Cynllun Drafft Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru

Rhannu Cynllun Drafft Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru ar Facebook Rhannu Cynllun Drafft Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru Ar Twitter Rhannu Cynllun Drafft Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru Ar LinkedIn E-bost Cynllun Drafft Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru dolen

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi cau.

Mae Tyfu Canolbarth Cymru, sydd hefyd yn gweithredu fel Cyd-bwyllgor Corfforedig y rhanbarth, yn gyfrifol am gynllunio trafnidiaeth ranbarthol, cynllunio defnydd tir strategol, a hyrwyddo lles economaidd.

Mae trafnidiaeth yn chwarae rhan hanfodol yn ein bywydau bob dydd, gan lunio'r ffordd rydym yn cael mynediad at waith, addysg, gofal iechyd, a hamdden.

Mewn cydnabyddiaeth o'i bwysigrwydd, mae'r Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru yn datblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh) i nodi sut y byddant yn cyfrannu at gyflawni Strategaeth Drafnidiaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ac yn trawsnewid trafnidiaeth yn y rhanbarth.

Mae'r drafft CTRh yn nodi gweledigaeth uchelgeisiol i greu system drafnidiaeth gynaliadwy, carbon isel ac effeithlon. Bydd yn canolbwyntio ar wella cysylltedd o fewn a’r tu hwnt i Ganolbarth Cymru wrth fynd i'r afael â heriau sy'n unigryw i'n tirlun gwledig.

Mae nodau allweddol y CTRh yn cynnwys:

  • Cynyddu mynediad at ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy fel beicio, cerdded, a trafnidiaeth cyhoeddus.
  • Gwella cysylltiadau trafnidiaeth i hybu twf economaidd a thwristiaeth.
  • Cefnogi ymdrechion i leihau yr effeithiau amgylcheddol gan drafnidiaeth

Gwelwch y Drafft Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.*

Gwelwch y crynodeb o'r Cynllun.

Mae’r CTRh yn cael ei ddatblygu ar y cyd â Chynghorau Sir Ceredigion a Phowys, dan arweiniad Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 gan Lywodraeth Cymru. Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn gam hanfodol yn y broses, gan roi cyfle i chi lunio’r cynllun terfynol.

Gwyliwch fideo llawn gwybodaeth am y CTRh:

Rydym yn gwahodd trigolion, busnesau, ac ymwelwyr i rannu eu barn ar y cynigion a chyfrannu at siapio dyfodol trafnidiaeth y rhanbarth. Byddwn yn ystyried yn ofalus yr holl adborth a gawn, a bydd yn cael ei ystyried pan rydym yn datblygu’r CTRh terfynol a gyhoeddir yng Ngwanwyn 2025.

Sut i gymryd rhan

Cwblhewch ein arolwg Drafft Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru ar-lein.

Lawrlwythwch ein arolwg Drafft Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru: Holiadur Ar Gyfer Drafft Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru. Dychwelwch ffurflenni wedi eu cwblhau i staff y llyfrgell, neu sganiwch ac e-bostio i haveyoursay@powys.gov.uk

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau 4 Ebrill 2025.

*Mae'r atodiadau i'r Cynllun ar gael ar dudalen Trafnidiaeth Canolbarth Cymru ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru.

Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau.