwaith gosod wyneb newydd ar ffyrdd

Mae ymgysylltiad cyhoeddus ym Mhowys yn dangos yn gyson fod atgyweirio ffyrdd, llwybrau troed a llwybrau seiclo yn bwysig iawn i ddefnyddwyr y briffordd a chymunedau lleol. Esblygodd y rhwydwaith priffyrdd lleol dros gyfnod hir iawn o amser ac felly ni chafodd llawer ohono ei gynllunio na’i adeiladu i’r safon y byddem yn ei ddisgwyl ar gyfer priffordd newydd ei hadeiladu heddiw. O ganlyniad mae llawer o briffyrdd lleol yn llai cydnerth o ran gofynion traffig newidiol (llif traffig, offer amaethyddol ac arallgyfeirio) a digwyddiadau tywydd difrifol. Cafodd y lleoliadau allweddol sydd angen wyneb newydd wedi’i gosod arnynt eu dynodi gan y Cyngor er mwyn gwella mynediad at lwybrau cerdded a seiclo ac atyniadau i ymwelwyr. Caiff ardaloedd dangosol ble mae cynllun gosod wyneb newydd yn cael ei gynnig i’w gweld ar y map isod.

Map of Powys active travel routes, public rights of way and priority resurfacing areas

  • CLOSED: This survey has concluded.

    Sylwer: Cyfrifoldeb Cyngor Sir Powys yw sicrhau a diogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn ymateb i arolwg drwy’r porth hwn. Bydd unrhyw ddata personol y byddwch yn ei roi i ni (eich enw llawn, cyfeiriad neu rif ffôn), yn cael ei storio’n ddiogel am gyfnod cyfyngedig yn unig, ac fe’i defnyddir at y dibenion a ddisgrifiwyd yn yr arolwg yn unig ac yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) newydd. Cliciwch ar y tab preifatrwydd ar waelod y dudalen i gael rhagor o wybodaeth.

    Consultation has concluded
    Rhannu Arolwg - I FUSNESAU/SEFYDLIADAU YN UNIG ar Facebook Rhannu Arolwg - I FUSNESAU/SEFYDLIADAU YN UNIG Ar Twitter Rhannu Arolwg - I FUSNESAU/SEFYDLIADAU YN UNIG Ar LinkedIn E-bost Arolwg - I FUSNESAU/SEFYDLIADAU YN UNIG dolen