
Arolwg i danysgrifwyr
Cyn i chi roi eich barn, roeddem yn meddwl y byddai'n ddefnyddiol rhannu atgof cyflym o sut mae'r cyfan yn gweithio.
Ar hyn o bryd mae gennym chwe phwnc y gallwch danysgrifio iddynt:
- Dechrau Da,
- Byw’n Dda,
- Heneiddio’n Dda,
- Swyddi,
- Newyddion Cyffredinol neu
- Newyddion Ymgysylltu.
Rydym hefyd yn creu ac yn anfon rhai cylchlythyrau ad-hoc at danysgrifwyr yn seiliedig ar y pwnc, y gymuned maen nhw'n byw ynddi neu gymysgedd o'r ddau.
Er enghraifft: Anfonwyd ein poster a gwybodaeth ‘Stociwch Eich Cabinet Meddyginiaeth’ at yr holl danysgrifwyr; tra bod gwybodaeth am ffair swyddi yn y Trallwng y llynedd yn cael ei hanfon at danysgrifwyr ein pwnc Swyddi a’r rhai sy’n byw mewn cymunedau yng ngogledd y sir.
Mae'r cylchlythyrau rydych chi'n eu derbyn yn gweithio gan ein bod ni wedi sefydlu ffrwd RSS fel bod unrhyw stori newyddion sy’n cael ei chyhoeddi ar ein gwefan yn cael un o'r tagiau pwnc.
Mae'r holl straeon a gyhoeddir dan y tag hwn yn ystod y mis yn cael eu casglu, eu coladu i mewn i gylchlythyr a'u hanfon trwy e-bost at y tanysgrifwyr hynny.
Er enghraifft: Os ydych chi'n tanysgrifio i Dechrau Da, ar y dydd Mawrth 1af o Chwefror efallai y cewch fwletin sydd â phedair stori ynddo a mis arall efallai y byddwch chi'n cael un gyda dim ond dwy stori.
Rydym yn gobeithio y byddwch chi'n gweld y bwletinau a'r eitemau newyddion yn ddiddorol ac yn addysgiadol, ond hoffem glywed eich barn nawr bod y gwasanaeth wedi bod yn fyw ers dwy flynedd.
Dim ond deg cwestiwn sydd. Diolch am gymryd yr amser i'n helpu ni wella'r gwasanaeth.
Rhowch eich adborth erbyn dydd Sul 26 Hydref 2025.