Asesu dichonolrwydd sefydlu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Nolau, ger Llandrindod

Rhannu Asesu dichonolrwydd sefydlu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Nolau, ger Llandrindod ar Facebook Rhannu Asesu dichonolrwydd sefydlu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Nolau, ger Llandrindod Ar Twitter Rhannu Asesu dichonolrwydd sefydlu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Nolau, ger Llandrindod Ar LinkedIn E-bost Asesu dichonolrwydd sefydlu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Nolau, ger Llandrindod dolen

Consultation has concluded

Mae’r Cyngor yn edrych ar ddichonoldeb sefydlu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn adeilad presennol Ysgol G.G. Llanfihangel Rhydithon ym mhentref Dolau, ger Llandrindod.

Rydym yn gofyn i rieni yn ardaloedd Llandrindod, Llanandras a Threfyclo gwblhau’r holiadur hwn, er mwyn ein helpu i fedru adnabod y galw posibl am y math yma o ddarpariaeth. Bydd hyn o gymorth i’r Cyngor benderfynu a fyddai darpariaeth o’r fath yn hyfyw yn Dolau.

Gellir cael gwybodaeth bellach am yr holiadur drwy ebostio transforming.education@powys.gov.uk neu drwy ffonio 01597 826618.

Rhaid derbyn pob ymateb erbyn Dydd Sul 6 Tachwedd.

Beth yw addysg cyfrwng Cymraeg?

Mae Ysgol G.G. Llanfihangel Rhydithon ar hyn o bryd yn ysgol cyfrwng Saesneg. Mae addysg cyfrwng Saesneg yn golygu mai Saesneg yw’r brif iaith a ddefnyddir ar gyfer dysgu ac ar gyfer cyfathrebu o ddydd i ddydd. Mae staff a disgyblion yn cyfathrebu drwy gyfrwng y Saesneg y tu mewn a thu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae disgyblion yn dysgu Cymraeg fel ail iaith fel rhan o’r cwriciwlwm, fodd bynnag nid ydynt fel arfer yn dod yn rhugl yn y Gymraeg.

Cymraeg yw’r brif iaith ar gyfer addysgu a chyfathrebu o ddydd i ddydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae staff a disgyblion yn cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg y tu mewn a thu allan i’r ystafell ddosbarth, ac fe ddefnyddir Cymraeg a Saesneg i gyfathrbeu efo rhieni. Mae’r rhan fwyaf o didsgyblion sy’n mynychu addysg cyfrwng Cymraeg yn dod o gartrefi ble na siaredir Cymraeg, ond fe’u dysgir drwy gyfrwng y Gymraeg drwy ddefnyddio’r dechneg ‘trochi’, a byddant yn dod yn rhugl yn y Gymraeg, yn ogystal â medru cyfathrebu yn rhugl drwy gyfrwng y Saesneg.

Ym Mhowys, mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei ddarparu mewn dwy fath o ysgol:

  • Ysgolion cyfrwng Cymraeg – mae’r holl ddisgybloin yn mynychu addysg cyfrwng Cymraeg ac yn dod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae Ysgol Dafydd Llwyd yn y Drenewydd ac Ysgol y Bannau yn Aberhonddu yn enghreifftiau o ysgolion cyfrwng Cymraeg.
  • Ysgolion dwy ffrwd – mae disgyblion yn dewis mynychu unai’r ffrwd cyfrwng Cymraeg neu’r ffrwd cyfrwng Saesneg. Mae disgyblion yn y ffrwd cyfrwng Cymraeg yn cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn dod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae disgyblion yn y ffrwd cyfrwng Saesneg yn cael eu dysgu drwy gyfrwng y Saesneg ac yn dysgu Cymraeg fel ail iaith. Ni fyddant fel arfer yn dod yn rhugl yn y Gymraeg. Mae Ysgol Trefonnen yn Llandrindod ac Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Rhayader yn enghreifftiau o ysgolion dwy ffrwd.

Mae mwy o wybodaeth am addysg cyfrwng Cymraeg ar gael ar wefan y Cyngor: https://cy.powys.gov.uk/article/10744/Taith-at-Ddwy-Iaith-manteision-dewis-addysg-Gymraeg

Am wybodaeth am sut mae’r Tim Trawsnewid Addysg yn gwarchod ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol sy’n cael eu casglu yn ystod prosesau ymgysylltu, fe’ch cyfeirir at nodyn preifatrwydd Trawsnewid Addysg, sydd ar gael drwy ddilyn y ddolen hon: https://cy.powys.gov.uk/article/9804/Hysbysiad-Preifatrwydd-Trawsnewid-Ysgolion

  • Newyddion Diweddaraf

    Rhannu Newyddion Diweddaraf ar Facebook Rhannu Newyddion Diweddaraf Ar Twitter Rhannu Newyddion Diweddaraf Ar LinkedIn E-bost Newyddion Diweddaraf dolen

    Cwblhau astudiaeth ddichonoldeb ar addysg Gymraeg

    Cadarnhaodd y cyngor fod gwaith i edrych ar y posibilrwydd o sefydlu addysg Gymraeg mewn lleoliad newydd yng nghanol Powys wedi dod i ben.

    Mae Cyngor Sir Powys wedi ymchwilio i'r posibilrwydd o sefydlu addysg Gymraeg yn adeilad presennol Ysgol Gynradd Llanfihangel Rhydeithon yn Nolau ger Llandrindod.

    Elfen bwysig o'r gwaith oedd ymgynghori â rhieni'r ardal i gael eu barn nhw ar y posibilrwydd o gael addysg Gymraeg yn Nolau, ynghyd â chael astudiaeth ddichonoldeb.

    Yn seiliedig ar y canfyddiadau, cyngor swyddogion yw nad yw sefydlu addysg Gymraeg yn Nolau yn ymarferol.

    Mae'r cyngor wedi ymrwymo at wella mynediad at addysg Gymraeg, ond mynegwyd pryderon nad Dolau oedd y lle iawn yn strategol i sicrhau twf addysg Gymraeg gan fod yr ysgol mor fach.

    Mae rhieni sydd am weld eu plant yn derbyn addysg Gymraeg yn yr ardal yn gallu eu hanfon i Ysgol Trefonnen neu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Rhaeadr Gwy, a bydd y disgyblion hynny'n derbyn cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol Gymraeg agosaf.

    Bydd y Fforwm Addysg Gymraeg yn trafod yr astudiaeth ddichonoldeb a chanfyddiadau'r holiadur ddydd Llun 12 Rhagfyr ac ym Mhwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau ddydd Mercher 14 Rhagfyr cyn mynd gerbron y Cabinet ar ddydd Mawrth 20 Rhagfyr.

    Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Cyn yr etholiad fe wnes i alw am ddadansoddiad o'r posibilrwydd o ddefnyddio safle Dolau fel ysgol Gymraeg newydd yn Nwyrain Maesyfed.

    "Ar ôl yr etholiad, mae'r Cabinet newydd wedi gohirio'r cynnig i gau Ysgol Gynradd Llanfihangel Rhydeithon am 12 mis tan 31 Awst 2023 er mwyn gallu trafod y cynnig yn drwyadl ac i beidio colli cyfle i ddatblygu'r iaith.

    "Erbyn hyn mae'r gwaith hwn wedi dod i ben a hoffem ddiolch i bawb a ymatebodd i'r holiadur.

    "Bydd y Cabinet nawr yn trafod canfyddiadau'r astudiaeth a'r atebion i'r holiadur a chyngor swyddogion, yn ogystal â sylwadau'r Fforwm Addysg Gymraeg a'r Pwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau cyn dod i benderfyniad."