Dyddiadau Allwedol
Sesiwn Ar-lein, 6yh-7yh
Ymunwch am 6yh ddydd Llun 30 Ionawr drwy'r ddolen digwyddiad hon.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi cael cais gan Bractis Grŵp Crucywel i gau Meddygfa Belmont yng Ngilwern.
Y prif resymau dros y cais yw’r canlynol:
- Heriau ledled y DU i recriwtio a chadw ymarferwyr meddygol cyffredinol (meddygon teulu).
- Ymddeoliad pedwar partner meddyg teulu sy’n berchnogion safle'r feddygfa, gyda diffyg dewisiadau amgen hyfyw ar gyfer trosglwyddo perchnogaeth.
Felly, mae'r Bwrdd Iechyd wedi gweithredu ei Broses Adolygu Practis, sy'n cynnwys:
- Adolygu'r cais gan y practis.
- Rhannu gwybodaeth â chleifion a rhanddeiliaid ehangach i geisio eich barn.
- Ymgysylltu â'r Cyngor Iechyd Cymunedol, sef y corff statudol i gynrychioli diddordeb cleifion a'r cyhoedd.
- Ystyried yr adborth a gawn, ac ystyried hwn wrth wneud penderfyniad ynghylch y cais mewn cyfarfod cyhoeddus gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Cynhelir y cyfnod hwn o ymgysylltu rhwng 10 Ionawr 2023 a 6 Mawrth 2023.
I ddysgu mwy ac i ddweud eich dweud erbyn 6 Mawrth 2023 ewch i www.dweudeichdweud.cymru/gilwern
Fel rhan o'r broses ymgysylltu hon cynhelir sesiwn ar-lein ddydd Llun 30 Ionawr 2023 rhwng 6yh a 7yh. Cynhelir y sesiwn hono drwy Microsoft Teams a gallwch wylio drwy ap Microsoft Teams neu drwy ddefnyddio eich porwr. Cliciwch ar y ddolen hon am 6yh ar 30 Ionawr 2023 i ymuno â'n sesiwn ar-lein.
Poster: https://www.haveyoursaypowys.wales/21161/widgets/60185/documents/37031
Sesiwn Galw Heibio, 2yp-5.45yp
Fel rhan o'r broses ymgysylltu hon, cynhelir digwyddiad galw heibio yn Hyb Cymunedol Gilwern ar 14 Chwefror 2023 rhwng 2yp a 5.45yp. Galwch heibio unrhyw amser rhwng 2pm a 6pm i rannu eich barn yn Hyb Cymunedol Gilwern, Heol y Comin, Gilwern, NP7 0DS
Poster: https://www.haveyoursaypowys.wales/21161/widgets/60185/documents/37031