Papur Materion


Gofyn eich barn ar newidiadau dros dro arfaethedig i wasanaethau iechyd ym Mhowys


Mae’r Papur Materion hwn yn esbonio pam mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cynnig newidiadau dros dro i'r gwasanaethau canlynol:

  • Unedau mân anafiadau yn Aberhonddu a Llandrindod
  • Gwasanaethau cleifion mewnol Ysbytai Cymunedol ar draws Powys
Byddai’r newidiadau dros dro hyn yn digwydd yn Hydref 2024.

Rydym yn ceisio eich barn ar y newidiadau dros dro hyn rhwng 29 Gorffennaf 2024 a 8 Medi 2024. Mae hyn yn rhan o sgwrs barhaus gyda phobl Powys i sicrhau bod gwasanaethau'r GIG yn ddiogel ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.




Crynodeb

Mae'r adran hon o'r ddogfen yn crynhoi'r newidiadau dros dro arfaethedig i wasanaethau a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys. Mae mwy o wybodaeth am y rhesymau dros y newidiadau dros dro hyn i'w gweld yn Adran 1.

Oriau Agor Unedau Mân Anafiadau

Rydyn ni'n cynnig y newidiadau canlynol i oriau agor:

Uned

Oriau Agor Cyfredol

Oriau Agor y Dyfodol

Aberhonddu

24 awr

Saith diwrnod yr wythnos

8am tan 8pm

Saith diwrnod yr wythnos

Llandrindod

7am-12pm

Saith diwrnod yr wythnos

8am tan 8pm

Saith diwrnod yr wythnos

Y Trallwng

(dim newid)

8am tan 8pm

Saith diwrnod yr wythnos

8am tan 8pm

Saith diwrnod yr wythnos

Ystradgynlais

(dim newid)

8.30am tan 4pm

Llun - Gwener ac eithrio gwyliau banc

8.30am tan 4pm

Llun - Gwener ac eithrio gwyliau banc


Mae mwy o wybodaeth am y newidiadau dros dro arfaethedig hyn i Unedau Mân Anafiadau i'w gweld yn Adran 2.

Mae gwasanaethau cleifion mewnol Ysbytai Cymunedol ar draws Powys yn newid dros dro.

Rydyn ni'n cynnig bydd gan bob ysbyty rôl fwy penodol i'n helpu darparu'r gofal gorau yn y sir. Mae mwy o wybodaeth am y newidiadau dros dro hyn i wasanaethau cleifion mewnol Ysbytai Cymunedol i'w gweld yn Adran 3.

Dweud eich Dweud

Byddai’r cynigion hyn yn cael eu rhoi ar waith dros dro i'n helpu mynd i'r afael â'r materion a nodir yn y ddogfen hon. O ystyried yr heriau hyn, efallai y bydd angen i ni ystyried newidiadau dros dro pellach wrth i ni weithio gyda chi i sicrhau bod gwasanaethau'r GIG yn ddiogel ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae mwy o wybodaeth am y camau nesaf i'w gweld yn Adran 4.

Pe bai’n cael eu cadarnhau, rydym yn disgwyl i'r newidiadau dros dro hyn fod ar waith am o leiaf chwe mis. Rydym yn ceisio eich barn rhwng 29 Gorffennaf 2024 a 8 Medi 2024.

Mae'n bwysig bod unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwasanaethau'r GIG ym Mhowys yn cael cyfle i ddarganfod mwy am y materion hyn a rhoi gwybod i ni am eu barn. Darganfyddwch fwy am sut i rannu eich adborth yn Adran 5.



Adran 1: Cefndir

Am Fwrdd Iechyd Addysgu Powys

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) yn gyfrifol am ddarparu a chomisiynu gwasanaethau i bobl Powys.

Rydym yn darparu gwasanaethau ym Mhowys lle mae'n ddiogel ac yn glinigol briodol i wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau iechyd cymunedol (e.e. ymweliadau iechyd, nyrsio ardal, timau trin dementia yn y cartref), gwasanaethau ysbyty cymunedol (e.e. clinigau cleifion allanol, gwasanaethau ward) a'n partneriaethau â darparwyr gofal sylfaenol lleol (meddygfeydd, fferyllwyr, deintyddion, optometryddion).

Oherwydd natur wledig Powys, comisiynir gwasanaethau mwy arbenigol gan gynnwys gwasanaethau ysbytai cyffredinol ardal ar gyfer trigolion Powys gan fyrddau iechyd cyfagos yng Nghymru ac Ymddiriedolaethau GIG cyfagos yn Lloegr.

Mae mwy o wybodaeth am strwythur y GIG yng Nghymru ar gael ar wefan GIG Cymru .

Beth yw'r weledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd a gofal ym Mhowys?

Gan weithio gyda chleifion, y cyhoedd, staff a sefydliadau partner, rydym wedi datblygu gweledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd a gofal a nodir yn Strategaeth Iechyd a Gofal ar y cyd ar gyfer Powys.

Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i'r weledigaeth hirdymor hon, a byddwn yn parhau i weithio gyda chi i gyflawni hyn.

Er hynny, roedd pandemig COVID yn golygu bod cyflawni ein gweledigaeth wedi bod yn arafach na’n ddelfrydol er mwyn mynd i'r afael â heriau'r dyfodol. Mae hyn yn golygu bod angen i ni weithredu nawr i'n helpu ni:

  • Fyw o fewn ein modd heb adeiladu mwy o heriau ariannol ar gyfer y dyfodol
  • Darparu'r gofal gorau i'n holl gleifion
  • Sicrhau bod ein gwasanaethau'n ddiogel ac yn gynaliadwy
  • Addasu'n gyflym i wynebu'r heriau rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd
  • Gweithio'n fwy effeithiol ac effeithlon
  • Ymateb i'r pwysau ar staffio a chyllidebau

Yn gynharach eleni, dechreuon ni sgwrs ar draws Powys, gyda digwyddiadau ym mhob un o 13 ardal Powys, i drafod yr heriau sy'n ein hwynebu a gwrando ar eich barn am sut i ymateb i hyn.

Gallwch ddarganfod mwy am y sgyrsiau hyn rydyn ni’n galw’n "Gwell Gyda'n Gilydd" yma.

Rydym yn bwriadu dychwelyd i gymunedau ledled Powys i barhau â'r sgyrsiau hyn yr Hydref hwn. Mae hyn yn rhan o'n hymrwymiad i weithio gyda chi i gytuno ar y siâp cywir sydd ar wasanaethau iechyd yn y tymor hir.

Ond, yn y cyfamser, mae angen i ni gynnig newidiadau dros dro a nodir yn Adran 2 ac Adran 3, yn ogystal ag ystyried newidiadau pellach y gallai fod angen i ni eu gwneud dros dro.

Pa heriau y mae'r GIG yn eu hwynebu?

Y llynedd roedd y GIG yn nodi ei ben-blwydd yn 75 oed.

Ond mae gormod o rannau o'r GIG wedi'u cynllunio yn seiliedig ar anghenion y gorffennol, yn hytrach na chyfleoedd nawr a'r dyfodol.

Mae angen i ni ganolbwyntio nawr ar adeiladu o'r newydd a chreu GIG y gallwn i gyd fod yn falch ohono pan fydd yn cyrraedd ei ben-blwydd yn 100 oed. Mae angen iddo adlewyrchu realiti bywyd ym Mhowys nawr. Mae angen iddo edrych ymlaen at y ffordd gywir o ddarparu'r gofal gorau dros y 10-25 mlynedd nesaf.

Mae rhai o'r heriau hyn sy'n wynebu'r GIG ledled y DU yn cynnwys:

  • Mae mwy o bobl yn byw yn hirach sawl cyflwr iechyd, sy'n cynyddu'r galw am wasanaethau iechyd.
  • Mae'r GIG yn dal i wella ar ôl pandemig unwaith mewn canrif, ac mae gennym ôl-groniadau mewn triniaeth, pwysau ar ambiwlansys ac adrannau brys, a phobl sy'n cael eu gohirio yn yr ysbyty.
  • Mae costau byw a phwysau chwyddiant wedi effeithio ar sut rydym yn ymateb. Er enghraifft, bu cynnydd sylweddol mewn biliau ynni.
  • Mae pwysau cynyddol ar weithlu'r GIG gyda mwy a mwy o ddibyniaeth ar staffio asiantaethau drud.

Ac yn benodol, yma ym Mhowys:

  • Mae traean o bobl ym Mhowys yn byw ar eu pennau eu hunain; gall unigrwydd gynyddu salwch, ac mae'n rheswm allweddol pam mae pobl yn ceisio cymorth gan wasanaethau iechyd a gofal.
  • Mae canser, cyflyrau anadlol, clefydau cylchredol, a salwch meddwl yn parhau i fod y rhesymau "pedwar mawr" dros iechyd gwael ym Mhowys.
  • Mae'r boblogaeth ym Mhowys yn hŷn na'r cyfartaledd cenedlaethol ac mae cyfran y bobl o oedran gweithio yn lleihau'n gyflymach na rhannau eraill o'r DU.

Gyda'i gilydd, mae'r materion hyn hefyd yn cael effaith fawr ar bwrs y cyhoedd. Ym Mhowys rydym yn derbyn cyllideb o tua £400 miliwn y flwyddyn i ddarparu a chomisiynu gwasanaethau gofal iechyd ysbytai. Ond yn 2024/25 rydym yn disgwyl dod â'r flwyddyn i ben gyda diffygion o dros £20m. Mae'n hanfodol ein bod yn cymryd camau i fyw o fewn ein modd fel na fyddwn yn cynnal problemau ariannol ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Wrth wraidd ein dull gweithredu at gynaliadwyedd ariannol mae ffocws di-baid ar swyddogaethau gweinyddu a rheoli effeithlon. Ein cenhadaeth graidd yw darparu a chomisiynu gwasanaethau diogel sy'n cynnig y canlyniadau gorau i gleifion. Mae angen i wasanaethau "cefn swyddfa" fod yn llym ac yn effeithlon fel bod staff clinigol yn cael eu grymuso a'u galluogi i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch.

Fodd bynnag, o ystyried yr heriau clinigol, gweithredol ac ariannol sy'n wynebu ein gwasanaethau gofal iechyd, mae angen i ni gymryd camau i ddarparu'r gwasanaethau hyn yn fwy effeithlon gan gynnwys lleihau faint o arian rydym yn ei wario ar staff asiantaethau.

Felly, rydym wedi edrych yn ofalus iawn ar rai newidiadau dros dro i’n helpu ni:

  • Barhau i ddarparu'r gwasanaethau sy'n bwysig i chi
  • Gweithio'n fwy effeithiol ac effeithlon fel ein bod yn byw o fewn ein modd
  • Gwneud y defnydd gorau o'n staff, sef ein hadnodd mwyaf gwerthfawr.

Pwrpas yr ymgysylltiad hwn yw:

  • I roi gwybod i chi am y newidiadau dros dro arfaethedig a pham eu bod yn digwydd
  • I ofyn am eich adborth
  • I’ch gwahodd i fod yn rhan o'r sgwrs am siâp hirdymor gwasanaethau iechyd i bobl Powys.

Gallwch ddarganfod mwy am y newidiadau dros dro rydym yn eu cynnig yn Adran 2 ac Adran 3.




Adran 2: Newidiadau Dros Dro i Oriau Agor Unedau Mân Anafiadau

Mae'r newidiadau dros dro arfaethedig hyn yn effeithio ar oriau agor yr Unedau Mân Anafiadau yn Aberhonddu a Llandrindod.

Nid ydyn nhw’n effeithio ar oriau agor yr Unedau Mân Anafiadau mewn ysbytai eraill ym Mhowys, gwasanaethau mân anafiadau a ddarperir gan feddygfeydd, na gwasanaethau mân anafiadau y tu allan i Bowys.

Am Unedau Mân Anafiadau BIAP

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn darparu pedair Uned Mân Anafiadau yn uniongyrchol. Mae'r rhain yn ein hysbytai cymunedol yn Aberhonddu, Llandrindod, Y Trallwng ac Ystradgynlais.

Mae'r rhain yn cael eu rhedeg gan Ymarferwyr Nyrsio Brys sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig.

Maen nhw’n cynnig triniaeth gofal ar gyfer mân anafiadau fel briwiau ac ysigiadau i oedolion ac i blant 2+ oed.

Yr oriau agor cyfredol yw:

Aberhonddu

Llandrindod

Y Trallwng

Ystradgynlais

24 awr

7am tan ganol nos

8am tan 8pm

8.30am tan 4pm

Bob dydd

Bob dydd

Bob dydd

Dydd Llun–Dydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc)


O Hydref 2024 bydd newid dros dro yn oriau agor:

Aberhonddu

Llandrindod

Y Trallwng

Ystradgynlais

Wedi newid

Wedi newid

Dim newid

Dim newid

8am tan 8pm

8am tan 8pm

8am tan 8pm

8.30am tan 4pm

Bob dydd

Bob dydd

Bob dydd

Dydd Llun–Dydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc)


Pam mae'r newidiadau dros dro hyn yn cael eu cynnig?

Mae ein gwasanaethau unedau mân anafiadau yn wynebu sawl her:

  • Ar gyfartaledd, mae ein hunedau mân anafiadau yn Aberhonddu a Llandrindod yn gweld dim ond un neu ddau person bob nos. Nid yw hyn yn ddefnydd da o adnoddau cyhoeddus nac o sgiliau arbenigol yr Ymarferwyr Nyrsio Brys sy'n darparu'r gwasanaethau hyn.
  • Gallai bron pob claf sy'n mynychu dros nos ddod yn ôl yn ystod y dydd. Er enghraifft, nid ydym yn gallu cynnig gwasanaeth pelydr-x 24 awr felly mae angen i gleifion sydd angen pelydr-x ddod yn ôl yn ystod y dydd.
  • Mae'n anodd recriwtio a chadw digon o Ymarferwyr Nyrsio Brys i redeg yr adrannau yn ystod yr oriau agor presennol.
  • Gan na allwn ddod o hyd i staff sydd â'r sgiliau cywir bob amser, weithiau mae angen i ni gau Uned Mân Anafiadau ar fyr rybudd. Mae hon yn broblem gynyddol. Rhwng Ionawr a Mai roedd dros 50 o achlysuron pan oedd angen i Uned Mân Anafiadau ym Mhowys gau gyda'r nos neu dros nos oherwydd problemau staffio. Mae hyn yn golygu na allwn ddarparu gwasanaeth dibynadwy.
  • Rydym yn amcangyfrif bod presenoldeb yn ystod y dydd mewn Uned Mân Anafiadau ym Mhowys yn costio rhwng £60 ac £85. O ystyried y nifer isel o bobl sy'n mynychu dros nos, mae presenoldeb yn ystod y nos yn costio tua phum gwaith cymaint (£340).

Rydym yn cynnig y newidiadau dros dro fel bod y gwasanaeth yn fwy diogel ac yn fwy dibynadwy:

  • Cynnig amseroedd agor mwy dibynadwy a lleihau nifer sy’n cau heb eu cynllunio.
  • Ni fydd unrhyw weithio’n unigol heb gydweithwyr eraill tu allan i oriau. Mae hyn yn fwy diogel i staff, ac yn fwy diogel i gleifion.
  • Annog mwy o bobl i "ffonio'n gyntaf" lle bynnag y bo modd. Mae hyn yn golygu y gall ein staff sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig asesu eich anghenion dros y ffôn, darparu cyngor ar gymorth cyntaf a hunanofal, archebu slot sy'n gyfleus i chi, neu eich cyfeirio at wasanaeth mwy priodol.

Bydd rhai newidiadau dros dro hefyd i staffio yn unedau mân anafiadau'r bwrdd iechyd er mwyn iddo gyd-fynd yn well â gweithgaredd gwasanaeth a'r galw.

Bydd gwneud y newidiadau dros dro hyn yn ein helpu sefydlogi'r gwasanaeth, ac fydd yn ein galluogi ni i weithio gyda chi i wneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol.


Beth all ddigwydd yn ystod yr oriau cau?

Ar hyn o bryd mae tua un claf y noson yn ymweld â'r Uned Mân Anafiadau yn Aberhonddu a'r Uned Mân Anafiadau yn Llandrindod ar ôl 8yh.

Nid yw unedau mân anafiadau yn darparu triniaeth ar gyfer anafiadau sy'n peryglu bywyd neu’n peryglu aelodau’r corff. Nid yw'r Unedau Mân Anafiadau ym Mhowys yn gallu cynnig pelydr-x dros nos i asesu a yw asgwrn wedi’i dorri. Maen nhw naill ai'n gofyn i gleifion ddychwelyd yn ystod y dydd neu ar adegau prin yn eu cyfeirio at adrannau brys os yw eu hanaf yn ddifrifol.

Gallai bron pob claf sy'n mynychu Unedau Mân Anafiadau BIAP ar ôl 8yh gael eu gweld yn ystod oriau'r dydd neu eisoes yn cael eu cyfeirio gan yr Uned at hunanofal neu at wasanaethau eraill.

Beth sy’n digwydd nawr?

Beth fyddai'n digwydd pe bai'r newidiadau dros dro hyn ar waith?

Cafodd Emyr lawdriniaeth yn ddiweddar. Mae'r Uned Mân Anafiadau leol yn lle cyfleus i newid ei dresin yn hytrach nag ymweld â'i feddygfa. Mae'n ymweld am 6yb oherwydd ei fod fel arfer ar ddihun yn gynnar.

Byddai Emyr yn gallu cael ei dresin wedi newid yn ystod oriau'r dydd.

Buodd Marjory faglu ar y grisiau am 11yh ac mae'n pryderu y gallai fod wedi torri ei phigwrn. Mae hi'n ymweld â'r Uned Mân Anafiadau. Maen nhw’n darparu cyngor hunanofal ac yn gofyn iddi ddychwelyd yn y bore pan fydd gwasanaethau pelydr-x ar gael.

Mae Marjory yn ffonio 111 am gyngor dros y ffôn. Mae clinigwr 111 yn darparu asesiad dros y ffôn. Yn seiliedig ar yr asesiad ffôn hwn mae Marjory yn derbyn cyngor hunanofal a chafodd cyngor i ymweld â'r Uned Mân Anafiadau yn y bore pan fydd gwasanaethau pelydr-x ar gael. Mae hi wedi osgoi ymweliad â’r Uned Mân Anafiadau yn y nos (pan nad yw pelydr-x ar gael) a allai fod yn ddiangen ac mae'n cael cyngor clinigol ar hunanofal yn ei chartref ei hun.


Mae'r gwasanaethau eraill sydd ar gael dros nos yn cynnwys:

  • Ffonio 999 bob amser am salwch ac anafiadau sy'n peryglu bywyd ac aelodau.
  • Mae gan GIG 111 Cymru wiriwr symptomau ar-lein yn 111.gig.cymru i gael cyngor a thriniaeth ar gyfer cyflyrau cyffredin.
  • Mae GIG 111 Cymru yn cynnig gwasanaeth dros y ffôn, 24 awr am ddim sy'n darparu cyngor gofal brys, gan gynnwys mynediad at wasanaethau meddyg teulu y tu allan i oriau ar gyfer salwch na allant aros nes bod y feddygfa ar agor nesaf.
  • Os yw'r broblem yn fwy difrifol, efallai y cynghorir trigolion i weld eu meddyg teulu (gan gynnwys gwasanaethau meddyg teulu y tu allan i oriau os yw'n briodol) neu fynd i'w hadran damweiniau ac achosion brys agosaf yn yr ysbyty ("A&E"). Gall cynghorwyr GIG 111 Cymru hefyd ffonio ambiwlans ar ran claf os oes angen.
  • Cadwch gabinet meddyginiaeth wedi'i stocio'n dda ar gyfer mân afiechydon ac anafiadau. Gall eich fferyllydd stryd fawr lleol argymell yr hanfodion neu gwiriwch wefan GIG 111 Cymru yn GIG 111 Cymru - Byw’n Iach : Cabinet Meddyginiaethau (wales.nhs.uk)

Rydym yn croesawu eich sylwadau ar gamau eraill y gallem eu cymryd pe bai'r newidiadau dros dro hyn yn digwydd.




Adran 3: Gwasanaethau cleifion mewnol Ysbytai Cymunedol ar draws Powys

Mae'r newidiadau dros dro arfaethedig hyn yn effeithio ar y wardiau meddygol cyffredinol yn ein hysbytai cymunedol ym Mhowys.

Ar hyn o bryd mae gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys dros 150 o welyau cleifion mewnol meddygol cyffredinol ar draws naw ward mewn wyth ysbyty cymunedol:

  • Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog: Ward Epynt a Ward Y Bannau
  • Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi (Machynlleth): Ward Twymyn
  • Ysbyty Cymunedol Bronllys: Ward Llewelyn
  • Ysbyty Coffa Llandrindod: Ward Claerwen
  • Ysbyty Cymunedol Llanidloes: Ward Graham Davies
  • Ysbyty Sir Drefaldwyn (Y Drenewydd): Ward Brynheulog
  • Ysbyty Coffa Victoria (Y Trallwng): Ward Maldwyn
  • Ysbyty Cymunedol Ystradgynlais: War Adelina Patti

Yn ogystal â:

  • Caeodd Ward Panpwnton yn Ysbyty Tref-y-clawdd dros dro yn ystod pandemig COVID, ac rydym wedi wynebu heriau staffio parhaus sy'n golygu nad ydym wedi gallu ailagor y ward. Fodd bynnag, rydym wedi llwyddo i gyflwyno cyfleuster gofal ailalluogi arhosiad byr mewn amgylchedd gofal preswyl yn yr ysbyty dros dro.
  • Mae Canolfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol Glan Irfon yn Llanfair-ym-Muallt yn cynnig gofal ailalluogi arhosiad byr mewn amgylchedd gofal preswyl.

Mae'r wardiau hyn yn darparu gofal i gleifion ag ystod eang o anghenion meddygol sydd angen gofal nyrsio cleifion mewnol (e.e. gofal lliniarol, adsefydlu cleifion mewnol ar gyfer cyflyrau oni bai am strôc). Ar hyn o bryd bydd claf sydd ag anghenion clinigol ac yn addas ar gyfer amgylchedd ysbyty cymunedol yn cael ei dderbyn i'w ysbyty cymunedol mwyaf lleol os oes gwely ar gael. Yr eithriad pennaf yw gofal adsefydlu strôc cleifion mewnol sy'n gofyn am sgiliau arbenigol ac arbenigedd ac felly mae'n cael ei ddarparu yn Aberhonddu a'r Drenewydd.

Am gyfnod dros dro, rydym yn cyflwyno ffocws mwy arbenigol ar gyfer rhai o'r wardiau yn ein hysbytai:

  • Byddai dwy ward ysbyty yn cael eu dynodi fel ein hunedau "Barod i Fynd Adref". Bydd y rhain yn darparu gofal a chymorth â ffocws i gleifion sy'n barod i ddychwelyd adref ond sy'n aros am becyn o ofal cymunedol. Byddant wedi'u lleoli yn Ysbyty Cymunedol Llanidloes ac Ysbyty Cymunedol Bronllys. Mae hyn ochr yn ochr â rôl barhaus Glan Irfon a Thref-y-clawdd.
  • Byddai gan ddwy ward ysbyty rôl arbenigol i gefnogi cleifion sydd angen gofal adsefydlu cleifion mewnol. Bydd hyn yn adeiladu ar y trefniadau presennol ar gyfer adsefydlu strôc. Felly, byddant wedi'u lleoli yn Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog ac Ysbyty Sir Drefaldwyn (Y Drenewydd).
  • Bydd ein wardiau ysbyty eraill (Ystradgynlais, Llandrindod, Y Trallwng a Machynlleth) yn parhau i weithredu fel wardiau meddygol cyffredinol. Byddai rhai cleifion a fyddai'n derbyn gofal ar y wardiau hyn ar hyn o bryd yn derbyn eu gofal ym Mronllys neu Llanidloes (e.e. os ydynt yn "barod i fynd adref") neu yn Aberhonddu neu'r Drenewydd (os oes angen adsefydlu mwy dwys arnynt).

Pam mae'r newidiadau dros dro hyn yn cael eu cynnig?

Mae ein wardiau cleifion mewnol cyffredinol yn wynebu sawl her.

Ansawdd a Chanlyniadau Cleifion

Mae cleifion yn treulio mwy o amser mewn ysbytai cymunedol nag y dylen nhw. Un rheswm yw eu bod yn aros am becynnau gofal yn y gymuned i'w cefnogi i fynd adref (gan gynnwys i gartref gofal).

Os yw pobl yn treulio gormod o amser mewn gwely ysbyty, gall arwain at "ddatgyflyru": gallant golli cryfder yn eu cyhyrau, y gallu i ofalu dros eu hunain a hefyd mynd yn anesmwyth. Gall hyn ei gwneud yn anoddach i ddychwelyd adref, a gall gynyddu'r tebygolrwydd o gael eu derbyn i'r ysbyty.

Mae angen i ni dorri'r cylch hwn a chefnogi pobl i fynd adref cyn gynted â phosibl.

Staffio Arbenigol


Mae natur wledig Powys yn golygu bod ein sgiliau arbenigol yn cael eu lledaenu'n denau ar draws y sir. Mae manteision o ran dod â chleifion sydd â'r un anghenion at ei gilydd a chanolbwyntio ein staff arbenigol yn y lleoliadau hyn, yn hytrach na staff medrus yn treulio llawer o amser yn teithio rhwng gwahanol ysbytai.

Cyllid

Yn debyg i wasanaethau eraill, rydym yn wynebu heriau wrth recriwtio a chadw staff medrus. Mae gennym ddibyniaeth uchel ar staff asiantaeth sy'n ddrud iawn i'r pwrs cyhoeddus. Dylai'r newidiadau arfaethedig leihau ein dibyniaeth ar staff asiantaeth a staff dros dro sydd, yn ogystal â bod yn ddrutach, yn aml yn anghyfarwydd â'r wardiau a'r cleifion, gan arwain at lai o ansawdd gofal posibl.


Beth all y newidiadau dros dro hyn yn eu golygu i gleifion?

Nod y cynigion hyn yw lleihau amser diangen yn yr ysbyty, fel y gall cleifion ddychwelyd adref (gan gynnwys i gartref gofal) yn gyflymach. Maent hefyd yn anelu at gadw'r cleifion hynny sy'n barod i fynd adref yn fwy egnïol a lleihau'r siawns o ddatgyflyru.

Bydd ein hunedau adsefydlu cleifion mewnol ymroddedig yn gallu cynnig mynediad mwy dibynadwy i gleifion at y cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt er mwyn dychwelyd adref. Eu nod hefyd yw helpu mwy o gleifion i ddychwelyd yn gyflymach i Bowys pan nad oes angen gofal ysbyty cyffredinol dosbarth arnynt y tu allan i'r sir mwyach.

Ond, i rai cleifion, byddai'n golygu, yn hytrach na chael eu derbyn i'w hysbyty mwyaf lleol, y byddent yn hytrach yn derbyn eu gofal mewn ysbyty cymunedol gyda'r ffocws gofal arbenigol sy'n diwallu eu hanghenion orau.

Er enghraifft, dany y cynnig hwn gall cleifion sy'n "Barod i Fynd Adref" ond nad oes ganddynt becyn gofal cymunedol eto, dderbyn eu gofal yn Ysbyty Llanidloes neu Ysbyty Bronllys, yn ogystal ag yn yr unedau ailalluogi presennol yn Nhref-y-clawdd a Llanfair-ym-Muallt. Er y gall cleifion sydd angen mwy o ofal adsefydlu cleifion mewnol arbenigol dderbyn eu gofal yn Ysbyty'r Drenewydd neu Ysbyty Aberhonddu.

Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw ymweliadau i gleifion a theuluoedd. Mae'r oriau ymweld yn hyblyg a byddant yn parhau i fod yn hyblyg, dan y cnnig hwn, gydag aelodau o'r teulu yn gallu ymweld ar adegau sy'n addas iddyn nhw. Er enghraifft, os byddwch yn ffonio ymlaen llaw bydd ein staff ward yn ceisio bodloni cymaint o geisiadau â phosibl i gefnogi lles cleifion. Rydym hefyd yn parhau i gryfhau dewisiadau amgen i ymweld, gan gynnwys eich helpu i gadw mewn cysylltiad trwy dechnolegau digidol.

Beth sy’n digwydd nawr?

Beth sy'n digwydd pe bai'r newidiadau dros dro arfaethedig hyn yn cael eu rhoi ar waith?

Mae Eirlys yn 86 oed. Mae hi wedi bod yn derbyn gofal yn Ysbyty Brenhinol yr Amwythig yn dilyn haint ar y llwybr wrinol. Mae hi wedi cael ei hasesu fel un sy'n barod i fynd adref ond nid oes pecyn o ofal cymunedol ar waith eto. Mae hi'n cael ei derbyn i'w hysbyty cymunedol agosaf yn Y Drenewydd dros dro nes bod pecyn gofal cymunedol yn cael ei rhoi ar waith. Mae hi'n cael gofal ochr yn ochr â chleifion ag ystod eang o wahanol gyflyrau iechyd, o ofal lliniarol i ddementia.

Mae hi'n treulio 35 diwrnod yn yr ysbyty, ac yn ystod y cyfnod hwn mae hi'n datgyflyru sy'n ei gwneud hi'n anoddach ddychwelyd i lefel y swyddogaeth yr oedd cyn iddi gael ei derbyn i Ysbyty Brenhinol yr Amwythig.

Mae Eirlys yn cael ei derbyn i'r Uned Barod i Fynd Adref yn Llanidloes yn hytrach nag i'r Drenewydd, lle mae'n derbyn cefnogaeth sy'n ymroddedig i'w hanghenion penodol. Mae hyn yn ei galluogi i gynnal ei hannibyniaeth, yn lleihau'r tebygolrwydd o ddatgyflyru, ac yn ei chefnogi i ddychwelyd adref cyn gynted â phosibl.


Newidiadau dros dro yw'r rhain: y cynllun hirdymor yw y byddai Eirlys yn mynd adref yn syth o Ysbyty Brenhinol yr Amwythig heb aros mewn ysbyty cymunedol pellach.


Mae Gareth yn 78 oed. Yn ddiweddar, cafodd lawdriniaeth yn Abertawe ar ei glun a oedd wedi torri ac mae angen mwy o ofal adsefydlu a chymorth mewn ysbyty cymunedol cyn iddo fod yn barod i ddychwelyd adref.

Caiff ei dderbyn i'w ysbyty cymunedol agosaf yn Ystradgynlais lle mae'n derbyn gofal ochr yn ochr â chleifion ag ystod eang o gyflyrau iechyd gwahanol o ofal lliniarol i ddementia. Er bod y gofal adsefydlu y mae'n ei dderbyn o ansawdd da, nid yw amlder ymweliadau gan staff arbenigol yn optimaidd sy'n golygu nad yw'n dychwelyd adref cyn gynted ag y gallai.

Mae Gareth yn cael ei dderbyn i Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog am ei ofal adsefydlu, lle mae'n derbyn rhaglen gynhwysfawr o ofal adsefydlu cleifion mewnol gan dîm amlddisgyblaethol medrus iawn sy'n ei gefnogi i ddychwelyd adref cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn ei helpu i ddychwelyd i'w lefel flaenorol o annibyniaeth a gweithgaredd ac yn lleihau'r tebygolrwydd o gael ei dderbyn i'r ysbyty ac yn lleihau'r angen am ofal a chymorth parhaus.




Adran 4: Camau Nesaf

Newidiadau Dros Dro Arfaethedig i Wasanaethau Iechyd yn 2024/25

Mae'r ddogfen hon yn egluro rhai newidiadau dros dro arfaethedig i Unedau Mân Anafiadau a wardiau cleifion mewnol ysbytai cymunedol a fydd yn cael eu rhoi ar waith yr hydref hwn. O ystyried yr anawsterau clinigol a staffio a nodir yn y ddogfen hon, efallai y bydd angen i ni hefyd ystyried newidiadau dros dro mewn meysydd gwasanaeth eraill. Mae'r meysydd dan ystyriaeth yn cynnwys y ffordd orau o ddarparu ein gwasanaethau cleifion mewnol iechyd meddwl i oedolion hŷn ar sail dros dro. Os oes angen newidiadau dros dro, yna byddwn yn sicrhau bod y cynigion hyn yn cael eu rhannu gyda chi er mwyn i chi rannu eich barn.

Hoffem hefyd fachu ar y cyfle hwn i roi gwybod i chi am rai gwelliannau sydd ar y gweill i offer pelydr-x yn Aberhonddu, Llandrindod, Y Drenewydd, Y Trallwng ac Ystradgynlais. Dros y misoedd nesaf byddwn yn disodli'r cyfleusterau pelydr-x yn y safleoedd hyn gydag offer newydd. Bydd hyn yn cael ei gyflwyno drwy raglen dreigl, gyda gwasanaethau pelydr-X ym mhob safle yn cau dros dro -x tra bydd y gwaith hwn yn digwydd. Ymddiheuriadau ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra yn ystod y gwaith hanfodol hwn.


Dyfodol Diogel a Chynaliadwy

Rydym am weithio gyda chi i gytuno ar sut olwg sydd ar wasanaethau iechyd ym Mhowys yn hirdymor.

Rydym eisoes wedi gweithio gyda chleifion, y cyhoedd, staff a sefydliadau partner ledled Powys i ddatblygu'r weledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd a gofal a nodir yn Strategaeth Iechyd a Gofal ar y cyd ar gyfer Powys.

Rydym hefyd wedi dechrau sgwrs am ddyfodol gofal iechyd yn y sir. Yn gynharach eleni buom yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys i ymweld â phob un o 13 ardal leol ym Mhowys, i drafod yr heriau sy'n ein hwynebu a gwrando ar eich barn. Gallwch ddarganfod mwy am y sgyrsiau hyn a'r hyn a glywsom. Ein Dolenni Pwysig (y dde)

Yn hwyrach eleni byddwn yn dod yn ôl i gymunedau ledled Powys i adeiladu ar y syniadau rydych chi eisoes wedi'u rhannu. Bydd hyn yn ein helpu ni ddatblygu cynllun clir sy'n gwneud y defnydd gorau o'r holl sgiliau ac adnoddau ym Mhowys i sicrhau bod gwasanaethau iechyd yn ddiogel ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Gallwch chi aros yn rhan o'r gwaith hwn trwy gofrestru ar gyfer ein cylchlythyrau rheolaidd ar ein gwefan ymgysylltu.



Adran 5: Dweud eich dweud

Mae'r ddogfen hon yn rhoi gwybodaeth am newidiadau dros dro arfaethedig i wasanaethau iechyd ym Mhowys o Hydref 2024. Rydym yn disgwyl i'r newidiadau hyn fod ar waith am o leiaf chwe mis.

Mae'n bwysig bod unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwasanaethau'r GIG ym Mhowys yn cael cyfle i ddarganfod mwy am y materion hyn a rhoi gwybod i ni am eu barn.

Os hoffech rannu eich sylwadau am y newidiadau dros dro arfaethedig hyn – gan gynnwys unrhyw ffyrdd penodol y gallent effeithio ar bobl yn seiliedig ar eu nodweddion gwarchodedig cydraddoldeb, y Gymraeg, statws economaidd-gymdeithasol, neu gyfrifoldebau gofalwr – cysylltwch â ni erbyn 8 Medi 2024. Mae hyn yn rhan o sgwrs barhaus gyda phobl Powys i sicrhau bod gwasanaethau'r GIG yn ddiogel ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Darganfyddwch fwy ar-lein: Ewch i'n gwefan ymgysylltu a chwblhau ein harolwg ar-lein yma.

Mynychu digwyddiad ar-lein: Mae gwybodaeth am ein digwyddiadau ar-lein ar gael ar yr hafan.

Dros y ffôn: Gallwch hefyd ofyn am gopi o'r ddogfen hon drwy ffonio ein ffôn ateb ar 01874 442078. Gadewch neges gyda'ch enw a'ch cyfeiriad post, gan sillafu unrhyw eiriau anarferol.

Yn ysgrifenedig: Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gallwch hefyd rannu eich barn yn ysgrifenedig at Tîm Ymgysylltu a Chyfathrebu BIAP, Tŷ Glasbury, Ysbyty Bronllys, Bronllys, Aberhonddu LD3 0LY.


Beth fydd yn digwydd ar ôl y cyfnod ymgysylltu?

Bydd y safbwyntiau a rannwch yn cyfrannu at adroddiad ymgysylltu a fydd yn cael ei drafod mewn cyfarfod cyhoeddus o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys cyn gwneud penderfyniadau.

Byddwn hefyd yn sicrhau bod eich adborth yn cael ei rannu gyda Llais, Corff Llais y Dinesydd dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, i'w helpu nhw gynrychioli barn cleifion a'r cyhoedd. Gallwch ddarganfod mwy am Llais ar eu gwefan. Byddwn yn cyhoeddi'r adborth rydym yn derbyn trwy'r wefan hon.

Hoffem hefyd ymgysylltu â chi fel rhan o sgwrs hirdymor yn yr Hydref 2024 i sicrhau bod gwasanaethau'r GIG yn ddiogel ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Gallwch chi aros yn rhan o'r gwaith hwn trwy gofrestru ar gyfer ein cylchlythyrau rheolaidd ar ein gwefan ymgysylltu.



Rhannu Papur Materion ar Facebook Rhannu Papur Materion Ar Twitter Rhannu Papur Materion Ar LinkedIn E-bost Papur Materion dolen

Engagement has concluded

#<Object:0x0000000021ef2178>