Newyddion Diweddaraf

Yn dilyn adborth helaeth o'r ymarfer ymgysylltu diweddar ar ddyfodol canol trefi Powys, bydd y trefniadau dros dro yn Aberhonddu, y Drenewydd a Chrughywel yn aros yn eu lle am y tro.

Cyflwynwyd y newidiadau dros dro i ganol trefi y llynedd i annog y cyhoedd yn ôl i ganol ein trefi ac i helpu busnesau i agor yn ddiogel ac yn unol â chyfyngiadau Covid-19. Cynlluniwyd y mesurau hyn fel ei fod yn bosibl i gadw pellter cymdeithasol a darparu lle ychwanegol yn yr awyr agored i gerddwyr a busnesau ei ddefnyddio.

"Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ein hymarfer ymgysylltu ac am y sylwadau gwerthfawr a gafwyd am ddyfodol canol ein trefi. O ystyried adborth mor gadarnhaol a chefnogol gan fusnesau, trigolion ac ymwelwyr, a gan ragweld mewnlifiad o ymwelwyr i'n sir gyda mwy o wyliau yn y wlad hon yn fwyfwy poblogaidd, bydd y mesurau dros dro yn Aberhonddu, y Drenewydd a Chrughywel yn aros yn eu lle." Esboniodd y Cynghorydd Heulwen Hulme, Aelod Cabinet ar faterion Priffyrdd.

"Wrth i ni symud i gyfnod o lai o gyfyngiadau cyfreithiol rydym i gyd yn edrych ymlaen yn fawr at weld ein trefi eiconig ym Mhowys yn mwynhau haf prysur. Ond mae'n bwysig cofio i barhau i fod yn ofalus, gyda chyngor y llywodraeth yn argymell ein bod yn cymryd cyfrifoldeb am yr hyn ry'n ni'n ei gwneud o ran cadw pellter cymdeithasol, y tu mewn a'r tu allan."

"Byddwn nawr yn mynd drwy'r holl adborth yn fanwl ac yn dechrau trafodaethau am yr hyn a allai fod yn bosibl ar gyfer pob tref yn y tymor hirach. Bydd yr holl gynigion yn mynd drwy'r lefelau priodol o ymgynghori â'r holl randdeiliaid."

Bydd llai o fesurau mewn trefi eraill, gan gynnwys trwyddedau palmant i fusnesau unigol i ddefnyddio mannau cyhoeddus fel llwybrau cerdded a ffyrdd, hefyd yn parhau.

Ond, bydd y trefniadau'n wahanol yn y Gelli Gandryll, yn unol â'r adborth cychwynnol o'r ymarfer ymgysylltu ac ar gais cyngor y dref, bydd y cyfyngiadau dros dro yn cael eu codi o 7 Awst, pe bai Llywodraeth Cymru yn penderfynu symud ymlaen gyda'r cynlluniau diweddaraf i godi'r cyfyngiadau. Fodd bynnag, os bydd cynnydd sydyn yn achosion Covid-19 yn y dref, gellir ailgyflwyno'r mesurau i gyfyngu ar ledaeniad y feirws drwy roi mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith mewn man mor brysur i dwristiaid.

Rhannu Newyddion Diweddaraf ar Facebook Rhannu Newyddion Diweddaraf Ar Twitter Rhannu Newyddion Diweddaraf Ar LinkedIn E-bost Newyddion Diweddaraf dolen

<span class="translation_missing" title="translation missing: cy.projects.blog_posts.show.load_comment_text">Load Comment Text</span>