Mae cwcis yn ein helpu i ddeall sut rydych yn defnyddio ein gwefan fel y gallwn roi'r profiad gorau i chi pan fyddwch ar ein safle. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Cwcis cyfryngau cymdeithasol:
Rydym yn defnyddio cwcis cyfryngau cymdeithasol o Facebook, Twitter a Google i redeg teclynnau, ymgorffori fideos, swyddi, sylwadau a nôl gwybodaeth proffil.
Asesu dichonolrwydd sefydlu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Nolau, ger Llandrindod
Rhannu Asesu dichonolrwydd sefydlu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Nolau, ger Llandrindod ar FacebookRhannu Asesu dichonolrwydd sefydlu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Nolau, ger Llandrindod Ar TwitterRhannu Asesu dichonolrwydd sefydlu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Nolau, ger Llandrindod Ar LinkedInE-bost Asesu dichonolrwydd sefydlu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Nolau, ger Llandrindod dolen
Consultation has concluded
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi cau.
Mae’r Cyngor yn edrych ar ddichonoldeb sefydlu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn adeilad presennol Ysgol G.G. Llanfihangel Rhydithon ym mhentref Dolau, ger Llandrindod.
Rydym yn gofyn i rieni yn ardaloedd Llandrindod, Llanandras a Threfyclo gwblhau’r holiadur hwn, er mwyn ein helpu i fedru adnabod y galw posibl am y math yma o ddarpariaeth. Bydd hyn o gymorth i’r Cyngor benderfynu a fyddai darpariaeth o’r fath yn hyfyw yn Dolau.
Rhaid derbyn pob ymateb erbyn Dydd Sul 6 Tachwedd.
Beth yw addysg cyfrwng Cymraeg?
Mae Ysgol G.G. Llanfihangel Rhydithon ar hyn o bryd yn ysgol cyfrwng Saesneg. Mae addysg cyfrwng Saesneg yn golygu mai Saesneg yw’r brif iaith a ddefnyddir ar gyfer dysgu ac ar gyfer cyfathrebu o ddydd i ddydd. Mae staff a disgyblion yn cyfathrebu drwy gyfrwng y Saesneg y tu mewn a thu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae disgyblion yn dysgu Cymraeg fel ail iaith fel rhan o’r cwriciwlwm, fodd bynnag nid ydynt fel arfer yn dod yn rhugl yn y Gymraeg.
Cymraeg yw’r brif iaith ar gyfer addysgu a chyfathrebu o ddydd i ddydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae staff a disgyblion yn cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg y tu mewn a thu allan i’r ystafell ddosbarth, ac fe ddefnyddir Cymraeg a Saesneg i gyfathrbeu efo rhieni. Mae’r rhan fwyaf o didsgyblion sy’n mynychu addysg cyfrwng Cymraeg yn dod o gartrefi ble na siaredir Cymraeg, ond fe’u dysgir drwy gyfrwng y Gymraeg drwy ddefnyddio’r dechneg ‘trochi’, a byddant yn dod yn rhugl yn y Gymraeg, yn ogystal â medru cyfathrebu yn rhugl drwy gyfrwng y Saesneg.
Ym Mhowys, mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei ddarparu mewn dwy fath o ysgol:
Ysgolion cyfrwng Cymraeg – mae’r holl ddisgybloin yn mynychu addysg cyfrwng Cymraeg ac yn dod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae Ysgol Dafydd Llwyd yn y Drenewydd ac Ysgol y Bannau yn Aberhonddu yn enghreifftiau o ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Ysgolion dwy ffrwd – mae disgyblion yn dewis mynychu unai’r ffrwd cyfrwng Cymraeg neu’r ffrwd cyfrwng Saesneg. Mae disgyblion yn y ffrwd cyfrwng Cymraeg yn cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn dod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae disgyblion yn y ffrwd cyfrwng Saesneg yn cael eu dysgu drwy gyfrwng y Saesneg ac yn dysgu Cymraeg fel ail iaith. Ni fyddant fel arfer yn dod yn rhugl yn y Gymraeg. Mae Ysgol Trefonnen yn Llandrindod ac Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Rhayader yn enghreifftiau o ysgolion dwy ffrwd.
Am wybodaeth am sut mae’r Tim Trawsnewid Addysg yn gwarchod ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol sy’n cael eu casglu yn ystod prosesau ymgysylltu, fe’ch cyfeirir at nodyn preifatrwydd Trawsnewid Addysg, sydd ar gael drwy ddilyn y ddolen hon: https://cy.powys.gov.uk/article/9804/Hysbysiad-Preifatrwydd-Trawsnewid-Ysgolion