Ymgynghoriad Rhwydwaith Bysiau Lleol Powys
Mae’r arolwg hwn wedi cau.
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi cau.
Defnyddiwyd cyfres helaeth o ddigwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd yn Aberhonddu, Tref-y-clawdd, Llandrindod, y Drenewydd, Llanandras, y Trallwng ac Ystradgynlais, ochr yn ochr ag ymgysylltiad ar-lein a oedd yn ceisio adborth gan bob rhan o'r sir, i fesur diddordeb rhanddeiliaid. Defnyddiwyd y safbwyntiau a ddarparwyd i lunio'r rhwydwaith, ochr yn ochr â chyfarfodydd gyda rhanddeiliaid eraill.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cynnwys cyfres o gwestiynau wedi'u cynllunio i gasglu eich adborth. Bydd y cwestiynau cychwynnol yn canolbwyntio ar gynlluniau wedi'u canoli mewn ardaloedd sydd o ddiddordeb i chi, ac yna cwestiynau sy'n ymwneud â chostau teithio, marchnata, eich defnydd presennol o fysiau a defnydd posibl o wasanaethau ar ddydd Sul a Gŵyl y Banc.