Gofyn am eich barn ar gais gan Bractis Grŵp Crucywel i gau Meddygfa Belmont yng Ngilwern
Diweddariad 24 Mai 2023
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi cytuno i dderbyn cais gan Bractis Grŵp Crucywel i gau ei feddygfa yng Ngilwern, Sir Fynwy.
Gwnaed y penderfyniad hwn yng nghyfarfod y Bwrdd ar 24 Mai 2023 yn unol â phroses adolygu meddygfeydd y bwrdd iechyd, sydd wedi cynnwys: adolygu’r cais gan y practis, ymgysylltu â chleifion a rhanddeiliaid lleol; ystyriaeth fanwl o ddewisiadau amgen i dderbyn y cais; a nodi dulliau gweithredu dylai eu gweithredu os yw’r cais yn cael ei dderbyn.
Rhagor o wybodaeth: Mae'r cais i gau meddygfa Belmont wedi'i gymeradwyo gan y Bwrdd - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)
Diweddariad 18 Mai 2023
Bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ystyried y cais a dderbyniwyd gan Bractis Grŵp Crucywel i gau Meddygfa Belmont yng Ngilwern mewn cyfarfod cyhoeddus (ar-lein) am 9.30yb ar ddydd Mercher 24 Mai 2023.
Pan fyddwn yn derbyn ceisiadau o'r fath, maen nhw’n cael eu hystyried yn unol â'n proses adolygu meddygfeydd cangen, sy’n cynnwys cyfnod ymgysylltu a gynhaliwyd rhwng 10 Ionawr 2023 a 6 Mawrth 2023. Roeddem yn ddiolchgar iawn i dros 700 o gleifion a rhanddeiliaid ehangach a rannodd eu barn fel rhan o'r ymgysylltiad hwnnw. Crynhowyd yr adborth a gawsom yn yr adroddiad ymgysylltu a gyhoeddwyd ym mis Mawrth ar ein hyb ymgysylltu yn https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/gilwern. Bydd fersiwn o'r adroddiad hwn wedi'i diweddaru yn cael ei gynnwys ym mhapurau ein Bwrdd.
Yn dilyn y gwaith ymgysylltu, mae'r cais gan y practis a'r ymateb gan gleifion a rhanddeiliaid wedi cael ei ystyried gan ein Panel Adolygu Meddygfeydd Cangen. Rhoddodd y Panel ystyriaeth ofalus a diwyd i'r holl wybodaeth oedd ar gael a daeth i'r farn nad oedd unrhyw ddewisiadau amgen posibl ac felly argymhellir derbyn y cais. Felly, byddant yn argymell hyn i'r Bwrdd yn ei gyfarfod yr wythnos nesaf.
Mae'n amlwg nid oedd yr argymhelliad hwn yn hawdd ei wneud, yn enwedig gan gydnabod cryfder teimladau a barn y gymuned am effaith bosibl cau'r feddygfa. Yn amlwg os yw'r argymhelliad yn cael ei dderbyn gan y Bwrdd byddwn yn dymuno sicrhau bod cynllun lliniaru cadarn ar waith sy'n ymateb i'r materion a'r pryderon.
Bydd copi o'r papurau ar gael cyn y cyfarfod o'n gwefan yn https://biap.gig.cymru/amdanom-ni/y-bwrdd/cyfarfodydd-y-bwrdd/.
Mae ein cyfarfodydd Bwrdd yn cael eu cynnal ar-lein trwy Microsoft Teams ar hyn o bryd, a bydd y dudalen hon hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut i ymuno.
Daeth yr ymgysylltu i ben ar 6 Mawrth.
Yn dilyn y gwaith ymgysylltu, bydd y bwrdd iechyd yn dadansoddi'r adborth a gafwyd ac yn adroddiad ac Atodiadau. Bydd yr adroddiad yn cael ei rannu gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Practis Grŵp Crucywel, Cyngor Iechyd Cymuned Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cyngor Iechyd Cymunedol Aneurin Bevan a Phwyllgor Meddygol Lleol Dyfed Powys.
Bydd yr adroddiad yn gosod argymhelliad ynglŷn â'r ffordd ymlaen, a fydd yn cael ei drafod yn gyhoeddus mewn cyfarfod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys cyn diwedd mis Mai.
Wybodaeth Archif
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi cael cais gan Bractis Grŵp Crucywel i gau Meddygfa Belmont yng Ngilwern.
Y prif resymau dros y cais yw’r canlynol:
- Heriau ledled y DU i recriwtio a chadw ymarferwyr meddygol cyffredinol (meddygon teulu).
- Ymddeoliad pedwar partner meddyg teulu sy’n berchnogion safle'r feddygfa, gyda diffyg dewisiadau amgen hyfyw ar gyfer trosglwyddo perchnogaeth.
Felly, mae'r Bwrdd Iechyd wedi gweithredu ei Broses Adolygu Practis, sy'n cynnwys:
- Adolygu'r cais gan y practis.
- Rhannu gwybodaeth â chleifion a rhanddeiliaid ehangach i geisio eich barn.
- Ymgysylltu â'r Cyngor Iechyd Cymunedol, sef y corff statudol i gynrychioli diddordeb cleifion a'r cyhoedd.
- Ystyried yr adborth a gawn, ac ystyried hwn wrth wneud penderfyniad ynghylch y cais mewn cyfarfod cyhoeddus gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Cynhelir y cyfnod hwn o ymgysylltu rhwng 10 Ionawr 2023 a 6 Mawrth 2023.
- Darllenwch y llythyr i gleifion
- Rhagor o wybodaeth yn y cwestinau cyffredin ac Asesiad Effaith Cydraddoldeb
- Ymunwch â ni mewn digwyddiad ar-lein neu ddigwyddiad galw heibio
- Gallech chi lenwi’r holiadur hwn erbyn 6 Mawrth 2023
- Rhagor o wybodaeth am "sut i rhannu eich barn"
Gwybodaeth mewn fformatau eraill:
- Hawdd ei Ddeal
- BSL (isod)
- Audio (isod)
Fideo - Digwyddiad Ar-lein, 30 Ionawr 2023