Gov Delivery: Arolwg o danysgrifwyr

Rhannu Gov Delivery: Arolwg o danysgrifwyr ar Facebook Rhannu Gov Delivery: Arolwg o danysgrifwyr Ar Twitter Rhannu Gov Delivery: Arolwg o danysgrifwyr Ar LinkedIn E-bost Gov Delivery: Arolwg o danysgrifwyr dolen

Mae hwn yn arolwg i unrhyw un sy'n tanysgrifio i'n gwasanaeth tanysgrifio Gov Delivery am ddim.

Mae'r gwasanaeth yn caniatáu inni anfon newyddion a gwybodaeth yn seiliedig ar yr ardal/cymuned rydych chi'n byw ynddi a'r dewisiadau pwnc rydych chi'n eu dewis.

Rydyn ni’n mawr obeithio rydych chi'n mwynhau'r cylchlythyrau ac yn eu gweld yn addysgiadol ac o ddiddordeb i chi.

Gan ein bod wedi yn cynnig y gwasanaeth tanysgrifio am ddim ers ychydig dros ddwy flynedd bellach, hoffem glywed eich barn a'ch adborth fel y gallwn wella'r gwasanaeth ymhellach.

Diolch yn fawr

  • Cyn i chi roi eich barn, roeddem yn meddwl y byddai'n ddefnyddiol rhannu atgof cyflym o sut mae'r cyfan yn gweithio.

    Ar hyn o bryd mae gennym chwe phwnc y gallwch danysgrifio iddynt: 

    • Dechrau Da, 
    • Byw’n Dda, 
    • Heneiddio’n Dda, 
    • Swyddi, 
    • Newyddion Cyffredinol neu 
    • Newyddion Ymgysylltu. 

    Rydym hefyd yn creu ac yn anfon rhai cylchlythyrau ad-hoc at danysgrifwyr yn seiliedig ar y pwnc, y gymuned maen nhw'n byw ynddi neu gymysgedd o'r ddau.  

    Er enghraifft:   Anfonwyd ein poster a gwybodaeth ‘Stociwch Eich Cabinet Meddyginiaeth’ at yr holl danysgrifwyr; tra bod gwybodaeth am ffair swyddi yn y Trallwng y llynedd yn cael ei hanfon at danysgrifwyr ein pwnc Swyddi a’r rhai sy’n byw mewn cymunedau yng ngogledd y sir. 

    Mae'r cylchlythyrau rydych chi'n eu derbyn yn gweithio gan ein bod ni wedi sefydlu ffrwd RSS fel bod unrhyw stori newyddion sy’n cael ei chyhoeddi ar ein gwefan yn cael un o'r tagiau pwnc.  

    Mae'r holl straeon a gyhoeddir dan y tag hwn yn ystod y mis yn cael eu casglu, eu coladu i mewn i gylchlythyr a'u hanfon trwy e-bost at y tanysgrifwyr hynny.

    Er enghraifft:   Os ydych chi'n tanysgrifio i Dechrau Da, ar y dydd Mawrth 1af o Chwefror efallai y cewch fwletin sydd â phedair stori ynddo a mis arall efallai y byddwch chi'n cael un gyda dim ond dwy stori.   

    Rydym yn gobeithio y byddwch chi'n gweld y bwletinau a'r eitemau newyddion yn ddiddorol ac yn addysgiadol, ond hoffem glywed eich barn nawr bod y gwasanaeth wedi bod yn fyw ers dwy flynedd. 

    Dim ond deg cwestiwn sydd. Diolch am gymryd yr amser i'n helpu ni wella'r gwasanaeth. 

    Rhowch eich adborth erbyn dydd Sul 26 Hydref 2025. 

    Take Survey
    Rhannu Arolwg i danysgrifwyr ar Facebook Rhannu Arolwg i danysgrifwyr Ar Twitter Rhannu Arolwg i danysgrifwyr Ar LinkedIn E-bost Arolwg i danysgrifwyr dolen
Cyhoeddi: 17 Sep 2025, 12:21 PM